Marwolaethau Llaneirwg: IOPC yn ymchwilio i ymateb yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Darcy Ross, Rafel Jeanne, Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r ffordd y gwnaeth heddluoedd Gwent a De Cymru ymateb i adroddiadau fod pump o bobl ar goll cyn iddyn nhw gael eu canfod mewn car ar gyrion Caerdydd.

Bu farw tri o'r pump - Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21, a Rafel Jeanne, 24 - ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i gar yn ardal Llaneirwg y ddinas yn gynnar fore Llun.

Mae dau berson arall, Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd y pump ohonynt eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd am tua 02:00 ddydd Sadwrn.

Roedden nhw'n teithio mewn car Volkswagen Tiguan, a gafodd ei ganfod am 00:15 ddydd Llun.

Fe gafodd Ms Russon lawdriniaeth am ei hanafiadau nos Lun, ac mae rhai o ffrindiau'r grŵp wedi trefnu ail wylnos nos Fawrth ger safle'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd o bobl at ei gilydd ger safle'r gwrthdrawiad nos Fawrth

Roedd yna bresenoldeb heddlu amlwg wrth i oddeutu 500 ymgynnull ger y cylchdro yn yr ardal ble gafwyd hyd i'r cerbyd.

Roedd yna ddau funud o dawelwch cyn arddangosfa tân gwyllt a barodd am 10 munud er cof am y tri a fu farw.

Daeth yr wylnos i ben ar ôl awr wedi i'r trefnwyr ofyn i bawb adael fel bod yr heddlu'n gallu ailagor yr A48. 

Dywedodd perthynas i Mr Jeanne, nad oedd yn dymuno i'r BBC ei enwi, bod y teulu "yn dal mewn sioc" ond bod nifer y bobl yn yr wylnos "yn dangos gymaint oedd gymaint o bobl wahanol yn ei garu".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna funud o dawelwch yn ystod yr wylnos a thân gwyllt

Mae teulu a ffrindiau rhai o'r rheiny fu farw wedi beirniadu'r ffordd y gwnaeth yr heddlu ymateb i'r achos.

Bellach mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi penderfynu y byddan nhw'n ymchwilio i'r ffordd y deliodd yr heddluoedd gydag adroddiadau fod y pump ar goll.

'Osgoi dyfalu'

Yn gynharach ddydd Mawrth, roedd heddluoedd Gwent a De Cymru wedi apelio ar y cyhoedd i osgoi "dyfalu" wrth i'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad barhau.

Daeth yr apêl wrth i'r lluoedd ddatgelu mwy o fanylion am amserlen yr ymateb wedi iddi ddod i'r amlwg bod pum person ar goll ers oriau mân ddydd Sadwrn yn dilyn noson allan.

Fe alwodd Aelod Seneddol hefyd ar bobl i beidio "rhuthro i feirniadaeth" am yr amser a gymerodd i'r heddlu ganfod y car wedi'r gwrthdrawiad.

Dywed y lluoedd na allen nhw ymateb i feirniadaeth tra bod ymchwiliad ar y gweill.

Amserlen y penwythnos

Dywed y ddau lu bod ymchwiliadau cychwynnol wedi cadarnhau sawl peth:

  • Cafodd y pum person eu gweld ddiwethaf am 02:00 fore Sadwrn ym Mhentwyn.

  • Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ystod yr oriau mân ddydd Sadwrn. Bydd ymholiadau pellach, gan gynnwys edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng a thechnoleg adnabod rhifau platiau cerbydau, yn cadarnhau'r union amser.

  • Fe dderbyniodd Heddlu Gwent hysbysiadau person coll am 19:34, 19:43 a 21:32 nos Sadwrn.

  • Fe dderbyniodd Heddlu De Cymru hysbysiad person coll am 017:37 ddydd Sul.

  • Roedd yna gais am 23:50 nos Sul i hofrennydd yr heddlu archwilio rhan o'r ddinas ac o ganlyniad fe ddaethpwyd o hyd i gar mewn ardal goediog oddi ar yr A48.

  • Fe welodd swyddogion Heddlu Gwent, oedd ar y tir, y cerbyd am 00:02 fore Llun ac fe gafodd hyn ei gofnodi gan Heddlu'r De am 00:15.

  • Mae'r lluoedd wedi cadarnhau eu bod yn credu taw un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau a theyrngedau wedi cael eu gadael ger y safle ar yr A48 yn ardal Llaneirwg

Dywed y lluoedd mai swyddogion Heddlu Gwent, oedd yn cynnal ymholiadau yn yr ardal nos Sul, ddaeth o hyd i'r Volkswagen Tiguan am 00:15am fore Llun.

Mae ffrindiau i'r pump oedd yn y car yn honni mai nhw ddaeth o hyd i'r car gyntaf ar ôl sylwi ar draciau teiars.

Dros y penwythnos, bu eu teulu a'u ffrindiau yn apelio ar y cyfryngau cymdeithasol am gymorth i ddod o hyd iddynt.

Dywedodd mam Ms Russon fod yr heddlu "jyst heb feddwl bod y peth werth ymchwilio iddo".

Disgrifiad,

Roedd yna arwyddion bod rhywbeth "anghyffredin" wedi digwydd, medd cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd Winston Roddick

"Fe wnaeth yr heddlu ofyn i mi stopio ffonio, ond ar ddiwedd y dydd, fi'n fam a fi'n mynd i boeni," meddai Anna Certowicz, 42, wrth y Daily Mail.

"Doedd e ddim fel petaen nhw'n poeni. Roedd rhaid i fi yrru i Gaerdydd i guro ar ddrysau fy hun."

Mae'r heddlu wedi dweud na allen nhw wneud sylw tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

'Pwyllo ac aros am ffeithiau'

Roedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dywedodd Ruth Jones, AS Gorllewin Casnewydd, ei bod yn deall y "gofid am yr oedi posib cyn eu darganfod", ond bod angen i bobl "bwyllo ac aros".

"Mae'n rhaid i ni aros am y ffeithiau," meddai wrth BBC Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r De a Heddlu Gwent bellach wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu dros yr achos

Yn y cyfamser, mae hi wedi dod i'r amlwg bod Eve Smith wedi colli ei chwaer, Xana Doyle, yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd yn 2015.

Roedd Ms Doyle yn teithio yng nghar Sakhawat Ali, a gafodd ei garcharu am wyth mlynedd, ag yntau'n gyrru dan ddylanwad cocên ac alcohol ar y pryd.

Mewn datganiad brynhawn Mawrth gofynnodd teulu Ms Smith am breifatrwydd er mwyn galaru.

"Ry'n ni eisiau galluogi i Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru gael yr amser a'r cyfle i ymchwilio i'r mater mewn modd trwyadl a phroffesiynol, er mwyn galluogi i'r IOPC ddod i'w canlyniadau eu hunain," meddai'r datganiad.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw chwaer Eve Smith, Xana Doyle, mewn gwrthdrawiad yn 2015

Ychwanegodd Ruth Jones AS: "Rwy'n ymwybodol o'r cwynion yna, ac yn amlwg dyna pam bydd yr IOPC yn edrych ar yn union beth ddigwyddodd gydag amgylchiadau'r drasiedi ofnadwy yma.

"Rwy'n gwybod fod pobl wedi mynd ar rwydweithiau cymdeithasol i fynegi eu cydymdeimlad.

"Ond mae sibrydion a phethau'n cael eu rhannu, ac weithiau mae'n eithaf anodd i gael y ffeithiau.

"Felly dwi'n credu bod angen i bobl fod yn ofalus oherwydd mae yna deuluoedd sy'n galaru."

Ychwanegodd Ms Jones y bydd yn annog yr IOPC i symud yn gyflym oherwydd "mae'n gallu bod yn araf weithiau".

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Russon a Shane Loughlin yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol

Dywedodd yr awdur a chyn-heddwas Heddlu'r Met, Peter Bleksley fod "rhywbeth wedi mynd o'i le" i oedi o'r fath ddigwydd rhwng i'r pump fynd ar goll a chael eu canfod.

"Mae gan yr achos trasig yma nifer o ffactorau tebyg i drasiedi arall yn Falkirk yn Yr Alban yn 2015, ble wnaeth car adael y draffordd, ac er i'r heddlu gael gwybod, wnaethon nhw ddim gwneud digon," meddai ar BBC Radio Wales fore Mawrth.

"Fe wnaeth yr achos yna arwain at ymddiswyddiad Prif Gwnstabl Heddlu'r Alban.

"Ar yr wyneb, gyda'r swyddogion a'r dechnoleg sydd ar gael, fe ddylai hwn fod wedi bod yn ymchwiliad eithaf syml i ganfod y car a'r rheiny oedd ynddo.

"Ond mae rhywbeth wedi mynd o'i le gan na chafon nhw eu canfod o fewn amser byr, a phwy â ŵyr pe bai hynny wedi gallu atal anafiadau neu farwolaeth.

"Mae'r heddlu yn graddio pobl sydd ar goll o ran lefel y risg, ac maen nhw'n gwneud hynny gyda throseddau hefyd.

"Os ydy trosedd neu berson ar goll yn cael eu hystyried yn lefel isel o risg, yn syml, dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae llu o deyrngedau wedi'u rhoi ger safle'r gwrthdrawiad ers i'r car gael ei symud oddi yno ddydd Llun

Ond mae Alun Huws, cyn-arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd a chyn-ddarlithydd Cyfraith a Threfn yng Ngholeg Llandrillo Menai, yn deall pam na chafodd yr achos ei flaenoriaethu.

"Un o'r ystyriaethau cyntaf pan ma' pobl yn cysylltu efo'r heddlu ac yn meddwl bod rhywun ar goll a bod rhywbeth o'i le ydy oed rhywun," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth.

"Dyna sut maen nhw'n blaenoriaethu be' maen nhw am wneud. Roedd y rhain yn oedolion i gyd.

"Y wybodaeth oedd yr heddlu wedi ei gael oedd adroddiadau nad oedd y teuluoedd a phobl oedd yn eu hadnabod nhw wedi cael cysylltiad drwy gyfryngau cymdeithasol neu alwadau ffôn.

"Ydy hyn yn ddigon i ddechrau ymchwiliad a chwilio mawr?

"Os 'dach chi'n meddwl dros y wlad i gyd faint o weithiau mae 'wbeth tebyg yn digwydd, fysa 'na ddim plismona o fath arall yn digwydd.

"Mae'n ofnadwy, ac all neb ddychmygu dim gwaeth a'r hunllef i'r teuluoedd - a 'dan ni'n deall hynny, a rhaid rhoi ein hunain yn eu sefyllfa nhw - ond mae 'na batrwm i sut mae'r heddlu yn ymchwilio i bethau fel hyn."