Honiadau o 'sylwadau homoffobig' o fewn URC am y dyfarnwr Nigel Owens
- Cyhoeddwyd
Mae rhagor o bobl wedi siarad ynglyn â honiadau o rywiaeth a bwlio o fewn Undeb Rygbi Cymru (URC) - gyda honiadau fod iaith homoffobaidd wedi'i ddefnyddio am y dyfarnwr Nigel Owens.
Dywedodd un cyn-aelod o staff fod iaith homoffobig gan un unigolyn i ddisgrifio Mr Owens yn rhan o "iaith pob dydd" y swyddfa ac nad oedd hynny yn cael ei herio.
Fe wnaeth cyn-aelod benywaidd hefyd ddisgrifio sut i'w hysbryd gael ei dorri yn ystod ei chyfnod gyda'r undeb.
Yn siarad ar raglen Newsnight dywedodd Nigel Owens fod angen i Undeb Rygbi Cymru ymchwilio i unrhyw honiadau o homoffobia, ond ychwanegodd ei fod bob amser yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi gan yr undeb.
Dywedodd prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker ei fod yn ymddiheuro'n ddiffuant am y gweithredoedd, agweddau ac ymddygiad gafodd eu disgrifio.
'Dwi'm yn coelio be' dwi'n glywed'
Daw wrth i dasglu newydd, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Anne Rafferty, ddechrau ar eu gwaith o edrych ar ddiwylliant Undeb Rygbi Cymru, yn dilyn wythnosau cythryblus a welodd brif weithredwr yr undeb yn ymddiswyddo.
Daw hynny'n dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates fis diwethaf, ac ers hynny mae nifer o gyn-weithwyr yr undeb wedi cysylltu â BBC Cymru - yma mae dau yn rhannu eu straeon o fywyd yn gweithio gydag URC.
Roedd Jen, nid ei henw iawn, yn gweithio i'r undeb tan 2021 gyda'r nod o geisio tyfu'r gamp ymhlith yr ifanc, ond rhoddodd gorau i'w swydd ar ôl i'w hysbryd gael ei dorri ac iddi ddioddef blinder emosiynol a chorfforol.
Dywedodd mai hon oedd ei "swydd ddelfrydol", ond iddi yn y pen draw gymryd drosodd ei bywyd - gan weithio 70 awr yr wythnos.
"Roeddet ti'n teimlo: 'Ydw i'n ddigon da? Ydi'r gwaith dwi'n 'neud be' ma' nhw'n chwilio amdan?' Ac o'n i jyst yn teimlo bod fi'n gorfod profi fy hun fel merch drwy'r adeg," meddai.
"O'n i jyst fel y person 'o neith hi sortio'r gwirfoddolwyr, ac o'n i'n teimlo fel… o'n i yna erbyn diwedd fel tick box i rywun."
Fel rhan o'i gwaith dywedodd Jen iddi geisio gwneud clybiau a hyfforddwyr yn ymwybodol o sut y gallai fod angen addasu hyfforddiant o amgylch cylch mislif menyw, ond fod pobl wedi chwerthin arni.
Disgrifiodd hefyd gyfarfod pan wynebodd safbwyntiau rhywiaethol wrth drafod mater mislif menywod a chwaraeon.
"Roeddwn i wedi paratoi cyflwyniad... mi gyflwynais fy hun ac yna'r ymateb ges i oedd: 'Dydi o'n neis i weld dynas yn gweithio'n galad a ddim mewn cegin'," meddai.
"Ac ar y pwynt yna dwi'n rhewi. Dwi'm yn meddwl 'mod i'n coelio be' dwi'n glywed. O'n i'n wallgo' a nes i adael yr alwad achos o'n i methu cario mlaen."
Yn ddiweddarach cwynodd Jen i'w rheolwr, ac fe gafodd yr unigolyn a wnaeth y sylw eu gofyn i ymddiheuro, ond dywedodd Jen fod y difrod wedi'i wneud oherwydd nad oedd y sylw wedi'i herio o flaen eraill yn ystod yr alwad ei hun.
Yn y pen draw, mae Jen yn dweud ei bod hi'n teimlo na chafodd hi ei chefnogi o gwbl gan Undeb Rygbi Cymru.
"Oedd o'n lle unig iawn. O'n i'n teimlo'n flin a rhwystredig, dwi'n meddwl, bod pobl ddim yn gwrando," meddai.
'Wedi chwalu fi'
Un diwrnod, penderfynodd sôn wrth reolwr am ei phryderon.
"Dwi'n cofio 'naeth o jyst chwerthin yn gwynab fi ar y pryd, yn dweud 'mae'r job yn anodd a 'dan ni gyd yn stryglo ar adegau'.
"Dwi'n berson sydd byth yn gofyn am help, a phan nes i ofyn am gymorth, pan oedd iechyd meddwl mor fawr ar y pryd - ac mae o dal yn - o'n i'n siomedig efo'r ffordd naethon nhw ddelio efo fo. Dwi'm 'di bod yr un peth ers hynny."
Gadawodd Jen URC ddwy flynedd yn ôl, ond mae'r profiad wedi cael effaith fawr arni.
"O'n i 'di colli hyder yn y diwedd, o'n i'n teimlo mod i ddim digon da, a dim ots be o'n i'n 'neud, doedd o'm digon... i'r pwynt wnaeth o ddinistrio hyder fi a llosgi fi allan yn feddyliol a chorfforol.
"'Naeth o chwalu fi, ac mae'n drist mod i'n edrych nôl rŵan a methu meddwl am fynd yn ôl i chwarae rygbi.
"Dwi 'di dod allan yr ochr arall rwan, ond mae 'di bod yn anodd.
"Y ffaith mod i 'di gorfod newid gyrfa'n gyfan gwbl o be' o'n i'n garu ei 'neud, i'r ffaith mod i'n gorfod datblygu fy hyder yn ôl eto - mae 'di bod yn siwrne reit anodd."
Wrth ymateb dywedodd prif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, ei fod yn "hynod ddirdynnol clywed am y profiadau y mae'r unigolion hyn wedi'u dioddef".
"Does dim lle i'r ymddygiad sy'n cael ei ddisgrifio yn y gymdeithas, yn Undeb Rygbi Cymru nac ychwaith yn rygbi Cymru," meddai.
"Rydym yn condemnio'r agweddau a'r ymddygiadau hyn yn llwyr."
'Heb eu dwyn i gyfrif'
Roedd Martyn Lewis yn ddyfarnwr tan 2016 - yn cadw golwg ar gemau rygbi Uwch Gynghrair Cymru a bod yn ddyfarnwr cynorthwyol ar gyfer gemau rhanbarthol.
Mae'r dyn 55 oed yn dweud fod gan rai unigolion o fewn yr undeb ormod o reolaeth, ac mae'n disgrifio clywed iaith homoffobaidd, gyda chydweithiwr yn cyfeirio dro ar ôl tro at y dyfarnwr Nigel Owens fel "y bachgen hoyw".
Fe gyhoeddodd Nigel Owens ei fod yn hoyw yn 2007, ac ymddeol o ddyfarnu gemau rhyngwladol yn 2020.
"Pan mai dyna ydi'r iaith o ddydd i ddydd mewn amgylchedd swyddfa o gwmpas yr Undeb - a dydi hyn ddim yn rhywbeth oedd yn cael ei ddweud o dro i dro, roedd hyn yn cael ei ddweud o flaen pawb yn y busnes," meddai Mr Lewis.
"Ac i beidio â chael eu dwyn i gyfri' ar hynny, mae wir yn dangos diwylliant o bobl lle does neb yn sefyll i fyny iddyn nhw.
"A dweud y gwir, dylai'r rhai mewn swyddi uwch fod wedi atal hynny beth bynnag."
Dywedodd Nigel Owens wrth Newsnight nad oedd yn gwybod dim am bobl yn defnyddio termau homoffobig amdano o fewn y sefydliad.
Ond roedd yn "ofidus ac yn siomedig iawn" i glywed am sylwadau o'r fath, meddai.
"Yn ystod fy 22 mlynedd yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru fel dyfarnwr rygbi proffesiynol, dim ond cefnogaeth enfawr gan Undeb Rygbi Cymru dwi wedi ei gael," meddai.
Roedd y sefydliad wedi newid llawer ers iddo ddod allan, ychwanegodd.
"Doedd neb allan [fel hoyw] yn y byd macho rygbi. Mae'n rhaid i chi gofio bod pethau'n wahanol iawn nawr.
"Mae pethau wedi newid, mae llawer o waith i'w wneud eto ond mae pethau'n llawer gwell nawr nag oedden nhw bryd hynny. Mae'n broses barhaus."
O'i brofiad ef, roedd rygbi yn gamp amrywiol, meddai, ond ychwanegodd y byddai "lleiafrif o bobl sydd ddim yn bobl neis o bob cefndir" bob amser.
Mae Martyn Lewis, sydd bellach yn byw yng Nghanada, yn dweud iddo geisio tynnu sylw'r unigolyn at y weithred wael, ond chafodd y peth ddim ei daclo ar lefel uwch.
Mae hefyd yn dweud fod diffyg proffesiynoldeb mewn nifer o feysydd o fewn yr undeb, a'i fod yn cael ei "redeg fel grŵp o amaturiaid".
'Diwylliant o gelu'
Ychwanegodd nad oedd yn synnu clywed am yr hanesion ddaeth yn gyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Fe fyddwn i'n cwestiynu unrhyw un sydd wedi bod yn rhan o'r Undeb i ymateb gyda syndod, ac os oedden nhw wirioneddol wedi'u synnu yna doedden nhw ddim yn cerdded o gwmpas gyda'u llygaid ar agor," meddai.
Fe wnaeth Martyn Lewis gwyn answyddogol i'r undeb yn 2016 ar ôl i'w drwydded gael ei gymryd oddi arno. Mae'n credu i hynny ddigwydd gan iddo siarad yn gyhoeddus yn erbyn uwch gydweithiwr.
Cafodd ei drwydded ei adfer ar ôl iddo gysylltu â chwmni cyfreithiol, ac mae'n credu na chafodd y gwyn ei hymchwilio'n gywir.
"Mae'n ddiwylliant o gelu, a dyna sy'n rhwystredig iawn," meddai.
Mae Martyn eisoes wedi cysylltu â'r tasglu, ac mae o'r farn fod angen i bobl fod yn rhan ohono.
"Dwi'n annog unrhyw un i gysylltu efo nhw, i gymryd rhan," meddai.
"Mae'n anodd, yn enwedig os ydych chi'n dal i fod yn rhan o'r diwylliant. Felly mae'n rhaid i chi fod yn unigolyn cryf i sefyll lan a siarad mas."
'Ymddiheuro'n ddiffuant'
Dywedodd prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker: "Ry'n ni'n gweithio'n galed ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled URC, ond ry'n ni hefyd yn gwybod ein bod wedi siomi unigolion yn y gorffennol, ac hefyd mewn hanes diweddar iawn.
"Dyna pam rydym wedi penderfynu bod Adolygiad Annibynnol yn hanfodol."
Ychwanegodd: "Mae'r Gwir Anrhydeddus y Fonesig Anne Rafferty FYB CG wedi'i phenodi'n Gadeirydd y Panel Adolygu Annibynnol ac mae ei gylch gorchwyl llawn wedi'i gyhoeddi.
"Rydym yn croesawu'r ymyrraeth hon ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ac at weithredu newid angenrheidiol.
"Yn olaf, mae'n bwysig i'r rhai ohonom yma nawr yn URC ymddiheuro'n ddiffuant am y gweithredoedd, yr agweddau a'r ymddygiadau a ddisgrifir.
"Mae ein gêm wedi methu'r unigolion sydd wedi eu heffeithio ac mae'n ddrwg iawn gennym."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023