Galw am ddatblygu brechlyn i achub y wiwer goch

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Geraint Strello mae 'na "fanteision amlwg" i gadw ac achub y wiwer goch

Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu brechiad ar gyfer wiwerod coch i geisio sicrhau cynllun tymor hir i'w hachub.

Mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn cefnogi galwad Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru.

Mae gwiwerod llwyd yn cario haint sy'n gallu lladd gwiwerod coch yn y pendraw - ond ddim yn cael effaith ar rai llwyd.

Ar un adeg roedd y wiwer goch yn ffynnu ymhob rhan o Gymru, ond mae pryder am eu dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Terry Abraham - Cumbrian Red
Disgrifiad o’r llun,

Wiwer goch yn Cumbria â'r clefyd, gyda niwed i'w llygaid a'i dwylo

Dywedodd Geraint Strello, sy'n geidwad gydag Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru, fod gan Lywodraeth Cymru gyfle i "gymryd y blaen" ar gydweithio i ddatblygu brechlyn.

"Mae 'na ateb, tydy o ddim yn syml, a hynny ydy eu brechu nhw," meddai.

"Mae 'na waith wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd i greu brechiad, ond does 'na ddim llawer o waith wedi bod yn mynd ymlaen ers 2014.

"'Dw i'n meddwl bod o'n gyfle da Lywodraeth Cymru i gymryd y blaen ar hyn a chydweithio efo mudiadau a llywodraethau eraill ar draws Prydain i weithio arno fo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Strello yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru "gymryd y blaen" ar ddatblygu brechiad ar gyfer wiwerod coch

Dywedodd fod 'na "fanteision amlwg" i'w cadw a'u hachub.

"Mae 'na adroddiadau sy'n dweud bod wiwerod coch yn tynnu dros £10m o bres ychwanegol - pobl sy'n ymweld ag ardaloedd ar draws Prydain sy'n dod â hyn i mewn. Miloedd yn fwy o ymwelwyr."

'Pobl yn dod o bell i'w gweld'

Yng Nghoed Treborth ger Bangor, cafodd hyd at 80% o'r wiwerod coch eu lladd y llynedd gan frech y wiwerod.

Y pryder yw y bydd wiwerod coch Môn yn cael eu heintio.

Am ei bod yn ynys, Môn ydy un o gadarnleoedd ola'r wiwer goch, a daw pobl o bell ac agos i'w gweld.

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llangefni yn un o gadarnleoedd y wiwer goch

Dywedodd Dylan Owen, warden cefn gwlad Cyngor Môn: "Ar yr ynys 'da ni'n meddwl bod 'na ryw 800 i gyd.

"Fan hyn yn y Dingl 'dan ni'n meddwl bod 'na ryw 35 i 40 efo'i gilydd yn fan'ma.

"Mae o'n un o'r llefydd gorau i'w gweld nhw yn Sir Fôn fan hyn… llawer yn dod o bell i'w gweld nhw yma."

'Helpu gyda PTSD'

Mae Hugh Rowlands wedi bod yn gwarchod ac yn bwydo'r wiwerod coch ers blynyddoedd.

Yn gyn-filwr, mae'n byw â PTSD ac mae'n dweud fod y wiwerod yng nghoedwig Llangefni yn gymorth mawr iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hugh Rowlands yn gyn-filwr, ac mae mynd i'r goedwig a gweld y wiwerod yn ei helpu gyda chyflwr PTSD, meddai

"PTSD sydd arna i, a heb hwn mae'n siŵr 'swn i 'di cael fy nghloi fyny yn carchar cyn rŵan," dywedodd.

"[Maen nhw] wedi helpu fi lot, a nid jyst fi chwaith. Dwi wedi cael boi arall yn dod i fyny yma… cyn-soldiwr eto 'run peth â fi.

"Dywedodd o 'mae o'n teimlo'n fyw, dod i fyny ac eistedd o flaen rhain'.

"Ges i un arall yn dod i fyny, eto PTSD, newid ei fywyd [a] na'th o jyst crio… dagrau mawr yn ei lygaid o... newid ei fywyd."

Ffynhonnell y llun, Hugh Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hugh Rowlands wedi bod yn gwarchod a thynnu lluniau o'r wiwerod coch ers blynyddoedd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan bobl i warchod y rhywogaeth fregus hon.

"Rydym yn ddiolchgar am gyngor arbenigol Fforwm Gwiwerod Cymru... a byddwn yn ystyried y dystiolaeth yn ofalus."

Ychwanegon nhw, tra'u bod wedi gweld symudiadau cadarnhaol i gynyddu niferoedd y wiwerod coch, fod llawer mwy i'w wneud.

Pynciau cysylltiedig