Ken Skates: Gwerthu Maes Awyr Caerdydd yn bosib 'oni bai am Covid'
- Cyhoeddwyd
Mae'n debygol y byddai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i allu ystyried gwerthu Maes Awyr Caerdydd erbyn hyn oni bai am y pandemig, yn ôl cyn-weinidog yr economi.
Daeth sylwadau Ken Skates 10 mlynedd ers i'r llywodraeth brynu'r maes awyr am £52m.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd gan y llywodraeth y "sgiliau busnes" i wneud i'r maes awyr lwyddo.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno pecyn adferiad i wneud y maes awyr yn "hunangynhaliol" ar gyfer y dyfodol.
Fe brynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr ym mis Mawrth 2013 er mwyn "diogelu ei ddyfodol" yn dilyn cwymp yn nifer y teithwyr.
Yn 2007 roedd gan y maes awyr 2.1m o deithwyr, ond roedd y ffigwr yna wedi cwympo i 1m erbyn 2012.
Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn heriol i'r busnes, gyda'r pandemig yn enwedig yn ergyd fawr.
Mae sawl cwmni hediadau wedi gadael hefyd, gan gynnwys WizzAir yn gynharach eleni.
Ar ôl i'r llywodraeth brynu'r maes awyr, fe gynyddodd nifer y teithwyr i 1.7m, cyn i Covid daro.
Y llynedd 859,805 o deithwyr ddefnyddiodd y maes awyr.
Effeithiau Covid a'r argyfwng hinsawdd
Bellach yn Aelod o'r Senedd ar feinciau cefn Llafur, Ken Skates oedd y gweinidog â chyfrifoldeb dros y maes awyr rhwng 2016 a 2021.
"Does gen i ddim amheuaeth, pe na bai Covid wedi digwydd, y bydden ni wedi pasio dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn erbyn hyn ac y byddai'r maes awyr yn gystadleuol," meddai Mr Skates mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai hynny wedi golygu y gallai'r llywodraeth ystyried gwerthu'r maes awyr a gwneud arian i'r trethdalwr, atebodd: "Dwi'n credu bod hynny'n wir."
Ond ychwanegodd, o dan yr amgylchiadau hynny, fe fyddai ef wedi dadlau o blaid cadw'r maes awyr yn nwylo'r llywodraeth er mwyn iddo barhau i wneud arian i'r cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd ei fod yn cytuno ag asesiad Mr Skates o'r disgwyliadau ar gyfer y maes awyr cyn y pandemig ond bod y byd erbyn hyn yn "wahanol".
"Mae gyda ni argyfwng hinsawdd a gallwn ni ddim ond cefnogi'r math o hedfan sy'n angenrheidiol, felly hediadau hir," meddai.
"Dydy hynny ddim yn gweithio ar gyfer Maes Awyr Caerdydd sy'n ffocysu ar deithiau byr.
"Felly'r dewis i Lywodraeth Cymru yw hyn: 'ydyn ni'n parhau i gefnogi'r maes awyr, neu ydyn ni'n derbyn y bydd yn ôl pob tebyg yn cau?'"
Ers prynu'r maes awyr mae gweinidogion wedi buddsoddi £158m yn ychwanegol yn y safle, ac mae mwy o gefnogaeth wedi ei addo.
Maen nhw hefyd wedi dileu gwerth £42.6m o ddyled. Gwerth y maes awyr erbyn hyn ydy tua £15m.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar bod y llywodraeth wedi "gwastraffu" arian y trethdalwr.
Pan ofynnwyd iddi beth ddylai'r llywodraeth ei wneud, dywedodd: "Ei werthu, ei breifateiddio, a dod o hyd i brynwr da.
"Dwi ddim yn credu bod gan y llywodraeth yma'r sgiliau busnes i wneud i'r maes awyr lwyddo."
Symud y maes awyr?
Dywedodd y newyddiadurwr teithio Simon Calder taw'r unig ateb ydy adeiladu maes awyr newydd mewn lleoliad gwahanol.
"Fel cenedl, mae Cymru angen maes awyr rhyngwladol a Chaerdydd yw'r lle amlwg i'w gael e, ond mae'n ddrwg gen i dydy'r lleoliad presennol ddim yn gynaliadwy o gwbl, a rhywbeth gyda chysylltiadau rheilffordd a ffordd dda, efallai rhwng Caerdydd a Chasnewydd, fyddai'r ateb," meddai.
"Byddai hynny'n trawsnewid y diwydiant hedfan [yng Nghymru]."
Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru".
"Rydym wedi cyflwyno pecyn adferiad i wneud maes awyr Caerdydd yn hunangynhaliol a phroffidiol ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.
Y stori yn llawn ar Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021