Ateb y Galw: Yr athro Jerry Hunter
- Cyhoeddwyd
Yr athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Sian Llywelyn.
Yn wreiddiol o Cincinnati yn nhalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau fe astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati, Prifysgol Aberystwyth a Harvard. Bu hefyd yn darlithio yn Harvard a Phrifysgol Caerdydd cyn symud i Fangor yn 2003.
Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoes.
Mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018).
Yn ddiweddar mae o wedi dechrau podlediad newydd Yr Hen Iaith gyda'r Athro Richard Wyn Jones sy'n archwilio hanes llenyddiaeth Cymraeg.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cael fy ngollwng mewn pwll nofio pan oeddwn i'n blentyn bach iawn (tua 2 oed, efallai?).
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Nifer o lefydd yn Nyffryn Nantlle. Dan ni'n byw yma - ac wrth ein boddau â'r gymuned a Chymreictod yr ardal: pobl sy'n gwneud lle. Ond hefyd mae'r golygfeydd yn drawiadol; mae rhywbeth am fod rhwng y mynyddoedd a'r môr yn y rhan arbennig hon o'r byd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Amhosib dewis un! Ond mae'n debyg mai un o'r partis teuluol fyddai - noson y Nadolig efallai neu benblwydd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Angerddol, chwilfrydig ac eithafol.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Bod yn Americanwr yng Nghymru pan etholwyd Trump yn arlywydd yr Unol Daleithiau.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Anodd dewis! Ond dyma un: dod â Mot y ci adra am y tro cynta, ac ynta'n mynnu eistedd ar fy nghlun trwy'r dydd er ei fod yn gi mawr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bu farw fy llysdad yn ddiweddar.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wel, dwi'n ceisio peidio ag yfed ar wahân i'r penwythnos, ond yn methu'n aml.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Cwestiwn amhosib i rywun sy'n hoffi llyfrau a ffilmiau!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Brother Blue (neu Hugh Morgan Hill, a rhoi'i enw bedydd), bardd, storïwr, ac athronydd a oedd yn perfformio ar strydoedd Cambridge a Boston, Massachusetts. Gwelais i o'n perfformio lawer o weithiau yn y 1990au, a chefais sawl sgwrs ag o. Roedd yn gymeriad cwbl unigryw, yn rhyfeddol o optimistaidd ac yn hyfryd o gefnogol, ac hefyd yn wreiddiol iawn ac yn greadigol iawn mewn cymaint o ffyrdd. Bu farw'n 2009 yn 88 oed. Byddai'n dda mwynhau heulwen ei bersonoliaeth eto ac hefyd ei holi am ei hanes personol hynod.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n hoffi coginio - bron yn fwy na dim byd arall o ran adloniant.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ei dreulio gyda 'nheulu (a bwyta'n dda!).
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Unwaith eto, mae'n anodd dewis. Ond dyma un - mae ar y wal uwchben fy nesg. Fy ffrind Steve O'Neill, a oedd yn chwarae gitar ac yn canu yn y grŵp cyntaf y bues i'n rhan ohono erioed. Mae o 15 neu 16 oed yn y llun, ac yn canu gyda'i holl galon - yn selar ein tŷ, a oedd hefyd yn llofft i mi ar y pryd. Dyna'r unig le i ni berfformio erioed, ond roedd gennyn ni set lawn o ganeuon gwreiddiol da - y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u sgwennu gan Steve - ac roedd ymarfer a pherfformio'n gyson i un neu ddau o ffrindiau eraill ymysg profiadau gorau'r cyfnod hwnnw. Dwi ar y dryms y tu ôl iddo, a Thomas sydd ar y bas.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rhywun sy'n gallu canu'n dda. Dwi wrth fy modd â cherddoriaeth, ond fedra'i ddim canu o gwbl.
Hefyd o ddiddordeb: