Galw am newid 'sylfaenol' i ddeddfau cŵn peryglus wedi marwolaeth mab

  • Cyhoeddwyd
Jack Lis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack ar 8 Tachwedd 2021 wedi i gi ymosod arno

Mae mam bachgen 10 oed a gafodd ei ladd gan gi yn 2021 yn galw am newid "sylfaenol" i ddeddfau cŵn peryglus.

Bu farw mab Emma Whitfield, Jack Lis, yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd 2021.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar ffyrdd o leihau ymosodiadau gan gŵn, a fydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Ms Whitfield fod ei theulu wedi eu "dinistrio" gan farwolaeth Jack.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Whitfield fod marwolaeth ei mab yn "rhywbeth sy'n aros gyda mi bob dydd"

"Doedden ni byth yn disgwyl i hyn ddigwydd o gwbl, ac i fynd o'i godi o'r ysgol i lai nag awr yn ddiweddarach cael gwybod ei fod wedi mynd - mae hynny'n rhywbeth sy'n aros gyda mi bob dydd."

Cafodd dyn a dynes eu carcharu mewn cysylltiad â'r digwyddiad ym mis Mehefin 2022, am fod yn berchen ar gi peryglus neu yng ngofal ci oedd allan o reolaeth.

Cafodd Amy Salter, 29, ei dedfrydu i dair blynedd ac fe gafodd Brandon Hayden, 19, ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis.

Yn ogystal, ni fydd hawl ganddynt i fod yn berchen ar gi wedi iddyn nhw adael y carchar.

Roedd y ddau eisoes wedi cyfaddef yn Llys y Goron Caerdydd i fod yng ngofal ci peryglus.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amy Salter a Brandon Hayden eu carcharu am fod yng ngofal ci oedd yn beryglus

Bu farw Jack, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Caerffili, yn y fan a'r lle yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ ym Mhentwyn, Penyrheol.

Dywedodd Ms Whitfield ei bod am weld newid ar draws "y sbectrwm cyfan". o fridio i ddedfrydu.

"Hoffwn weld mwy o newidiadau o ran bridio fel nad yw pawb yn gallu bridio cŵn," meddai.

"O ran gwerthu, nid yw'n deg bod unrhyw un yn gallu gwerthu anifail heb unrhyw wybodaeth flaenorol na gofalu am bwy y mae'n mynd.

"Dydw i ddim yn meddwl bod dedfrydu ar hyn o bryd yn atal pobl rhag gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud."

Cafodd y ci, oedd o frîd XL Bully ac o'r enw Beast, ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog.

Nid oedd yn frîd sydd wedi'i wahardd yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog

Roedd Ms Whitfield yn San Steffan gyda Wayne David, ei AS lleol, i lobïo Aelodau Seneddol mewn sesiwn galw heibio.

Dywedodd Mr David eu bod eisiau "newid sylfaenol yn y gyfraith".

"Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn nodi'n syml bedwar brîd fel cŵn peryglus.

"Rydym eisiau dull gwahanol sy'n cynnwys pob ci ac sy'n canolbwyntio ar fridio, hyfforddi, gwerthu cŵn a phopeth sy'n ymwneud â chŵn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU ei bod yn drosedd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 i ganiatáu i unrhyw gi fod allan o reolaeth yn beryglus.

Clywodd y llys fod Jack wedi mwytho pen Beast mewn tŷ yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd, ond fod y ci wedi neidio ar y bachgen, ei wthio i'r llawr a dechrau ymosod arno.

Ffynhonnell y llun, Bronwen Weatherby | PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ein syfrdanu gan farwolaeth drasig Jack Lis ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu mewn profedigaeth.

"Mae llawer o bobl yn elwa o berchnogaeth neu gysylltiad â chŵn, ond mae'n gwbl annerbyniol bod diogelwch unrhyw un yn cael ei roi mewn perygl gan gi.

"Mae hybu perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein Cod Ymarfer er Lles Cŵn yn amlinellu'r rhwymedigaethau sydd gan berchnogion i gadw eu cŵn dan reolaeth.

"Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys sawl mesur a fydd yn gwella safonau bridio a chadw cŵn yng Nghymru.

"Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth y DU gryfhau Deddf Cŵn Peryglus 1991 sydd heb ei datganoli.

"Rydym yn adolygu'n gyson yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i atal y peryglon a achosir gan berchnogaeth anghyfrifol o gŵn, tra'n hyrwyddo'r manteision y gall cŵn eu rhoi i gymdeithas."