Gwrthdrawiad car wedi 'newid bywyd' Miss Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd cystadleuaeth Miss Cymru yn dweud bod cael ei hanafu yn ddifrifol mewn damwain car wedi newid ei bywyd.
Roedd Darcey Corria, sy'n 21 oed ac o'r Barri ym Mro Morgannwg, wedi torri ei gwddf a phelfis mewn gwrthdrawiad ar yr M4 fis Ionawr eleni.
Ddeufis ers y ddamwain, mae Darcey yn byw gyda phoen o hyd ac yn gorfod gwisgo haearn gwddf.
Mae'n dweud bod mynd drwy'r broses o adferiad wedi "newid ei golwg ar fywyd."
Mae'r misoedd diwethaf, meddai, wedi cynyddu ei ffocws ar ennill Cystadleuaeth Miss World eleni, lle fydd hi'n cystadlu "fel y fersiwn gorau o'i hun" wedi iddi dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol.
'Es i drwy'r ffenestr'
Mae hi'n cofio gyrru adref o Abertawe, a'r tywydd yn wael, pryd gollodd hi reolaeth o'i char ger Pen-y-Bont.
Roedd y car wedi llithro ond roedd hi heb ei brifo. Wrth geisio ffoi, cafodd ei char ei fwrw a hithau ei hanafu.
"Wrth i mi ddringo drosodd, dwi'n cofio edrych yn ôl i weld pa mor agos oedd y ceir eraill ac wrth edrych yn ôl, fe darodd y car.
"Es i drwy'r ffenestr a dyna pam nes i dorri fy ngwddf a fy ngên. Torrais fy mhelfis a gwaelod fy nghefn o ganlyniad i daro'r llawr.
"Mae e'n fwy ofnus nawr i feddwl yn ôl," dywedodd. "Yr amser mwyaf ofnus oedd wrth fod wrth ochr yr heol.
"Roedd 'na fenyw oedd yn fy nghynorthwyo. Dwi'n cofio bod yn oer iawn, o'n i'n colli lot o waed a roedd hi'n dechrau tywyllu. O'n i jyst yn teimlo fel o'n i ar fy mhen fy hun."
Treuliodd Darcey ugain diwrnod yn yr ysbyty. Erbyn hyn mae hi'n derbyn ei thriniaeth fel claf allanol ond mae'n dal yn bosib y bydd yn rhaid iddi gael llawdriniaeth bellach ar ei gwddf.
"Mae hi 'di bod yn daith anhygoel. Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos gyntaf o fod adre, pan o'n i ar fy feddyginiaethau, o'n i'n teimlo'n gryf iawn.
"O'n i'n mynd ar y cyfryngau cymdeithasol ond doedd e heb daro fi eto, fel fy mod i'n breuddwydio.
"Wedyn yr ail wythnos, roedd 'na dipyn o emosiwn wrth i'r meddyginiaethau ddod i ben a phopeth yn taro fi.
"A'r wythnos ar ôl, o'n i jyst yn grac iawn. Dwi wir wedi mynd drwy gymaint o emosiynau.
"Ond mae bod yma nawr a theimlo'n bositif a dihuno heb grio a theimlo'n hapus a gwybod fy mod i'n mynd i wella yn galonogol iawn."
Mae Darcey wedi bod yn rhannu ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dangos i eraill dyw "bywyd ddim wastad yn secwins a thiaras".
Roedd cael ymweliad gan y Miss World bresennol, tra'i bod yn yr ysbyty, yn "fraint", meddai.
Mae rhai elfennau o'i thriniaeth wedi gwneud hi'n "hunanymwybodol" iawn, meddai, yn enwedig wrth wisgo'r haearn gwddf, hyd yn oed yn y gwely. Mae rhai pobl, meddai, yn edrych arni.
'Agor fy llygaid '
Dywed ei bod yn sylweddoli'r diffyg toiledau yn gymdeithasol i bobl gydag anableddau, a hithau wedi gorfod eu defnyddio ar ôl gadael yr ysbyty.
"Mae'r cyfan wedi gwneud i fi ddeall profiadau pobl sy'n byw gydag anableddau yn ddyddiol.
"Mewn ffordd dwi'n ddiolchgar bod y cyfan wedi agor fy llygaid i realiti sefyllfaoedd gwahanol mewn bywyd dwi heb eu profi o'r blaen.
"Mae'r profiad wedi newid fy mywyd. Dwi'n gwerthfawrogi pa mor denau yw'r linell rhwng byw a marw, a pha mor fyr ydy bywyd. Rydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel.
"Peidiwch byth fod yn genfigennus. Mae angen byw bywyd gyda bwriadau pur.
"Carwch, parchwch a gwerthfawrogwch y perthnasoedd sydd gennych oherwydd rydych chi byth yn gwybod pryd fydd y bobl yna yn cael eu cymryd."
Yn ogystal â'i hiechyd, mae Darcey nawr yn canolbwyntio ar fynd i gystadleuaeth Miss World, yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, yn nes ymlaen eleni - cystadleuaeth mae hi'n rhan ohoni ar ôl ennill Miss Cymru.
"Mi fyddai'n berson gwahanol iawn wrth sefyll ar lwyfan Miss World.
"Fyddwn i'n caru ennill ond dwi rili jyst yn falch fy mod i'n gallu bod yna. Dwi'n mynd i fwynhau bob eiliad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022