Cyfarfod 'tyngedfennol' am newidiadau bwrdd rheoli URC
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi rhybuddio "bydd pethau'n mynd o ddrwg i waeth" i rygbi yng Nghymru os na fydd clybiau yn cefnogi newidiadau Undeb Rygbi Cymru (URC).
Fe wnaeth Dr Huw Jones ei sylwadau cyn i glybiau ymgynnull ar gyfer cyfarfod arbennig yn Aberafan ddydd Sul.
Mae'r cyfarfod wedi cael ei drefnu ar ôl honiadau o fwlio a gwahaniaethu ar sail rhyw o fewn URC gan arwain at ymddiswyddiad y Prif Weithredwr Steve Phillips.
Mae'r Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker wedi disgrifio'r cyfarfod fel un tyngedfennol, gan ddweud bod dyfodol y gêm yn y fantol - ac mae Dr Huw Jones yn cytuno.
Dywedodd: "Bydd pethau'n mynd o ddrwg i waeth os na fydd y clybiau'n pleidleisio dros y newidiadau yma.
"Bydd noddwyr yn edrych ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru ac yn gofyn: 'Ydyn ni eisiau cysylltu ein hunain gyda rhain?'
"Bydd enw da yr undeb yn mynd i lawr a bydd yna fwy o broblemau ariannol i'r gêm genedlaethol, i'r gêm ranbarthol ac i'r clybiau hefyd."
Newidiadau posib i'r bwrdd rheoli
Ar hyn o bryd mae yna 12 o gyfarwyddwyr ar fwrdd rheoli URC. Ynghyd â chadeirydd a prif weithredwr mae yna wyth aelod yn cynrychioli'r clybiau a dau aelod annibynnol.
O dan y drefn newydd, fyddai'r Prif Weithredwr a'r Cadeirydd yn parhau ar y bwrdd.
Ond mi fyddai cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol a chynrychiolydd o gêm y merched yn ymuno â nhw.
Fe fyddai nifer y cyfarwyddwyr annibynnol yn cynyddu i bedwar, ac mi fyddai pedwar yn hytrach nag wyth aelod yn cynrychioli'r clybiau.
Mae URC yn gobeithio y byddai o leiaf pump ohonyn nhw yn fenywod.
'Cam ymlaen i'r cyfeiriad cywir'
Mae Anwen Huws o dîm merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn cefnogi'r newid.
"Mae o'n beth da fod cymdeithas yn dechrau wynebu hwn fel problem a bod rygbi, sydd mor bwysig ym mywydau cymaint o ferched, yn cael cyfle i gymeryd cam ymlaen i'r cyfeiriad cywir."
Mae aelod arall o'r tîm, Nia Jones, hefyd yn cefnogi'r egwyddor.
"Fi'n credu mae angen mwy o fenywod yn y safleoedd yna yn yr undeb ond dwi jyst yn gobeithio y byddan nhw'n rhai sy'n deall y gêm ac yn deall y broses.
"S'dim pwynt cael nhw yno jyst achos bod nhw'n fenywod."
Yn ôl cadeirydd y clwb, Rhys Jones, fe fyddan nhw'n pleidleisio i gefnogi'r newid ddydd Sul.
"Mae rhaid i bethau newid. Mae'r byd wedi newid a mae rygbi'n gorfod esblygu hefyd. Dyw'r cyfansoddiad ddim wedi newid ers achau a mae'n rhaid iddo newid nawr.
"Os nad yw clybiau'n gallu gweld hynny dwi ddim yn credu bod nhw'n deall sut mae'r gêm yn gorfod newid.
"Mae'r gêm broffesiynol a'r gêm amatur ar wahân, a dyw'r amaturiaid ddim yn gallu rhedeg y gêm broffesiynol."
'Pwysig i gael amrywiaeth'
Mae gan Dr Carol Bell brofiad helaeth o wasanaethu ar fyrddau cwmnïau a sefydliadau.
Dywedodd: "Mae gan Undeb Rygbi Cymru drosiant o bron i gan miliwn o bunnoedd y flwyddyn a byddai unrhyw fusnes sy'n troi drosodd y maint yna o arian eisiau'r bwrdd gorau posibl.
"Mae'n bwysig i gael amrywiaeth a'r sgiliau iawn o ran strategaeth, llywodraethant a'r gallu i edrych tuag at y dyfodol i wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer rygbi yng Nghymru."
Bydd angen i 75% o gynrychiolwyr y clybiau bleidleisio o blaid y newidiadau er mwyn eu cyflwyno.
Os na fydd hynny'n digwydd mae nifer yn rhybuddio mai dwysau bydd problemau rygbi yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023