Pryder teulu am ddementia cyn-chwaraewr rygbi

  • Cyhoeddwyd
Peter JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Peter Jones yn 71 oed yn yr ysbyty ym mis Mawrth 2021

Roedd Peter Jones yn flaenasgellwr pwerus fu'n chwarae yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au cynnar.

Ond yn ei 50au hwyr fe ddechreuodd ddangos arwyddion o ddementia. Bu farw'r llynedd yn 71 oed.

Dangosodd archwiliad post-mortem o ymennydd Peter fod y dementia wedi'i achosi gan enseffalopathi trawmatig cronig (CTE) sef anaf parhaol i'r ymennydd sy'n cael ei achosi gan ergydion lluosog i'r pen dros amser.

Dim ond ar ôl marwolaeth y mae'n bosibl gwneud diagnosis terfynol o CTE.

Achos Peter ydy'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig lle mae'r cyflwr wedi dod i'r amlwg mewn cyn-chwaraewr rygbi.

Mae ei deulu wedi penderfynu eu bod nhw eisiau siarad yn gyhoeddus am y diagnosis er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r peryglon o ergydion lluosog i'r pen.

'Adnabyddus am ei daclo caled'

Dechreuodd Peter Jones chwarae rygbi yn 15 oed ar ôl gadael yr ysgol.

Bu'n chwarae am 24 mlynedd gyda chlybiau Castell-nedd a Llanelli ac fel chwaraewr/hyfforddwr yn Llandeilo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Peter Jones yn ystod ei ddyddiau chwarae

Mae ei fab, Lloyd, yn dweud fod gan ei dad bresenoldeb pwerus ar y cae.

"Ro'dd e'n gorfforol iawn," meddai Lloyd.

"Blaenasgellwr ochr agored o'dd e. Ro'dd e'n adnabyddus am ei daclo caled, ei physicality a'i ffitrwydd."

Roedd Peter Jones yn chwarae rygbi yn ystod y cyfnod amatur ond roedd ei dad yn derbyn llawer o ergydion yn ystod gemau, yn ôl Lloyd.

"Mae pethe'n wahanol iawn heddiw o ran pwysau a chryfder chwaraewyr," meddai.

"Ond ro'dd chi'n cael 'getaway' gyda lot o bethau ar y cae yn y gorffennol.

Disgrifiad o’r llun,

Lloyd Jones: "Ro'n i'n rhyw fath o adio fe lan, ac amau y gallai y bod 'na gysylltiad"

"Mae'r r'un faint o gnocs heddiw, ond bydde 'na ymladd ar y cae ac ati.

"Mae llun ohono 'da ni ble mae'n cael ei gicio yn ei ben, a bu'n rhaid 'stretchero' fe mas."

Fe wnaeth Peter ymddeol o'r gêm yn 39 oed, a pharhau gyda'i waith fel saer.

Yn ei 50au hwyr, dechreuodd anghofio pethau.

Roedd yn anghofio sawl siwrnai cyfarwydd yn y car ac yn cerdded o gwmpas y tŷ yn diffodd plygiau a switshis.

Bu'n rhaid disgwyl am ddwy flynedd am ddiagnosis o ddementia cynnar.

Dechreuodd Lloyd gysylltu cyflwr ei dad â rygbi ar ôl gwylio ffilm am chwaraewyr pêl-droed Americanaidd oedd â dementia.

"Fe wna'th e i mi feddwl - mae Dad wedi cael diagnosis o ddementia cynnar - pam fe yn 60 oed?

"Ond gyda fwy a fwy o straeon yn dod mas, roedd e'n gwneud synnwyr.

"Ro'n i wedi clywed am yrfa rygbi fy nhad a pha mor galed oedd e, a pha mor hir y bu e'n chwarae, ac ro'n i'n rhyw fath o adio fe lan, ac amau y gallai y bod 'na gysylltiad."

'Rhan o'r gêm'

Bu farw Peter Jones yn 71 oed yn yr ysbyty ym mis Mawrth 2021 ar ôl cael Covid-19 a heintiau eraill.

Roedd ei deulu eisiau ail archwiliad post-mortem o'i ymennydd.

Fe gafodd ei gynnal gan yr Athro Willie Stewart ym Mhrifysgol Glasgow a roddodd ddiagnosis o CTE.

Dywedodd yr Athro Stewart fod diffyg tystiolaeth o drawma ar yr ymennydd yn ystod unrhyw gyfnod ei fywyd heblaw am y cyfnod y bu'n chwarae rygbi a bod hynny'n bwysig.

"Doedd dim anaf amlwg i'r ymennydd, ond roedden ni'n gweld ei fod wedi chwarae gêm lle mae effaith ailadroddus ar y pen yn rhan o'r gamp.

"Y taclo, y disgyn i'r llawr, mae'n rhan o'r gêm.

"Rydyn ni'n ei weld ym mhêl-droed a phêl-droed Americanaidd: mae'r effaith o ergydion ailadroddus i'r pen yn glir, ac efallai bod modd nawr datblygu patholeg," meddai.

Mae'r Athro Stewart yn dweud ei fod yn gweld "nifer rheolaidd" o gyn-chwaraewyr rygbi gyda'r cyflwr CTE, ond anaml iawn mae teuluoedd yn sôn am y diagnosis.

O'r cyn-chwaraewyr hynny y mae wedi gallu eu archwilio ac sydd wedi marw gyda dementia, mae'n dweud bod gan tua thri chwarter batholeg CTE.

"Mewn cyn-bêl-droedwyr proffesiynol, mae eu risg o gael dementia deirgwaith a hanner yn uwch nag y dylai fod yn y boblogaeth. Rydyn ni'n gweld risg gwirioneddol a mawr iawn o ddementia yn y chwaraeon hyn.

"Ym maes rygbi mae'r holl achosion dwi wedi'u gweld wedi dod o'r cyfnod amatur.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Peter gyda'i fab, Lloyd

"Dyw'r mwyafrif ohonyn nhw ddim yn chwaraewyr amatur elitaidd, ddim o bell ffordd.

"Chwaraewyr rygbi clybiau lleol oedd wrth eu bodd â'r gêm ac wedi chwarae am flynyddoedd.

"Yn anffodus, cyn belled ag y mae rygbi yn y cwestiwn, mae'r patholeg rydyn ni'n ei gweld yn broblem: mae'r cyfan o'r oes amatur yn unig ar hyn o bryd."

Mae'r Athro Stewart yn poeni mai dim ond dechrau'r achosion CTE sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd.

"Blaen y mynydd iâ ydi hyn, o'r oes amatur, mond efallai bod yna broblem fawr, fawr o'r oes broffesiynol efallai na fyddwn ni'n gwybod amdani am 20 mlynedd arall," ychwanegodd.

Mae teulu Peter Jones wedi penderfynu ymuno â'r achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby ac Undeb Rygbi Cymru sy'n honni bod dim digon wedi'i wneud i'w hamddifyn rhag y risgiau a achosir gan gyfergyd.

Mae cyn-chwaraewr Cymru Alix Popham wedi cael diagnosis o ddementia cynnar a CTE posib.

Mae ganddo rôl flaenllaw yn yr achosion cyfreithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Alix Popham: "Mae'r ffaith bod Lloyd a'i deulu yn dweud eu stori nhw yn ddewr iawn"

"Mae 'na bobl o'r gêm broffesiynol, chwaraewyr amatur, merched, cyn-chwaraewyr benywaidd hefyd, ac mae'r niferoedd yn cynyddu'n ddyddiol," meddai.

"Ac mae'r ffaith fod Lloyd a'i deulu yn dweud eu stori nhw yn ddewr iawn, ond rwy'n meddwl bod hyn yn neges sydd angen bod allan yna a bod pobl angen cymryd hyn o ddifrif," meddai.

"Roedd Peter yn chwarae yn yr oes amatur, o hyfforddi ddwywaith yr wythnos a chwarae, roedd yn anhygoel o gorfforol ac mae'r CTE yn dod o ganlyniad i drawiadau is-gyfergyd, felly'r hits bach bach 'na fyddech chi'm yn talu llawer o sylw iddyn nhw - yn enwedig yn ystod yr oes amatur."

Mae Lloyd Jones yn gobeithio y bydd rhannu stori ei dad yn helpu i godi ymwybyddiaeth o beryglon posibl effaith hir-dymor ergydion bach i'r pen.

"Mae'n rhaid i ni addasu a gwneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel yn y dyfodol.

"Fi wir yn teimlo mor gryf am y pwnc ac eisiau gwneud gwahaniaeth gyda stori fy nhad.

"Y mwyaf o bobl sy'n darllen yr erthygl yma, y mwyaf fydd y newid fydd yn digwydd," meddai.

Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am eu hymateb i sylwadau Lloyd Jones.

Pynciau cysylltiedig