Ateb y Galw: Catrin Fflûr Huws
- Cyhoeddwyd

Catrin Fflûr Huws
Catrin Fflûr Huws o Brifysgol Aberystwyth sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan yr Athro Emyr Lewis yr wythnos diwethaf.
Ganwyd Catrin yn Fali, Sir Fôn, cyn symud i Aberystwyth i astudio'r gyfraith, lle mae bellach yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan arbenigo mewn agweddau ar ddwyieithrwydd yn y gyfraith, a chyfieithu mewn achosion llys.
Mae Catrin hefyd yn ddramodydd, ac hefyd wedi gweithio fel goleuwr ar gyfer sioe lwyfan.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mam yn canu Super Trouper gan Abba yn y tŷ pan oeddwn i tua dyflwydd, sydd wedi ysgogi fy hoffter am gerddoriaeth Abba byth wedyn, a chan hynny, pan ganais i unawd yn ddiweddar am y tro cyntaf erioed, wedi oes o ddyheu i allu canu, roedd y dewis o En Skrift i Snon, o waith mwy diweddar Benny Andersson yn ddewis naturiol.

Catrin tua 3 oed, pan oedd ei mham yn canu Super Trouper yn y tŷ
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Rwy'n hoffi'r olygfa allan o ffenest f'ystafell fyw. Tydi o ddim yn odidog nac yn ysblennydd, mae'n olygfa ddi-nod o le parcio ac ychydig o dai, a dim llawer yn digwydd, ond mae'r llonyddwch yn lleddf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Sawl noson hapus a byrlymus efo ffrindiau arbennig, a sawl noson arbennig a thawel yn glud yn y tŷ a'r byd a'i ddwndwr yn bell bell i ffwrdd. Serch hynny, mae perfformiad o fy nrama To Kill A Machine, am fywyd Alan Turing, yn theatr y Kings Head, gyda theulu Alan Turing yn y gynulleidfa, yn aros yn y cof.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Chwerthin fatha 'Muttley'!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Ym Mharis, roedd carousel ar waelod y grisiau i fyny i Sacre Coeur. Alla i ddim gwrthod taith ar garousel, ac fe berodd hynny i ddwy fenyw o'r Alban - falle yn eu chwedegau - sylweddoli nad rhywbeth i blant yn unig ydoedd. Cawsant fodd i fyw yn cael antur fach ar y ceffylau troi!

Sacre Coeur, Paris
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O, mae gen i olion dannedd yn fy nwrn ar ôl yr holl droeon dwi wedi agor fy ngheg a rhoi fy nhroed ynddi. Roedd tyngu'n ddu las fod Waldorf Salad yn cynnwys waldorffau yn dipyn o glasur.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Acker Bilk.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Tybiaf mod i wedi methu'r arholiad Tawed y Callaf sawl tro… dwi'n llawer yn rhy barod i ddadlau pan dylwn i gau fy ngheg.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
O ran llyfr, mae gen i hoffter am The Summer Book gan Tove Jansson, a straeon Frog & Toad Arnold Lobel - mae'r ddau awdur yn ymdrin â chyfeillgarwch a phwysigrwydd y pethau amhwysig - megis gwarchod mwsog rhag bod pobol yn troedio arno. Rwyf hefyd yn hoffi symlrwydd a dyfnder yr arddull iaith. Dywed un o gymeriadau Tove Jansson: 'Dwi'n gwybod lot. Dwi'n gwybod lot o bethau nad wy'n siarad yn eu cylch.'
O ran ffilm, a bydd pobl yn gwawdio am hyn, ond Spiceworld - mae'n ffilm llawer iawn clyfrach na mae'n smalio bod.

Mae'r ffilm Spiceworld yn dilyn bywydau Spice Girls
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Does dim yn well na chwmni pobol sydd yn arbennig yn y byd go iawn - ffrindiau yn hytrach nag arwyr chwedlonol - gallwch gael eich siomi ddirfawr drwy ganfod mai dim ond sinc yw'r hyn sydd ar bedestal.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Dwi wastad yn meddwl mod i'n ddipyn o lyfr agored, felly dwi wastad yn tybio fod pawb yn gwybod bod dim sydd i'w wybod. Dwi'n gosod fy nillad i sychu ar y lein mewn trefn lliw - dim ond er mwyn gwneud joban ddiflas dipyn bach yn fwy diddorol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dwi'r math o berson fyddai'n treulio'r diwrnod yn meddwl 'dyma fy niwrnod olaf ar y blaned, mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth gwerth chweil, dyma fy niwrnod olaf ar y blaned, mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth werth chweil,' ac wedyn gorffen i fyny am hanner awr wedi unarddeg yn gwneud rhywbeth gwerth chweil nad oeddwn i wedi ei ragweld o gwbwl... neu rhywbeth hollol dwp fatha labelu'r llwyau yn y gegin cyn sylweddoli bod f'amser wedi mynd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Hemingway Never Ate Here gan Patrick Caulfield. Prynais i boster o hwn ar fy nhaith gyntaf i Llundain ar ben fy hunan, a fy rhieni'n gyndyn i mi fynd. Roedd yn arwydd o aeddfedrwydd mod i wedi gallu rhesymegu mod i'n ddigon call i allu tawelu eu pryderon a mynd ar antur, ond pan ddychwelais adre, canfyddais fod taid wedi marw.
Mae'r darlun yn gofnod felly o'r diwrnod penodol pan ddois i'n oedolyn. Mae'r poster yn y tŷ 'cw wedi ei fframio, ac roedd yn un o'r pethau cyntaf i ganfod ei le pan symudon ni i mewn, a pheri i ni sylweddoli mai adra ydi fan'ma. Mae hefyd yn f'atgoffa o fwyty tapas arbennig, Casa Miguel, a oedd yn Aberystwyth ers talwm, a nosweithiau arbennig yno efo ffrindiau.

Yr artist Patrick Caulfield
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mi faswn i'n lecio bod yn rai o aelodau fy nheulu - fy nghyn-deidiau a neiniau er mwyn gweld sut roedden nhw'n byw, ac i ganfod sut bobol oedden nhw.
Hefyd o ddiddordeb: