'Gwrthwynebu prosiectau ynni gwynt yn anfoesol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n anfoesol i wrthwynebu datblygiadau ar eich stepen drws, yn ôl arbenigwr newid hinsawdd.
Mae ymgyrchwyr yn erbyn ffermydd gwynt yn dweud eu bod nhw'n bryderus iawn am yr effaith ar gefn gwlad Cymru.
Ond yn ôl cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd Annibynnol y Deyrnas Unedig, nid yw'n dderbyniol i ddweud y dylai ardaloedd eraill ysgwyddo baich newid hinsawdd.
Dywed Llywodraeth Cymru bod yn rhaid cael cymysgedd o dechnoleg adnewyddadwy i gyrraedd eu targedau newid hinsawdd.
Mae degau o geisiadau mawr am ffermydd gwynt ar y tir yn cael eu hystyried wrth i Gymru geisio cyrraedd sero net erbyn 2050 ac i fod yn hunan-gynhaliol o ran ynni adnewyddadwy erbyn 2035.
Ar hyd a lled Cymru mae cymunedau yn dod at ei gilydd i wrthwynebu prosiectau ynni gwynt a pheilonau yn eu hardaloedd.
Yng Nghwmafan, ger Port Talbot, mae Rhodri Williams ac Andrew Thomas yn edrych allan ar y mynydd gerllaw, mynydd maen nhw'n cyfeirio ato fel "eu hafan o wyrddni".
Maen nhw'n rhan o grŵp o 1,000 o bobl ar Facebook sy'n gwrthwynebu cynllun fferm wynt Y Bryn i godi 21 o dyrbinau dros 200m o uchder fydd i'w gweld o'u cartrefi yng Nghwmafan.
"Bydden nhw 'run uchder â'r Eiffel Tower ym Mharis neu'r Shard yn Llundain a bydd y rhain ar ben mynydd eto.
"Felly ni'n siarad am tua 600metr o uchder a bydd y rhain yn agos i dai pobl hefyd, yn llai na milltir i ffwrdd.
"Felly mae'r potensial i gael effaith ar fywyd pobl yn fawr iawn."
Yn ôl Rhodri Williams, does dim angen prosiectau ynni gwynt ar y tir, gan fod digon o ffyrdd eraill o gynhyrchu trydan.
"Mi ddylen ni fod yn edrych ar ffyrdd eraill fel hydro, ac ynni arnofiol, yn ogystal ag ynni o'r llanw."
'Ysgwyddo baich'
Mae rheolwr prosiect fferm wynt Y Bryn, Trevor Hunter, yn dweud bod newidiadau wedi cael eu gwneud i'r cynlluniau ers yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf.
"Rydym wedi bod yn edrych yn agos iawn ar sut allwn ni newid cynllun y safle er mwyn lleihau pa mor weladwy yw'r tyrbinau o gymunedau lleol," meddai.
Ond yn ôl yr Arglwydd Deben, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd Annibynnol y DU, tydi hi ddim yn dderbyniol i ddweud y dylai ardaloedd eraill ysgwyddo baich newid hinsawdd.
"Rwy'n credu bod rhaid i bob cymuned ofyn i'w hun, os na gawn ni rhain, be gawn ni?
"Allwn ni ddim dweud bob tro ein bod ni'n gefnogol i brosiect ond yn rhywle arall. Tydi hynny ddim yn safbwynt moesol derbyniol."
Mae 10 o ardaloedd wedi eu hamlinellu yng ngweledigaeth Cymru'r Dyfodol, dolen allanol - sef rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y tir.
Mae dau yn y gogledd, dau yn y de a chwe safle yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Dyma ardaloedd sydd wedi'u penodi ymlaen llaw fel rhai sy'n briodol ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt.
'Capasiti annigonol'
Tydi hyn ddim yn golygu y bydd ceisiadau yn cael eu cymeradwyo yn awtomatig, ond mae yna ragdybiaeth o blaid datblygiadau mawr yn ôl y polisi.
Mae un datblygwr, Bute Energy, wedi gwneud ceisiadau am bedair fferm wynt yn yr ardaloedd yma, un yng Nghonwy, dwy yn sir Faesyfed ac un ar y ffin rhwng cynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf.
Maen nhw'n gobeithio cysylltu'r prosiectau ym Mhowys i'r grid yn defnyddio rhwydwaith o beilonau ar draws Powys a Sir Gâr.
Mae capasiti grid y canolbarth ar hyn o bryd yn annigonol i gwrdd â galw'r dyfodol yn ôl grŵp o aelodau seneddol.
Mae'r prosiectau wedi bod yn ddadleuol iawn gyda phryderon am eu maint a'u hagosrwydd i gartrefi.
Yn ôl cyfarwyddwr materion allanol y cwmni, Aled Rowlands, maent yn gwrando ar bryderon pobl.
"Be rydyn ni'n gwneud ydi gwrando, rydyn ni'n gwneud cynigion ac wedyn yn gofyn i bobl ddweud eu barn wrthym ni."
Maen nhw'n dweud bod y rhan fwyaf o bobl yn deall ac yn cefnogi'r angen i newid at ynni adnewyddadwy, ond mae'r newid yna'n anochel am olygu isadeiledd fel peilonau i wella capasiti'r grid.
"Ma' sut ma' gymdeithas yn mynd i ddefnyddio ynni yn newid ac yn newid trwy'r adeg.
"Erbyn 2050 fydd rhan fwya' helaeth ohonon ni'n defnyddio ceir electric felly bydd isie chargo nhw.
"Fydd isie ni defnyddio ynni electric er mwyn gwresogi'n tai ni er enghraifft.
"Felly ma isie i ni ffeindio ffyrdd i gallu creu'r ynni hynny ac i sicrhau bod e' yn y lle iawn ar y pryd iawn, er mwyn bo ni gyd yn gallu defnyddio fe."
Mae pob cais cynllunio mawr ar gyfer cynlluniau ynni (dros 10MW) yn cael eu hystyried yn Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol., dolen allanol
Golyga hyn nad ydynt angen caniatâd cynllunio yr awdurdod lleol ond yn hytrach eu bod yn cael eu penderfynu gan grŵp o'r enw Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW).
Yn ôl Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, mae nifer y 'ceisiadau anaddas' ar gyfer tyrbinau dros 200m o uchder a pheilonau ar draws cefn gwlad Cymru yn achosi pryder mewn sawl cymuned.
Yn ôl Jonathan Dean o gangen Ynys Môn, CPRW, mae nifer y ceisiadau diweddar a'r braw maen nhw'n ei achosi yn yr ardaloedd hynny heb ei debyg o'r blaen.
"Rydym yn pryderu bod y goldrush i gyrraedd sero-net yn golygu bod risg o wneud niwed na ellir ei ddadwneud i gefn gwlad Cymru ac mae polisïau Llywodraeth Cymru yn golygu nad oes digon o fesurau diogelu rhag datblygiadau anaddas."
Mae'r elusen yn ffafrio defnyddio gwynt o'r môr i gyrraedd targedau newid hinsawdd, ond mae un arbenigwr mewn ynni adnewyddadwy yn rhybuddio rhag dibynnu gormod ar dechnoleg sydd heb ei brofi eto.
'Strategaeth beryglus'
Mae Nicholas Jenkins yn Athro ynni adnewyddadwy yn Yr Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud fod angen mwy nag un opsiwn.
"Er mwyn datgarboneiddio holl economi'r DU erbyn 2050 ac i ddatgarboneiddio'r cyflenwad trydan erbyn 2035, sy'n hynod o agos, mae angen i ni gael yr holl opsiynau sydd ar gael mewn gwirionedd.
"Mae dweud un opsiwn ar ei ben ei hun yn debygol o fod yn afresymol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae angen ystod o dechnolegau, ar raddfeydd gwahanol, i ddiwallu ein hanghenion trydan yn y dyfodol wrth i ni symud tuag at system ynni sero net.
"Mae gwynt a solar yn opsiynau cost-effeithiol i gynhyrchu trydan ac mae ganddynt rôl glir i'w chwarae."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020