Tlws John a Ceridwen Hughes i Sioned Page-Jones
- Cyhoeddwyd
![Sioned Page-Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15544/production/_129046378_e3809c5a-ad11-43c8-a899-339c370e2e4e.jpg)
Mae Sioned Page-Jones "wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Sir Gar ers dros chwarter canrif"
Sioned Page-Jones o bentref Blaen-y-coed, Sir Gâr yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.
Fe wnaed y cyhoeddiad gan y gyflwynwraig Heledd Cynwal o flaen neuadd lawn yn Ysgol Bro Myrddin nos Lun.
Wedi ei henwebu gan aelodau Aelwyd Hafodwenog ar ran holl bobl ifanc y sir, cyflwynir y tlws yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Gyda'i hangerdd am faes y ddawns werin a dawns y glocsen yn cael ei ddisgrifio fel "heintus", mae Sioned wedi hyfforddi degau o grwpiau ac unigolion dawnsio a chlocsio yn enw Aelwyd Hafodwenog, Dawnswyr Talog a Chlocswyr Cowin.
Wedi dechrau ei thaith gydag Aelwyd Hafodwenog yn 19 mlwydd oed, cafodd flas ar hyfforddi yn 1997 wrth baratoi'r Parti Deusain dan 15 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.
![Sioned](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5374/production/_129046312_6afe768e-750b-4672-9644-6ad10b8d6eb8.jpg)
Sioned Page-Jones a'i theulu yn dilyn y cyhoeddiad nos Lun
Daeth llwyddiant mawr i'r aelwyd y flwyddyn honno - cafodd y parti drydydd yn y gystadleuaeth a daliodd Sioned y 'bug cystadlu', profiad sydd wedi cefnogi sawl cenhedlaeth ar hyd y sir ers hynny.
Daeth Sioned yn arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont pan ail-sefydlwyd y Clwb 2004 gan sefydlu Côr Cymysg am y tro gyntaf yn ei hanes.
18 mlynedd yn ddiweddarach mae dal wrth y llyw ac wedi hyfforddi ac arwain y Côr Cymysg i lwyddiannau mawr ar lwyfannau Eisteddfod CFfI Cymru.
'Cynnig cyfleoedd amhrisiadwy'
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch Sioned Page-Jones ar ennill Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled 2023.
"Mae Sioned wedi cefnogi a chynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Sir Gar ers dros chwarter canrif, a bydd hi'n fraint a phleser ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae'r Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i'w gynnal a'i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o'r mudiad."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar ym maes ieuenctid.
Bydd seremoni arbennig i gyflwyno'r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ddydd Iau, 1 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019