Cam ymlaen i gynllun cludo dŵr o Lyn Efyrnwy i Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ailddosbarthu miliynau o litrau o ddŵr o Lyn Efyrnwy ym Mhowys i rannau o Loegr wedi pasio cam nesaf y datblygiad.
Mae'n un o 12 o gynigion ar draws Cymru a Lloegr sy'n cael eu hystyried, yn ôl Ofwat.
Dywedodd y corff sy'n rheoleiddio gwasanaethau dŵr eu bod yn rhan o ymdrechion "i sicrhau cyflenwadau dŵr mwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol".
Mae'r cynigion gan saith cwmni dŵr yn cynnwys "ailgylchu dŵr, a throsglwyddo dŵr o lefydd ble mae mwy i lefydd ble mae llai".
'Angen gweithredu nawr'
Fel rhan o'r cynlluniau mae Ofwat wedi cymeradwyo gwaith i edrych ar adeiladu tair cronfa ddŵr yn Sir Rhydychen, Sir Lincoln, a Sir Gaergrawnt.
Mae dŵr o Lyn Efyrnwy wedi bod yn cael ei gludo i rannau o Loegr ers dros ganrif, a bellach yn rhan o rwydwaith cwmni Severn Trent.
Mae'r cynlluniau diweddaraf yn cynnwys pibelli newydd posib i gludo rhywfaint o'r dŵr i Thames Water yn ardal Llundain.
Bydd y 12 cynllun nawr dan ystyriaeth yn derbyn cyllid i edrych ar fanylion technegol a'r effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r rhaglen o fuddsoddi mewn isadeiledd yn cael ei oruchwylio gan gorff RAPID sy'n cynrychioli rheoleiddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr, ac yn cael cymorth gan CCW, Natural Resources England a Chyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae'r sector dŵr angen gweithredu nawr i sicrhau anghenion cwsmeriaid a'r amgylchedd yn y dyfodol," meddai rheolwr gyfarwyddwr RAPID, Paul Hickey.
"Mae dod o hyd i ffyrdd newydd, cynaliadwy a chadarn o gadw cyflenwad dŵr i fynd ar draws y wlad yn hanfodol, yn enwedig o ystyried newid hinsawdd cynnydd mewn poblogaeth a datblygiad economaidd.
"Gallai'r cynlluniau sy'n symud ymlaen at y cam cynllunio nesaf gwrdd â gofynion miliynau o gwsmeriaid tra'n gwarchod yr amgylchedd."
'Dyw'r cytundeb yma ddim yn dal dŵr'
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi'n "annerbyniol" fod pwerau dros ddŵr dal ddim wedi eu datganoli'n llawn i Gymru o San Steffan.
"Dylai penderfyniadau am ddŵr Cymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac er budd pobl Cymru," meddai Adam Price yn ymateb i'r datblygiad diweddaraf.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu pwysigrwydd hyn.
"Gyda dim awgrym ein bod yn cael pris teg, a dim sicrwydd na fydd effaith negyddol ar ein gwytnwch dŵr ein hunain, dyw'r cytundeb yma ddim yn dal dŵr.
"Dylen ni o leiaf dderbyn pris teg am ein dŵr, gyda'r elw yn cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau - nid mynd i boced cwmnïau preifat sydd ddim hyd yn oed wedi'u lleoli yn y wlad."
Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud mai ailgyfeirio dŵr sydd ar hyn o bryd yn mynd i ogledd-orllewin Lloegr, i dde-ddwyrain Lloegr fyddai bwriad y cynllun - ac felly na fyddai unrhyw ddŵr ychwanegol yn gadael Cymru.
"Does dim cynlluniau i gymryd mwy o ddŵr o Lyn Efyrnwy nag sydd eisoes yn cael ei ganiatáu, ac felly fyddai hyn ddim yn gwaethygu unrhyw sychder yng Nghymru yn y dyfodol," meddai Ceri Davies o CNC.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i CNC fod yn "hapus na fydd y cynigion yn cael effaith negyddol ar gymunedau a bywyd gwyllt yng Nghymru" cyn cytuno iddynt.
'Angen profi ei werth economaidd'
Byddai'r cynlluniau'n golygu bod y dŵr o Lyn Efyrnwy yn llifo i'r Afon Hafren cyn cael ei dynnu ymhellach i lawr yr afon a'i ddargyfeirio mewn pibellau newydd i gyfeiriad Llundain.
"Roedd yr haf diwethaf, gyda gwres uchel a diffyg dŵr, yn arwydd clir o'r argyfwng hinsawdd yn ein taro," meddai llefarydd ar ran Thames Water.
"Does dim atebion hawdd a chyflym, ac mae'n rhaid cynllunio ymlaen i reoli poblogaeth sy'n tyfu, hinsawdd sy'n newid, a risg uwch o sychder yn ogystal â sicrhau ein bod ni'n gwarchod ein hamgylchedd, nawr ac yn y dyfodol."
Er bod y cynlluniau presennol yn symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd llywodraethau'r DU a Chymru yn cael y gair olaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd angen i unrhyw ddatblygiad sy'n cynnwys defnyddio dŵr o Gymru brofi ei werth economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr i'r rheiny sydd ei angen.
"Mae'n rhaid i gwmnïau dŵr sydd wedi eu lleoli'n llwyr neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr, ac mae gan weinidogion Cymreig rôl statudol yn y broses o gymeradwyo unrhyw gynlluniau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2015