O Bwllheli i Awstralia: Hanes yr aelod seneddol Hugh Trevor Jones

  • Cyhoeddwyd
Hugh gyda'i deulu - ei ddwy chwaer a'i rhieni a ffrindiau'r teulu o Lerpwl sy' wedi symud i AwstraliaFfynhonnell y llun, Hugh Trevor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Hugh (ar y chwith) gyda'i deulu - ei ddwy chwaer a'i rieni a ffrindiau'r teulu o Lerpwl sy' wedi symud i Awstralia

Mae wedi bod yn daith hir i'r gwleidydd Hugh Trevor Jones sy'n dod o Bwllheli ond bellach yn cynrychioli pobl Awstralia yn Senedd Gorllewin Awstralia.

Gyda'i deulu'n dod o ogledd Cymru ac yn penderfynu mudo i Awstralia pan oedd Hugh yn blentyn, mae stori Hugh yn un o ddyhead i helpu ei wlad newydd.

Bu Hugh yn siarad gyda Cymru Fyw am ei wreiddiau Cymreig a'i fywyd yn Awstralia.

Er taw plentyn 10 oed oedd e yn gadael Cymru, mae dipyn o ddylanwadau Cymreig yn ei fywyd a'i gymuned ochr arall y byd, fel mae'n esbonio: "Roedd Mam yn dod o Abergele a Dad yn dod o Bwllheli. Roedd y ddau'n siarad Cymraeg, maen nhw'n siarad Saesneg gan amlaf nawr ond maen nhw'n cofio'r Gymraeg ac yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd weithiau a phan maen nhw'n mynd nôl i Gymru."

Ffynhonnell y llun, Hugh Trevor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyndeidiau Hugh: Mae'r llun cyntaf yn dangos ei daid, trydydd o'r chwith, ar Garreg yr Imbill, Pwllheli. Mae'r ail lun yn dangos ei nain, pumed o'r dde

Bywyd newydd

Symudodd y teulu i Perth yn Awstralia yn Ionawr 1978 gyda tad Hugh, Arthur Trevor Jones, yn dod i Awstralia i weithio fel deintydd a'i fam, Margaret Vaughan Jones (Owen cyn priodi), yn gweithio fel nyrs.

Roedd cymuned o Brydain yno yn barod, meddai Hugh: "Mae 'na dipyn o gysylltiadau Cymreig ag Awstralia - yn amlwg mae'r enw New South Wales.

"Mae cryn dipyn o drefi wedi'u henwi ar ôl trefi yng Nghymru ac mae 'na ddylanwad glofaol. Yn Calgoly mae Aur-gloddfa Meibion Gwalia - felly mae cyswllt Cymreig yn y mwyngloddiau aur.

"Pan ddaethon ni allan i Awstralia roedd Mam a Dad yn cadw cwmni gyda'u ffrindiau o Gymru a doedden nhw ddim yn teimlo'r angen i ymuno ag unrhyw gymdeithasau Cymreig.

"Mae yna gymdeithas Gymreig ac eglwys Gymreig yma o hyd."

Ffynhonnell y llun, Hugh Trevor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Hugh a'i chwiorydd Jackie Buchanan a Sarah Dagostino

Gyrfa

Yn dilyn gyrfa yn y Llynges mae Hugh wedi cynrychioli Darling Range (ardal yng ngorllewin Awstralia, yn gyfagos i Perth) yn Senedd Gorllewin Awstralia ers 2021.

Ac nid ef yw'r unig aelod seneddol o dras Cymreig sy' yno, fel mae'n esbonio: "Mae 'na ddau aelod arall o'r Senedd sy'n Gymreig - mae Ali Kent o Abertawe yn aelod dros Kalgoorlie ble mae'r mwyngloddio i gyd yn digwydd. Ac mae Don Punch, aelod arall, yn dod o Bwllheli lle oedd ei rieni yn Gotiau Coch yn Butlins!

"Ac mae 'na bedwar aelod o staff yma o Gymru."

Oes rheswm fod cymaint o Gymru'n gweithio dros bobl Awstralia yn y Senedd yno?

Meddai Hugh: "Y peth am Awstralia yw ei fod yn wlad deg iawn - does dim strwythur dosbarth penodol yn seiliedig ar eich cefndir.

"Mae 'na strwythur dosbarth yn seiliedig ar faint o gyflog chi'n ennill ond mae cyfle cyfartal i bobl.

"Dwi wastad yn meddwl bod y Cymry yn eitha' empathetig ac mae'r cefndir mwyngloddio 'na gyda ni felly ni'n gweithio'n galed ac ati.

"Pan dwi'n cyfarfod Cymry fel oedolyn mae gennym ni gysylltiad. Dwi'n siarad â nhw ac mae gennym ni stori gefndir yn gyffredin."

Ffynhonnell y llun, Hugh Trevor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Hugh yn blentyn

Beth wnaeth ysbarduno Hugh, sy'n 56 oed, i fywyd gwleidyddol?

Meddai: "Dwi'n hoffi helpu pobl ac yn y llynges ro'n i'n gwnselydd cyffuriau ac alcohol.

"Beth dwi'n mwynhau yw helpu pobl - mae peth o'r gwaith yn ymwneud â biwrocratiaeth y llywodraeth ond hefyd helpu pobl gyda anableddau a'r henoed, dwi'n gallu helpu mewn ffordd uniongyrchol.

"Falle fod angen rhywun i siarad â nhw ac i glywed beth sy' ganddynt i ddweud.

"Mae pobl yn dweud pa mor agos at bobl ydyn ni yno. Mae rhai mewnfudwyr yn methu credu bod nhw'n siarad â'u Haelod Seneddol. Wrth siarad â phobl, maen nhw wir yn gwerthfawrogi'r help felly mae'n rhan gwych o'r gwaith.

"Fyddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall."

Hiraeth

Yn y 1970au mudodd nifer o bobl o Brydain i Awstralia fel rhan o ymgyrch oedd rhai'n galw'n '£10 Pom' - fel rhan o'r ymgyrch roedd Prydeinwyr yn cael llety nes bod nhw wedi trefnu lle mwy parhaol i fyw.

Roedd cyfrifiad 2021 yn dangos fod mwy na 27,000 o bobl yng ngorllewin Awstralia yn dod o dreftadaeth Cymreig.

Meddai Hugh: "Daeth lot o Brydeinwyr i Awstralia fel rhan o £10 Pom.

"Roedd Mam a Dad yn trafod mudo i Canada neu Awstralia ond oherwydd y tywydd a fod Dad yn hoffi golff, daethon ni i Awstralia. Hefyd roedd teulu arall o Gymru yma felly dyna'r rheswm daethon ni i Perth.

Ffynhonnell y llun, Hugh Trevor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Hugh a'i chwiorydd

"Roedd lot o bobl yma o Lloegr a'r Alban ac wedyn ychydig yn llai yma o Gymru.

"Mae Mam yn bygwth o hyd i fynd nôl i Gymru - mae'n 85 nawr. Hi oedd yr ifanca' o'i theulu ac yn anffodus mae wedi colli ei theulu erbyn hyn. Roedd Mam wastad eisiau mynd nôl at ei chwiorydd.

"Sefydlodd Dad le deintydd ac roedd yn hapus iawn yn Awstralia. Wnaeth e golli ei unig chwaer oedd yn byw yng Nghaernarfon tua 2006.

"Mae gan Mam hiraeth. Mae syniad rhamantaidd ganddi o Gymru ac atgofion arbennig o'i phlentyndod.

"Aethon ni nôl i Gymru ar gyfer penblwydd Mam yn 80 bum mlynedd yn ôl. O ran teulu yng Nghymru dim ond fy nghefnderod a 'nghyfnitherod sydd ar ôl. Dyw e ddim yr un peth ar ôl i'r teulu farw."

Oes gan Hugh atgofion da o Gymru?

Er ei fod wedi gadael y wlad yn 10 oed, mae'n dweud fod ganddo "atgofion da - dwi'n cofio lot."

Fel plentyn aeth i ysgol yn Llandudno a Bae Colwyn ond yr unig Gymraeg mae'n cofio erbyn hyn yw 'mae'r cloc ar y wal'.

Meddai: "Mae'n drawsnewidiad mawr i adael gwlad a mynd dramor - mae gen i lawer o atgofion yng Nghymru. Dwi'n cofio Llandudno a rhedeg o gwmpas gyda ffrindiau.

Mynd ar wyliau i Bwllheli

"Roedd gan gefnder fy nhad gaffi ger y traeth o'r enw Glan Môr sy' nawr yn Caffi Largo a dwi'n cofio mynd yno."

Mae'r dylanwad Cymreig yn parhau ac mae wedi galw ei fab yn Gryffydd. Rhiannon yw enw canol ei ferch.

Felly ydy e dal i deimlo'n Gymreig?

Meddai Hugh: "Ro'n i yn Llynges Awstralia am 30 mlynedd ac am y 10 mlynedd cyntaf ro'n i'n dal i deimlo'n Brydeinig. Ond nawr dw i wedi newid, dwi'n teimlo'n Awstraliad ac yn cael fy nerbyn yma.

"Er dwi dal i gefnogi Cymru yn y rygbi dros y Wallabies.

"Rydyn ni i gyd wedi cael bywyd da yma."

Pynciau cysylltiedig