Cyn-golwr Lloegr, Ben Foster, yn ymuno â Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ben FosterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ben Foster yn dychwelyd i'r Cae Ras ar ôl bwlch o 18 mlynedd

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi arwyddo cyn-golgeidwad rhyngwladol Lloegr, Ben Foster.

Bydd yn ymuno ar gytundeb byr tan ddiwedd y tymor, er iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol y llynedd.

Daw ar ôl i'r golwr Rob Lainton gael ei anafu ddydd Sadwrn yn y fuddugoliaeth yn erbyn Bromley, gan olygu ei fod yn debygol o fethu gweddill y tymor.

Bydd Foster, sy'n 39 ac wedi ennill wyth cap i Loegr, yn dychwelyd i'r Cae Ras 18 mlynedd wedi iddo chware i'r Dreigiau ar fenthyg.

Ymhlith ei gyn-glybiau mae Manchester United, West Bromwich Albion a Watford.

'Pethau wedi newid'

Mae Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol gydag wyth gêm yn weddill o'r tymor.

Dywedodd Foster: "Mae pethau wedi newid ers o'n i yma ddiwethaf, ond mae'n dda i fod yn ôl, ac fel chwaraewr hefyd.

"Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r corff yn teimlo ar ôl hyfforddi heddiw. Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau.

"Pan oeddwn yma gynta' dyna oedd dechrau fy ngyrfa go iawn.

"Ar ddiwedd y cyfnod ar fenthyg, a chwarae i Wrecsam yn ffeinal Tlws LDV Vans yn Stadiwm y Mileniwm ges i fy arwyddo gan Manchester United y tymor canlynol. Roedd y peth yn hollol hurt!"