Cyhoeddi enw dynes, 28, fu farw ar ffordd osgoi Y Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Emma Louise MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 28 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Y Felinheli ger Caernarfon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd am tua 19:00 nos Lun.

Bu farw Emma Louise Morris, o Bwllheli, yn y fan a'r lle.

Cafodd plentyn pedair oed ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd.

Cafodd dynes arall ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol, tra bod dau berson arall hefyd wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd ag anafiadau difrifol.

'Bwlch mawr yn ein bywydau'

Mewn datganiad dywedodd rhieni Emma Louise Morris: "Mae ein merch brydferth wedi ei chymryd oddi wrthym ni yn greulon, ac yn rhy fuan.

"Yn ddim ond 28 oed, roedd gan ein merch annwyl cymaint o fywyd i edrych ymlaen ato."

Ychwanegodd ei theulu ei bod hi'n "brydferth ar y tu mewn a'r tu allan, a bydd yn gadael bwlch mawr yn ein bywydau".

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y geiriau caredig gan deulu a ffrindiau, ond yn gofyn nawr am breifatrwydd ar yr adeg anodd hwn, a fyddwn ni ddim yn gwneud datganiad pellach.

"Byddwn yn parhau i fonitro ein ŵyr sy'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty. Rydyn ni'n gweddïo y bydd yn gwella'n fuan."