Teithio'r byd a flogio'n llawn amser

  • Cyhoeddwyd
Adriana a Dylan yn Hội An, VietnamFfynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Adriana a Dylan yn Hội An, Vietnam

Ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd Dylan Evans o Borthmadog, a'i bartner Adriana o Sweden deithio'r byd yn llawn amser.

Er mwyn byw'r freuddwyd, mae Dylan ac Adriana yn cynnal eu hunain drwy flogio ar eu sianel YouTube, 2Passports1Dream.

Gyda dros 100,000 o ddilynwyr ac un mis yn gallu denu 2 filiwn o ymwelwyr i'w sianel, Dylan fu'n sgwrsio gydag Aled Hughes am ennill ei fywoliaeth trwy deithio.

Rhoi'r gorau i waith 9-5 i fod yn deithiwr llawn amser

Ar ddiwedd 2020, yng nghyfnod ansicr y pandemig y mentrodd Dylan ac Adriana ar eu siwrne o'r maes awyr yn Llundain i Bangkok gyda thocynnau un ffordd.

Eglura Dylan: "I ddechra efo, oeddan ni 'di planio mynd i deithio cyn i'r pandemig ddechra, o'n i 'di bod yn teithio rhyw bum i chwe mlynadd yn ôl ac o'n i isio mynd yn ôl rhyw ben.

"O'n i'n gwybod faswn i'n methu mynd yn ôl heb bres yn dod i mewn bob mis achos dydi o'm yn bosib os nad bo chdi'n filiwnydd yn barod felly nes i greu cwmni i hyrwyddo busensau bach o'r enw Kopa Marketing efo'n ffrind, Osian o Borthmadog.

Ffynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Picnic a darganfod y gwestai gorau yng Ngwlad Thai

"Nath hwnna ddechra mynd yn dda wedyn nes i orffan fy swydd normal hefo cwmni Admiral."

Gyda'i gwmni Kopa Marketing yn un ffynhonnell incwm, y cam nesaf i Dylan ac Adriana oedd ymchwilio i ffyrdd eraill o wneud pres tra'n teithio.

Y penderfyniad oedd dogfennu eu teithiau drwy greu fideos gan roi blas i'r gwylwyr ar ddiwylliant y gwledydd a chynghori ar y llefydd gorau i fwyta, aros, pethau i'w gwneud a chostau:

"O'n i hefo camera tynnu llunia ac oeddan ni'n mynd i neud jyst Instagram ond nathon ni feddwl wedyn, dydi Instagram ddim wir yn gwneud pres felly wnaethon ni feddwl trio YouTube.

Ffynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Blas ar fwyd: adolygu bwydydd i'w dilynwyr

"Doeddan ni'm yn gwbod sut oedd o'n mynd i fynd. Nathon ni feddwl ei neud o am flwyddyn ac os fasa ddim yn gweithio y byddai'n grêt cael lot o'n hatgofion ar YouTube prun bynnag.

"Ond ar ôl blwyddyn oeddan ni'n dechra neud pres bach. Nath o gymryd tua chwe mis i ni neud pres. I ddechra, £1 y diwrnod neu wbath fel'na oeddan ni'n neud.

Troi'n 'YouTubers' llawn amser

Mae Dylan ac Adriana yn Japan erbyn hyn ar ôl teithio a flogio mewn gwledydd yn ne ddwyrain Asia gan gynnwys Gwlad Thai, Vietnam, Cambodia a Singapore.

Bellach mae'r sianel 2Passports1Dream wedi tyfu a thyfu ar YouTube, TikTok, Facebook ac Instagram, gyda'r platfformau yma'n denu cyfanswm o dros 300,000 o ddilynwyr.

Dylan sy'n egluro sut mae gwneud pres drwy flogio'r teithiau:

"Wrth i dy ddilynwyr di dyfu, ti'n dechra cael cwmnïau yn dangos diddordeb yndda chdi ac yn rhoi cynnyrch am ddim i chdi drio, a wedyn os ti'n licio nhw gei di roi hysbyseb yn y fideo.

Ffynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Theml Wat Rongkhun yng Ngwlad Thai

"Maen nhw'n talu am yr hysbyseb a maen nhw'n talu am faint o amsar maen nhw'n ei gael yn y fideo a lle mae o yn y fideo. Fel'na mae o'n gweithio a 'dan ni'n teimlo bo' ni'n YouTubers llawn amser rŵan.

"Dwi'n gwneud pres drwy'r busnas marchnata hefyd, mae hwnna dal i fynd, ond mae'r YouTube yn talu am y teithio mewn gwirionedd.

"O'n i byth yn meddwl 'swn i'n deud hynna, felly ia, mae o'n mynd yn grêt. Mae'r views 'dan ni'n ei gael ar y sianel yn newid bob mis a 'dan ni wedi cael rhai misoedd fel mis Ionawr lle gathon ni bron i 2 filiwn o views, yna'n mis Mawrth, 'dan ni mond wedi cael 500 mil. Mae o'n amrywio o le i le."

Gweithio a theithio

Er bod Dylan ac Adriana yn llwyddo i deithio'r byd ac ennill eu bara menyn, mae'r gwaith yn gallu bod yn llafurus, a dydi hi ddim yn wyliau bob dydd.

"Mae o'n lot o waith; efo un fideo fasat ti'n gallu bod efo dros ddwy awr o footage i fynd drwy ac i olygu i greu stori. Mae hynna yn gallu cymryd bron i ddiwrnod cyfan o eistedd yn y stafall wely neu gaffi yn ei roi o at ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Tarsier yn Bohol, Y Philippinau

"'Da ni'n sgwrsio yn aml a deud nad ydan ni i fod i ista yn stafall wely y gwesty jest yn ordro tecawê a gweithio drwy'r adag.

"'Dan ni fod yn trafeilio y byd, 'dan ni hefyd wedyn yn deud 'Fasa ni'n gallu gweithio mewn swyddfa yn ein hen swyddi' a rydan i'n deud 'Ma' hyn yn well'."

Beth sydd nesaf?

"Dwi'n meddwl y gôl ydy, dros y dair blynadd nesa', cael tîm i'n helpu ni, felly os 'dan ni'n gallu 'neud bach mwy o bres fasa ni'n gallu cael person yn golygu y fideos i ni - rhywun sydd efo fwy o sgil na fi achos dwi jest di dysgu drwy ddefnyddio tiwtorials ar YouTube.

Ffynhonnell y llun, 2Passports1Dream
Disgrifiad o’r llun,

Dylan ar awyren gyfforddus

"Os allwn ni greu mwy o fideos a rhai gwell - dwi'n meddwl wedyn fyddan ni'n gallu ista 'nôl a meddwl, waw, 'dan ni wedi creu rwbath ffantastig yn fan'ma.

"'Da ni di teithio'r Dwyrain Pell am ddwy flynadd 'wan felly Ewrop fydd nesa' dwi'n meddwl."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig