Dadorchuddio cerflun milwr a gafr yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cerflun milwr a gafr
Disgrifiad o’r llun,

Mae traddodiad y Ffiwsilwyr Cymraeg Brenhinol o ddefnyddio geifr yn dyddio i 1775

Mae cerflun o filwr a gafr wedi cael ei ddadorchuddio yn Wrecsam er mwyn nodi cysylltiad y ddinas gyda'r Ffiwsilwyr Cymraeg Brenhinol.

Mae'r cerflun yn sefyll ar safle Barics Hightown, lle mae bataliwn o'r catrawd wedi cael ei ailsefydlu'n ddiweddar.

Mae'r uned wedi defnyddio geifr ers canrifoedd, gyda'r traddodiad yn deillio o 1775 yn ystod rhyfel annibyniaeth America, ac mae'r cysylltiad gyda Wrecsam wedi bodoli er 1877 pan adeiladwyd y barics.

Dywedodd yr Uwchfrigadydd Chris Barry, Cyrnol Catrawd y Cymry Brenhinol: "Mae'r gatrawd yn falch iawn o'u harferion, traddodiadau a hanes.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Uwchfrigadydd Chris Barry bod y cerflun yn dangos hanfod y Ffiwsilwyr Cymraeg Brenhinol

"Mae'r cerflun anhygoel yn dangos beth mae'n golygu yn ei hanfod i fod yn rhan o deulu'r Cymry Brenhinol.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y berthynas arbennig rhwng pobl Wrecsam a'r gatrawd."

Teyrnged i filwyr a'u teuluoedd

Dywedodd y Cynghorydd Graham Rogers, a fu'n gyfrifol am y syniad o godi cofeb, ei fod "mor falch gweld y prosiect yma'n dwyn ffrwyth".

"Mae'n deyrnged addas i'r barics, y milwyr a wisgodd iwnifform y gatrawd gyda balchder, eu teuluoedd, ac er cof am lawer gafodd eu colli yn ystod y rhyfeloedd niferus bu'r Ffiwsilwyr Cymraeg Brenhinol yn rhan ohono," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cynghorydd Graham Rogers yn falch i weld ei broject yn cael ei wireddu

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda mi ar hwn, ac i bawb sydd wedi rhoi'n garedig er mwyn ei wneud yn bosibl. Da iawn bawb."

Fe wnaeth Cyngor Cymunedol Offa godi bron i £130,000 er mwyn adeiladu'r gofeb.

Dywedodd clerc y cyngor cymunedol, Karen Benfield, fod cwmnïau lleol hefyd wedi rhoi amser ac adnoddau.

"Os ydych chi'n ychwanegu hynny ar ben yr arian bu'n rhaid i ni godi, rydych yn sôn am £160-170,000," meddai.

Cafodd y cerflun ei gynllunio gan Nick Elphick o Landudno.

"Roedd yn rhaid iddo gynrychioli pob un o'r Ffiwsilwyr Cymraeg sydd erioed wedi bodoli, yn y gorffennol, nawr ac yn y dyfodol," meddai.

"Felly doedd o'n methu bod yn un 'o' rywun, sy'n golygu ei fod yn anfeidrol i mi."

Mae'r cerflun wedi'i amgylchynu gan erddi coffa, ac fe fydd yn cael ei oleuo pob noswaith.

Pynciau cysylltiedig