Maes Awyr Caerdydd 'yn y lleoliad anghywir' i gwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae Maes Awyr Caerdydd yn y lle anghywir i ddenu cwsmeriaid, medd cyn-bennaeth cwmni awyrennau teithiau rhad.
Dywed David Bryon, cyn-gyfarwyddwr cwmni BMI Baby - a oedd yn gweithredu o'r maes awyr o 2002 i 2011 - na fyddai unrhyw un yn ei "iawn bwyll" yn buddsoddi yn y maes awyr.
Daw ei sylwadau wedi i gwmni Wizz Air gyhoeddi y bydd eu hediadau o Gaerdydd yn dod i ben.
Mae ffigyrau yn dangos bod nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig.
Dywed Llywodraeth Cymru bod meysydd awyr llai yn hanfodol i'r economi.
Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei agor yn 1942, ac roedd werth £15m yn 2021. Yn 2013 cafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52m.
Mae nifer y teithwyr wedi gostwng ers y pandemig - i lawr o 1.6 miliwn yn 2019 i 812,000 erbyn Tachwedd 2022.
"Fyddai neb yn ei iawn bwyll yn ystyried buddsoddi yn y maes awyr. Dyw e ddim yn ddeniadol i fuddsoddwr," meddai Mr Bryon.
Wrth siarad â Radio Wales dywedodd Mr Bryon fod cwmni BMI Baby wedi ystyried Caerdydd yn "atyniad allweddol" pan ddechreuodd y cwmni hedfan oddi yno yn 2002, a'u bod yn credu bod modd "cynyddu'r farchnad".
Dywed Mr Bryon bod lleoliad Maes Awyr Caerdydd yn Y Rhws ym Mro Morgannwg yn golygu nad oedd modd iddo ddenu cwsmeriaid, tra bod meysydd awyr eraill gerllaw gyda'r potensial i wneud hynny.
"Does yna ddim digon o deithwyr. Nid yn unig mae Maes Awyr Caerdydd ar yr arfordir - sy'n cyfyngu yr ardaloedd y gall ddenu teithwyr - mae e hefyd ar yr ochr anghywir o Gaerdydd," meddai.
"Er mwyn gwneud y maes awyr i lwyddo, rhaid denu pobl o Loegr.
"Ond hyd yn oed wedyn mae'n rhaid i bobl deithio o'r M4 ar hyd ffordd wledig am 25 munud i gyrraedd y maes awyr. Mae'r lleoliad yn y lle anghywir, yn anffodus."
Ffeithiau am Faes Awyr Caerdydd
Mae safle y maes awyr presennol yn deillio'n ôl i 1940 pan roedd y Weinyddiaeth Awyr angen tir ar gyfer hyfforddi peilotiaid yr Awyrlu yn ystod y rhyfel;
Yn 1965, trosglwyddwyd rheolaeth y maes awyr i hen Gyngor Sir Morgannwg ac yn y 1970au i awdurdodau lleol eraill;
Roedd yr hediad cyntaf o Gaerdydd ar draws yr Iwerydd yn 1971 ac yna cafodd y lleiniau glanio eu hehangu i ganiatáu i awyrennau jumbo 747 deithio oddi yno;
Cafodd y maes awyr ei breifateiddio yn 1995 ac yn 2013 cafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru.
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun disgrifiodd y Cynghorydd Steffan Wiliam, sy'n cynrychioli Ynys y Barri ar Gyngor Bro Morgannwg, sylwadau Mr Bryon fel rhai "eitha' glib gan ddyn sydd â dim diddordeb yn y maes awyr mwyach".
"Beth sydd angen gwneud yw edrych ar sut allwn ni wneud y maes awyr yn fwy deniadol," meddai.
"Mae pobl yn sôn am Fryste - mae hwnnw'n hunllef i gyrraedd. Mae Maes Awyr Caerdydd lawer yn haws i'w gyrraedd.
"Y broblem yw ein bod ni ddim wedi marchnata'r maes awyr yn ddigon da - mae'n warthus pan chi'n mynd o orsaf trenau Caerdydd ac yn gweld hysbysebion ar gyfer Maes Awyr Bryste.
"Beth sydd angen gwneud yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus i'r maes awyr fel bo' chi'n gallu rhoi eich bagiau chi mewn, d'wedwch, yng ngorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog, a'r tro nesaf chi'n eu gweld nhw, maen nhw yn Benidorm.
"Roedd angen gwneud hwn flynyddoedd maith yn ôl."
Dywedodd Nia Rhys Jones, darllenydd ar dwristiaeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd a chyd-gadeirydd Twristiaeth Ynys Môn, ei bod yn cytuno am y diffyg marchnata, ond fod y lleoliad yn broblem hefyd.
"Os rowch chi gylch o gwmpas Maes Awyr Caerdydd i bobl sy'n gallu cyrraedd yno o fewn awr, mae canran helaeth o'r cylch hwnnw yn fôr.
"Mae o'n gorfod bod yn un rheswm i'w cysidro paham nad ydy pobl yn mynd yno - dydy'r boblogaeth ddim yno.
"Mae Bryste yn denu, ac wedyn i'r gogledd at Ferthyr ac Aberhonddu mae Birmingham yn eu denu nhw.
"Mae pobl yn barod i deithio ychydig ymhellach i gael y fargen ora', felly mae'n angenrheidiol fod Caerdydd yn ymdrechu'n galetach i ddenu y boblogaeth sydd ar gael iddyn nhw."
Cwestiynu dyfodol y safle
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, bod gan Lywodraeth Cymru gwestiynau dwys i'w hateb am ddyfodol y maes awyr.
"Gyda bil o £210m ers i Lywodraeth Cymru brynu y maes awyr a dim arwydd fod pethau'n gwella fe fydd trethdalwyr yn gofyn - ac mae hynny'n deg - a ydyn nhw'n cael gwerth am eu harian," meddai.
"Dychmygwch be gellid fod wedi'i wneud â £210m o arian trethdalwyr petai wedi cael ei roi i drafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru."
Doedd dim sylw gan Lywodraeth Cymru am leoliad y maes awyr na'i ddyfodol, ond dywedodd llefarydd: "Mae ein cynllun adfer o Covid yn parhau mewn lle, ond yn amlwg mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn anodd iawn i'r diwydiant hedfan.
"Mae meysydd awyr llai yn gwbl hanfodol i economïau rhanbarthol ar draws y DU, ac ry'n yn annog Llywodraeth y DU i ddarparu cefnogaeth gadarn iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Llywodraeth y DU mai mater i Lywodraeth Cymru ydy lleoliad a rheolaeth Maes Awyr Caerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019