Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 31-5 Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Sisilia Tuipulotu of Wales powers over to scoreFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Roedd hi'n fuddugoliaeth hawdd i Gymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Gyda hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, yn gobeithio gweld ceisiau gan y garfan yn ystod y bencampwriaeth, mae'n siŵr ei fod yn falch o weld pedwar yn ystod hanner cyntaf y gêm agoriadol.

Dair munud wedi'r gic gyntaf, fe ddaeth cais i Gymru gan Alex Callender, a'r rhagolygon ar gyfer gweddill y gêm yn teimlo'n addawol iawn.

Funudau'n ddiweddarach, fe ddaeth cais arall gan y mewnwr Keira Bevan a throsiad hefyd.

Wedi'r ugain munud cyntaf, dal i ddod wnaeth y ceisiau - y tro yma gan Sioned Harries - a'r Crysau Cochion yn gyfforddus ar y blaen.

Gydag un cais arall cyn hanner amser gan Hannah Jones, roedd y tîm ar y blaen o 26-0.

Wrth i'r ail hanner ddechrau, roedd Iwerddon yn dal i fod dan bwysau.

Fe gymerodd Gymru fantais o hyn ac wedi dwy ymgais, Sisilia Tuipulotu aeth am y llinell gais yn llwyddiannus.

Mewn un ymdrech olaf fe lwyddodd Iwerddon i sicrhau pump pwynt ar y sgorfwrdd gyda chais gan y capten, Fryday.

Gyda'r sgôr terfynol yn 31-5 ar Barc yr Arfau, mae Cymru'n dechrau eu hymgyrch gyda phwynt bonws.