Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gael arwyddair newydd

  • Cyhoeddwyd
arwydd yr eisteddfod ar lwyfanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddair y bardd T. Gwynn Jones wedi cael ei ddefnyddio ers dros 75 mlynedd

Bydd arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei newid yn 2024, yn sgil pryderon am gamddehongli'r geiriau 'byd gwyn'.

Mae'r arwyddair 'Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo' gan y bardd T. Gwynn Jones wedi bodoli ers dros 75 mlynedd.

Ond mewn ymgynghoriad diweddar ar foderneiddio'r ŵyl, fe ddaeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth iddyn nhw gael eu cyfieithu.

Cafodd yr arwyddair ei gyfieithu o'r dechrau gan y bardd T Gwynn Jones i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.

Ond roedd cyfieithiad llythrennol 'Byd Gwyn' yn poeni rhai, sef 'White World', gyda phryder ei bod yn bosib ei gam-ddehongli.

Yn dilyn cyfarfod o fwrdd yr eisteddfod nos Fercher, daeth cadarnhad bod penderfyniad wedi cael ei wneud i gomisiynu bardd i greu arwyddair newydd.

'Ystyr ddim yn ddigon clir'

Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi "ymchwilio ac ymgynghori" ar y mater gyda nifer o sefydliadau a siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, gan gynnwys arbenigwyr ar yr iaith a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n rhoi cyllid i'r ŵyl.

"Eu cyngor unfrydol oedd bod yr arwyddair yn brydferth o'i ddarllen gyda dealltwriaeth o'r Gymraeg, ond i'r di-Gymraeg a chenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd ac yn wir rhai Cymry Cymraeg, nid yw'r ystyr a fwriadwyd yn ddigon clir," meddai.

"Mae geiriau T. Gwynn Jones wedi teithio o Langollen o amgylch y byd, gan ledaenu'r neges Gymreig o heddwch, ac mae ein harwyddair wedi ein gwasanaethu'n aruthrol o dda ers 75 mlynedd; rydym yn gwbl falch ohono yn ei ystyr a'i gyfieithiad gwreiddiol.

"Wrth i Eisteddfod Llangollen barhau ar lwybr pwysig o adnewyddu ein pwrpas mewn byd modern, mae'r Bwrdd wedi cytuno bod hyn yn rhoi cyfle creadigol cyfoethog i ystyried y Gymraeg fel iaith fyw ac esblygol."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd arwyddair newydd yn croesawu ymwelwyr i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2024

Bydd arwyddair presennol a tharian adnabyddus yr eisteddfod yn parhau i fod yn rhan o'r ŵyl yn 2023, a bydd y bwrdd yn treulio'r pum mis nesaf yn ymgynghori ynglŷn â'r ffordd orau o gomisiynu arwyddair newydd, i'w ddadorchuddio yn 2024.

Mae'r eisteddfod hefyd yn pwysleisio nad ydyn nhw wedi awgrymu unrhyw hiliaeth ar unrhyw adeg, gan ddweud nad ydy mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn darllen y geiriau 'byd gwyn' yng nghyd-destun yr arwyddair fel unrhyw beth heblaw 'blessed'.

Yn ôl bwrdd yr eisteddfod, mater o gyfieithu yw hyn drwy'r dull "sydd fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio" gan gynulleidfaoedd di-Gymraeg ledled y byd.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yr eisteddfod yn parhau i arddel ystyr y geiriau fel roedden nhw wedi cael eu bwriadu gan T. Gwynn Jones.