Dyn yn euog o lofruddio dynes 71 oed yn Y Bermo
- Cyhoeddwyd

Bu farw Margaret Barnes yn yr oriau mân ddydd Llun, 11 Gorffennaf 2022
Mae dyn o Wynedd wedi ei ganfod yn euog o lofruddio dynes oedrannus a oedd wedi camgymryd ei dŷ am westy.
Roedd David Redfern, 46, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth neu ddynladdiad.
Roedd Redfern a'i bartner wedi canfod Margaret Barnes, 71, yn eu hystafell wely yn Y Bermo - roedd hi'n eistedd yn eu gwely yn yfed jin a thonic ar 10 Gorffennaf y llynedd.
Cyn hynny, roedd y diffynnydd a'i bartner Nikki Learoyd-Lewis wedi bod allan yn yfed yn y dref.
Ar ôl cyrraedd gartref ac wrth fynd i'r gwely, daethant o hyd i ddrws eu hystafell wely wedi'i gloi a bu'n rhaid nôl allwedd sbâr.
Dywedodd fod Ms Barnes wedi drysu ac iddi fwmian rhywbeth fel "dyma fy ystafell i ac rydw i i fod yma".

Bydd David Redfern yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener
"Roedd 'na ddynes yn gorwedd yn ein gwely, yn yfed ac ysmygu," dywedodd Redfern wrth roi tystiolaeth yn ystod yr achos.
"Roedd 'na ges teithio du ar y llawr, dillad yn hongian ac ar yr hyd yr ystafell."
Clywodd y llys fod yr awyrgylch wedi newid pan ffoniodd David Redfern yr heddlu ac i'w bartner sylwi fod Margaret Barnes i bob golwg wedi rhoi lludw eu ci marw, Jake, yn ei bag.
Wrth iddo orfodi Ms Barnes i adael honnodd Redfern fod y ddau wedi syrthio i'r llawr ar dop y grisiau, a'i fod wedi ei llusgo i lawr wrth ei thraed.

Roedd Margaret Barnes wedi mynd i'r tŷ anghywir ger traeth Y Bermo
Yn ôl Redfern, ar ôl gadael y tŷ fe arhosodd Ms Barnes ar y stryd y tu allan am beth amser.
Honnodd wedyn fod Ms Barnes wedi symud tuag at Ms Learoyd-Lewis a'i fod ef wedi ceisio ei hatal, ac o bosib fod ei ben-glin wedi taro Ms Barnes.
Fe ddywedodd Redfern ei fod yn derbyn ei fod wedi bod yn ymosodol yn eiriol yn ystod y digwyddiad ond mynnodd nad oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth.
Dywedodd nad oedd wedi sylwi fod gan Ms Barnes unrhyw anafiadau difrifol.

Bu farw Margaret Barnes ar y stryd y tu allan i dŷ David Redfern
Torrodd Margaret Barnes sawl un o'i hasennau a dioddefodd anafiadau difrifol i'w hiau.
Clywodd y rheithgor fod yr anafiadau'n debyg i rai fyddai'n deillio o wrthdrawiad ffordd.
Bu farw ar y stryd y tu allan i dŷ David Redfern yn ystod oriau mân 11 Gorffennaf.
Cafodd ei disgrifio fel "gwraig, y fam orau, nain a chwaer ffyddlon".
Bu'r rheithgor yn trafod am 15 awr cyn dod i benderfyniad fod Redfern yn euog o lofruddio Ms Barnes.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022