Ail berson wedi marw ar ôl gwrthdrawiad Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl bellach wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng fan a dau gerddwr yng Nghaerffili nos Wener.
Cyhoeddodd Heddlu Gwent brynhawn Llun fod dyn 58 oed a gafodd ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad wedi marw o'i anafiadau.
Bu farw menyw 67 oed hefyd yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Nantgarw am 19:50 ar 17 Mawrth. Roedd y ddau yn dod o Gaerffili.
Dywedodd yr heddlu bod Michael Saltmarsh, 48 oed o ardal Caerffili, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a gyrru o dan ddylanwad alcohol.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd brynhawn Llun, a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Casnewydd ar 17 Ebrill.
Mae swyddogion yn cynorthwyo teuluoedd y ddau berson a fu farw.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth neu luniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023