Undeb athrawon NEU yn derbyn cynnig cyflog newydd

  • Cyhoeddwyd
athrawesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd athrawon yng Nghymru yn cael codiad cyflog o 8% wedi'i ôl-ddyddio i fis Medi y llynedd

Mae aelodau undeb athrawon mwyaf Cymru wedi derbyn cynnig cyflog newydd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn streicio.

Dywedodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) fod athrawon wedi cytuno i godiad cyflog cyffredinol o 8% eleni.

Pleidleisiodd 73% o aelodau'r NEU a ymatebodd i'r balot o blaid y cynnig diweddaraf.

Dywedodd y gweinidog addysg, Jeremy Miles fod hyn yn "newyddion da i ddisgyblion, rhieni ac athrawon".

Beth ydy'r cytundeb?

Mae'n golygu y bydd athrawon yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog o 8% yn 2022/23, wedi'i ôl-ddyddio i fis Medi y llynedd.

Mae'n cynnwys cynnydd o 6.5% mewn tâl blynyddol ac un taliad o 1.5%.

Mae cynnydd o 5% mewn tâl blynyddol hefyd wedi'i gytuno ar gyfer 2023/24, sy'n fwy na'r cynnig gwreiddiol o 3.5%.

Arweiniodd streic athrawon ar 1 Chwefror a 2 Mawrth at aflonyddwch i filoedd o ysgolion ledled Cymru.

Bu'n rhaid i lawer gau yn gyfan gwbl a dim ond yn rhannol agored oedd eraill oherwydd lefelau staffio.

Roedd disgwyl i athrawon gerdded allan am ddau ddiwrnod arall o streicio ar 15 a 16 Mawrth, ond cafodd hynny ei atal yn dilyn cynnig diweddaraf i aelodau'r NEU gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd streicio gan athrawon ledled Cymru ar 1 Chwefror a 2 Mawrth

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yr NEU na fyddai'r cytundeb yn bosib oni bai am y streicio diweddar.

"Yn amlwg nid oedd ein haelodau eisiau i'r aflonyddwch hwnnw ddigwydd ond fe gawsom gefnogaeth sylweddol gan rieni a'r cymunedau," meddai David Evans.

"Pe na bai'r dyddiau streic hynny wedi digwydd, ni fyddem wedi dod o gwmpas y bwrdd gyda Llywodraeth [Cymru] i drafod y cynnig penodol hwn.

"Nid oedd unrhyw gynigion mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau tan i'r NEU nodi ei fod yn barod i gymryd streic.

"Doedd dim gwelliannau gyda ni nes iddyn nhw fynd ar streic a bygwth streicio pellach.

"Mae'r gwobrau nawr ar gyfer pob athro yng Nghymru a'n haelodau ni sydd wedi sicrhau hynny."

Ychwanegodd: "Rydym dal yn siomedig na wnaeth y Gweinidog unrhyw gynnig i staff cymorth, ond gwyddom ein bod wedi codi proffil y materion hollbwysig sy'n effeithio ar bawb ym myd addysg.

"Bydd ein Hadran Weithredol Genedlaethol yn ystyried y camau nesaf yn ein hymgyrch cyflog ar gyfer staff cymorth."

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, sydd wedi'u gweithredu'n fyr o streic, yn parhau i ymgynghori ag aelodau ynghylch y cynnig cyflog diweddaraf.

'Tawelwch meddwl'

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Dwi'n falch bod aelodau'r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi pleidleisio dros dderbyn y cynnig cyflog.

"Mae hyn yn newyddion da i ddisgyblion, rhieni ac athrawon.

"Dwi am ddiolch i undebau ac awdurdodau lleol am gymryd rhan mewn ffordd gadarnhaol yn y trafodaethau.

"Bydd canlyniad heddiw yn rhoi tawelwch meddwl i ddysgwyr a rhieni a chyda'n gilydd fe allwn ni ganolbwyntio ar yr addysgu a'r dysgu.

"Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ar y materion sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith yr ydym wedi'u hadnabod gyda'n gilydd."