Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yn Y Bermo

  • Cyhoeddwyd
Margaret BarnesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Margaret Barnes ei bod yn "wraig ffyddlon, a'r fam, nain a chwaer orau y gellid gofyn amdani"

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes yn ne Gwynedd fis diwethaf.

Bu farw Margaret Barnes, 71, o Birmingham ar Rodfa'r Môr, Y Bermo yn oriau mân ddydd Llun 11 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd eu bod wedi eu galw i'r cyfeiriad yn dilyn adroddiadau o ddynes mewn "cyflwr gofidus".

Ymddangosodd David Redfern, 45, o'r Bermo yn Llys Ynadon Llandudno fore Gwener.

Ni wnaeth gyflwyno ple, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangosiad arall yr wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Margaret Barnes ar Rodfa'r Môr, Y Bermo yn yr oriau mân ddydd Llun 11 Gorffennaf

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Ms Barnes ei bod yn "wraig ffyddlon, a'r fam, nain a chwaer orau y gellid gofyn amdani".

"Roedd yn gwenu bob amser ac roedd o hyd yn ofalgar, cariadus a pharod i gynorthwyo unrhyw un, yn enwedig ei theulu yr oedd yn gofalu'n annwyl amdano.

"Mae wedi cael ei chymryd oddi arnom yn llawer rhy gynnar. Bydd colled fawr ar ei hôl a gallwn ddweud â llaw ar ein calon na fydd ein bywydau yr un fath hebddi."

Pynciau cysylltiedig