Llaneirwg: Heddlu'n cadarnhau amser gwrthdrawiad a laddodd dri
- Cyhoeddwyd
Mae ymholiadau Heddlu De Cymru i wrthdrawiad ar gyrion Caerdydd a laddodd dri pherson wedi cadarnhau union amser y digwyddiad.
Cafwyd hyd i Eve Smith, 21, Rafel Jeanne, 24, a Darcy Ross, 21, yn farw mewn cerbyd ger cylchdro ar ffordd brysur yr A48 yn Llaneirwg yn yr oriau mân ddydd Llun 6 Mawrth.
Mae dau berson arall - Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32 - yn parhau i gael triniaeth am anafiadau difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywed y llu eu bod bellach wedi cadarnhau bod y gwrthdrawiad, pan adawodd Volkswagen Tiguan gwyn y ffordd, wedi digwydd am 02:03 fore Sadwrn, 4 Mawrth.
Roedd teuluoedd y pump wedi apelio am gymorth i ddod o hyd iddyn nhw dros y penwythnos wedi iddyn nhw fethu â dychwelyd adref wedi noson allan nos Wener.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i'r ffordd y deliodd yr heddluoedd gydag adroddiadau fod y pump wedi bod ar goll am bron i ddeuddydd cyn cael eu canfod.
Mae'r casgliad yn dilyn "ymholiadau manwl, sy'n cynnwys astudio lluniau CCTV a chamerâu adnabod rhifau platiau ceir", meddai Heddlu'r De.
Mae ditectifs eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal, neu'n teithio tua'r dwyrain ar hyd yr A48 Rhodfa'r Dwyrain rhwng Caerdydd a ffordd ymadael Llaneirwg sy'n cysylltu â'r cylchdro ger Canolfan Arddio Blooms.
Maen nhw'n gobeithio siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y Volkswagen Tiguan neu sy'n gallu cynnig lluniau dashcam.
Ychwanegodd y llu: "Does dim awgrym bod cerbyd arall yn rhan o'r gwrthdrawiad."
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cefnogaeth i deuluoedd Rafel Jeanne, Darcy Ross ac Eve Smith, ac mae archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jason Davies: "Mae'r ymchwiliad yn gwneud cynnydd da o ran creu darlun o'r digwyddiadau yn arwain at y gwrthdrawiad.
"Bydd swyddogion arbenigol yn parhau i gynnal ymholiad manwl a fydd yn ein galluogi i roi'r ffeithiau o ran beth ddigwyddodd yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda'r teuluoedd a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma."
Mae'r llu wedi cadarnhau bod yr achos wedi ei basio ymlaen i Grwner Ei Fawrhydi, ac mai Crwner Canol De Cymru fydd yn delio â'r achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023