Cannoedd yn angladd Rafel Jeanne a fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
gwasanaeth Rafel Jeanne
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Gatholig Pedr Sant

Mae angladd Rafel Jeanne, un o dri pherson gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fis diwethaf, wedi cael ei gynnal.

Bu farw Rafel, 24, Darcy Ross, 21, ac Eve Smith, 21, yn y digwyddiad yn ardal Llaneirwg y ddinas, tra bod dau ffrind arall - Shane Loughlin, 32, a Sophie Russon, 20 - yn parhau yn yr ysbyty.

Roedd y pump ohonynt wedi bod ar goll am bron i 48 awr yn dilyn noson allan, ar ôl cael eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd am tua 02:00 ddydd Sadwrn 4 Mawrth.

Cafodd y car roedden nhw'n teithio ynddo ei ganfod am 00:15 ddydd Llun ger yr A48, wedi i bobl fod yn chwilio amdanynt dros y penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn y gwrthdrawiad

Gohebydd BBC Cymru, Aled Huw

"Dan awyr las fe ddaeth rhai cannoedd at ei gilydd tu fewn a thu fas i Eglwys Gatholig Pedr Sant i gofio Rafel Jeanne - teulu a chyfoedion a ffrindiau, pawb bron mewn du syber.

"Hebryngwyd yr hers gan bedwar car. Ar yr hers, blodau syml y teulu - 'mab, brawd, nai' wedi ei sillafu mewn blodau.

"Roedd torch o lilis gwynion ar yr arch, a phêl rygbi o flodau gwyn â'r gair 'Cymru'. Aeth cannoedd i'r eglwys ei hun, eraill yn dewis myfyrio, sgwrsio neu sychu deigryn tu fas.

"Dau emyn Gymraeg oedd i'r gwasanaeth coffa, Calon Lân ac Ar Hyd Y Nos. Roedd Rafel, 24, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Glantaf.

"Deugain munud wedyn, gadawodd y cortege am amlosgfa Thornhill ar gyfer gwasanaeth preifat."

Mae ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i'r ffordd y gwnaeth heddluoedd Gwent a De Cymru ymateb i adroddiadau fod y pump ar goll cyn iddyn nhw gael eu canfod.

Dywed y lluoedd mai swyddogion Heddlu Gwent, a oedd yn cynnal ymholiadau yn yr ardal nos Sul, ddaeth o hyd i'r Volkswagen Tiguan yr oedd y pump yn teithio ynddo.

Ond roedd ffrindiau i'r pump oedd yn y car yn honni mai nhw ddaeth o hyd i'r car gyntaf ar ôl sylwi ar draciau teiars.

Dywedodd mam Sophie Russon fod yr heddlu "jyst heb feddwl bod y peth werth ymchwilio iddo" pan wnaeth hi gysylltu gyda nhw i ddechrau i fynegi pryder bod ei merch ar goll.

"Doedd e ddim fel petaen nhw'n poeni. Roedd rhaid i fi yrru i Gaerdydd i guro ar ddrysau fy hun," meddai Anna Certowicz wrth siarad wedi'r digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi dweud na allen nhw wneud sylw tra bod ymchwiliad yr IOPC yn parhau.

Pynciau cysylltiedig