Gallai chwaraewyr rygbi hawlio miliynau o bunnoedd yn sgil anaf

  • Cyhoeddwyd
Ryan JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Ryan Jones, ymhlith 200 o gyn-chwaraewyr sy'n dwyn achos yn erbyn cyrff sy'n llywodraethu rygbi

Fe allai cyn sêr rygbi sydd wedi dioddef anafiadau i'w hymennydd dderbyn miliynau o bunnoedd gan awdurdodau'r gamp i dalu am eu gofal, medd arbenigwyr.

Yn ôl rhai arbenigwyr cyfreithiol, gan gynnwys un cyn-chwaraewr sydd bellach yn gweithio ym maes anafiadau difrifol, fe allai'r iawndal yn erbyn World Rugby, Undeb Rygbi Cymru a'r undeb yn Lloegr arwain at daliadau gwerth dros £300m.

Mae un cyn-chwaraewr 46 oed, a chwaraeodd rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair, Lenny Woodard, yn pryderu am ei ddyfodol.

Cafodd ddiagnosis o anaf i'w ymennydd a dyw e ddim am weld ei wraig a'i blant yn gorfod talu am y gofal y gallai fod angen arno.

Mae dros 200 o gyn-chwaraewyr, yn ddynion a menywod, bellach yn rhan o achos cyfreithiol sy'n cyhuddo'r cyrff sy'n rheoli'r gamp o fethu â'u hamddiffyn yn erbyn anafiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lenny Woodward, sydd wedi'i anafu, nad yw am weld ei wraig a'i blant yn gorfod talu am y gofal y gallai fod angen arno

Mewn datganiad dywedodd awdurdodau'r gamp (WR, URC a RFU) "ein bod ni'n ymdrechu'n barhaus i ddiogelu a chefnogi ein holl chwaraewyr".

Ond mae'n bosib y cymer hi flynyddoedd cyn i'r achosion fynd ger bron barnwr.

Er mwyn llwyddo fe fyddai'n rhaid i'r chwaraewyr brofi'r honiadau o esgeulustod - sef bod awdurdodau'r gamp wedi bod yn esgeulus neu'n fwriadol esgeulus.

Ond mae arbenigwyr o'r farn y gallai'r symiau ariannol sy'n gysylltiedig â'r achos fod yn sylweddol - yn enwedig o ystyried y gallai'r cyfnod o ofal fod yn un hir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn chwaraewr rygbi Crispin Cormack casglu tystiolaeth ym maes achosion anafiadau difrifol

Yn y 1990au fe enillodd Crispin Cormack y gynghrair a'r cwpan tra'n chwarae i Bontypridd. Fe gynrychiolodd Gymry Llundain a mynd ar daith gyda Chymru i Awstralia.

"Roeddem ni'n ffodus ym Mhontypridd," meddai, "o ran gofal meddygol."

Bellach mae Mr Cormack yn gweithio i gwmni cyfreithwyr Coles Miller ac yn casglu tystiolaeth ym maes achosion anafiadau difrifol sy'n cynnwys cyfergydion.

Gallai ambell gais am iawndal fod yn sylweddol, meddai.

'Angen gofal ar rai am weddill eu hoes'

"[Meddyliwch am] athro yn chwarae rygbi hyd nes ei fod yn 35 yn ennill £45,000. Mae'r dyddiau o ymddeol yn 65 wedi mynd - mae rhai'n gweithio i'w 70au.

"Chi'n sôn am 30 mlynedd o daliadau gwerth £45,000. Lluosogwch hynna gyda 200 o chwaraewyr proffesiynol ac mae hynny tua £300m," ychwanegodd.

"Ar ben hynny mewn rhai achosion fe fydd gyda chi deulu a chithe'n methu gweithio mwy. Ydy'ch gwraig yn gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith i ofalu amdanoch? Oes rhaid i chi gael gofal masnachol? Addasu eich cartre? Angen gofal bore, prynhawn nos i goginio a'ch ymolchi? Os mai dyna'r sefyllfa, ry'n ni'n sôn am symiau mawr."

Mae Mr Cormack o'r farn y gallai cyfanswm yr iawndal - o lwyddo - gyrraedd cannoedd o filiynau o bunnoedd.

"Fyddwn i'n dweud isafswm o £300m - ac fe allai ddringo'n sylweddol uwch na hynny.

"Mae'n drist, ry'n ni wedi clywed gan Ryan Jones, Alix Popham, Lenny Woodard, Steve Thompson. Maen nhw eisoes yn dioddef o dementia cynnar.

"Gallwn ni ond gobeithio y bydd gwyddoniaeth yn dod o hyd i ffyrdd i'w reoli. Fe fydd angen gofal ar y bois yma am weddill eu hoes."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan Jones yn rhan o dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2005, 2008 a 2012

Yn 41 oed mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, a'r cyn-Lew Ryan Jones wedi cadarnhau ei fod yn rhan o'r achos cyfreithiol ar ôl cael diagnosis o dementia cynnar.

Ymhlith yr enwau adnabyddus eraill mae cyn-flaenwr Cymru, Alix Popham a Steve Thompson a oedd yn chwarae i Loegr pan enillon nhw Gwpan Rygbi'r Byd yn 2003.

Mae'r cyn-chwaraewyr am weld rygbi'n newid i fod yn fwy diogel ar bobl lefel ac ar bob oedran.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lenny Woodward nad yw am briodi rhag ofn iddo orfod gwerthu'r cartref i dalu am ofal

Mae Lenny Woodward, 46, yn un arall sy'n rhan o'r achos llys.

Dywedodd ei fod ef a'i bartner yn osgoi priodi oherwydd eu bod nhw'n pryderu y byddai'n rhaid iddyn nhw werthu eu cartref i dalu am ei ofal.

"Dwi ddim yn disgwyl i'm mhlant i dalu," meddai.

Mae'r cyn-chwaraewr - enillodd bump cap i dîm rygbi cynghrair Cymru ac a chwaraeodd i Gymru ar daith yn Ne Affrica - nawr yn aelod o bwyllgor sy'n cynrychioli'r chwaraewyr sy'n rhan o'r achos cyfreithiol.

"Rwy' i a fy mhartner yn ymwybodol o ba mor ddrud yw gofal, a falle y bydd ei angen arna i cyn hir, ac am ddegawdau i ddod.

"Dwi ddim am iddi hi orfod ysgwyddo'r baich yna na'i drosglwyddo i'm mhlant. Dwi ddim yn gwneud hyn i dalu am wyliau neu rywbeth tebyg, ry'n ni'n gwneud hyn i amddiffyn ansawdd bywyd sylfaenol."

Y gyfraith

Mae yna ddwy egwyddor yn sail i hawlio am anafiadau personol - iawndal cyffredinol ac iawndal arbennig.

Mae iawndal arbennig yn seiliedig ar golledion ariannol sy'n codi o'r anaf hwnnw - er enghraifft methu gweithio a'r angen am ofal tymor hir.

Gallai'r symiau yma fod yn werth miliynau o bunnoedd.

Yn ôl Rylands, y cwmni sy'n cynrychioli'r chwaraewyr, gall maint y symiau amrywio o filoedd i filiynau o bunnoedd - hynny'n ddibynnol ar ddifrifoldeb yr anafiadau.

Mae'r cwmni yn dweud y gallai chwaraewyr fod yn gymwys os ydyn nhw'n colli incwm yn y dyfodol, angen gofal iechyd neu'n dioddef poen.

Ond fel gyda phob proses gyfreithiol, gallai fod yn gymhleth a hirfaith a dyw datrysiad ddim yn wastad yn bosib.

Y dasg i gyfreithwyr y chwaraewyr fydd profi ei bod hi'n fwy tebygol na pheidio mai rygbi achosodd yr anafiadau i'w hymennydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae profi esgeulustod yn hynod o anodd, medd y cyfreithiwr Cenric Clement-Evans

Yn ôl Cenric Clement-Evans, cyfreithiwr sy'n arbenigo ym maes anafiadau personol yn y gweithle, mae profi esgeulustod yn hynod anodd.

"Os nad ydyn nhw'n gallu profi bod dementia wedi cael ei achosi gan wrthdrawiadau cyson - dyna'r diwedd arni hi," meddai.

"Os nad oes tystiolaeth feddygol sydd o'u plaid dydyn nhw ddim yn mynd i ennill - dim ots os yw'r cyflogwyr wedi bod yn esgeulus.

"Mae'n rhaid profi esgeulustod yn y lle cyntaf a phrofi bod yr anaf wedi cael ei achosi gan yr esgeulustod - dyna dwi'n meddwl ydi'r cwestiwn mwyaf anodd o'r ddau.

"Mi fydd yn cymryd llawer o amser. Bydd rhaid i'r cyfreithwyr fuddsoddi lot fawr o bres er mwyn ymchwilio i'r maes. [Bydd angen] tystiolaeth sut oedd y gêm yn cael ei chwarae ar yr amser [pan] oedd y chwaraewyr yma'n chwarae."

Beth ddigwyddodd yn America?

Mae'r achos yn cael ei gymharu â'r hyn ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau gyda'r Gynghrair Pêl-droed Cenedlaethol (NFL) yno.

Yn 2013 fe ddaeth yr NFL i gytundeb gyda chyn-chwaraewyr oedd yn honni bod cyfergydion ar y cae wedi arwain at anafiadau ymennydd.

Fe dalodd cronfa cyfergydion yr NFL dros $856M (£600m) i filoedd o gyn-chwaraewyr proffesiynol.

Ond fel rhan o'r setliad doedd yr NFL ddim yn cydnabod atebolrwydd, nac yn derbyn mai pêl-droed Americanaidd achosodd yr anafiadau.

Mae system gyfreithiol yr Unol Daleithiau yn gwbl wahanol i un Cymru a Lloegr.

Mae Dr Rhys Davies yn niwrolegydd ymgynghorol a dywed bod y sefyllfa yn un ddyrys.

"Mae'r diagnosis ynddo'i hun yn gymhleth," meddai "yn achos cyflyrau niwro-ddirywiol dementia.

"Dyw'r gwahaniaeth yn y nodweddion meicrosgopig patholegol ddim mor amlwg â - dd'wedwn ni - canser."

Mae Dr Davies hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai mewn archwiliadau post mortem fel arfer y mae profion biopsi ar yr ymennydd yn cael eu gwneud ac nad yw rhai o'r symptomau yn amlwg.

Mae pob achos ac unigolyn yn unigryw a hynny'n gwneud profi beth achosodd yr anaf i'r ymennydd - y dementia yn anodd.

"Mi 'dan ni'n deall ac yn derbyn erbyn hyn fod yna wahaniaeth yn digwydd yn yr ymennydd ar ôl trawma," meddai.

"Mae sut mae hynny yn effeithio ar brofiad yr unigolyn yn rhywbeth nad ydyn ni yn ei ddeall yn iawn fel meddygon neu wyddonwyr meddygol - felly mae'n anodd profi hynna."

'Diogelu chwaraewyr'

Dywed World Rugby nad ydyn nhw am ymhelaethu ar y datganiad a wnaethon nhw ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru a'r RFU yn Rhagfyr 2022.

Yr adeg hynny fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi cael cais gan gwmni cyfreithwyr Rylands ar 24 Tachwedd i ymestyn yr amser ar gyfer cyflwyno manylion i'r llys ac fe nodon nhw eu bod yn gweithredu ar ran 169 cyn-chwaraewr proffesiynol.

"Mae rygbi yn gamp sy'n cefnogi iechyd a lles chwaraewyr ar bob lefel," medd llefarydd.

"Ry'n yn poeni'n ddirfawr am bob aelod o'r teulu rygbi ac wedi'n tristáu gan hanesion cyn-chwaraewyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd.

"Gan ystyried y wyddoniaeth ddiweddaraf a chyngor arbenigol annibynnol ry'n yn ymdrechu'n barhaol i ddiogelu ein holl chwaraewyr.

"Mae rygbi yn gamp sy'n arwain o ran atal, rheoli ac adnabod effeithiau anafiadau pen. Mae World Rugby yn ariannu ymchwil ac yn archwilio pa dechnoleg sy'n galluogi'r gêm i fod yn hygyrch, cynhwysol ac yn ddiogel i bawb.

"Fel ag yn Rhagfyr 2020 dydyn ni ddim yn gallu gwneud sylw ar fanylion unrhyw achosion cyfreithiol gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am holl fanylion yr honiadau sy'n cael eu gwneud yn ein herbyn."