Y dyn o Wrecsam sy'n cerdded dros Ogledd America
- Cyhoeddwyd
Mae Paul Edwards o Ben-y-cae ger Wrecsam yn redwr ultramarathon sy'n hoff o wthio ei gorff i'r eithaf. Ond mae ei her ddiweddaraf yn un arbennig iawn, ac mae'n gobeithio casglu miloedd o bunnoedd er mwyn helpu plant sy'n sâl.
Esboniai Paul: "Ar 6 Ionawr fe ddechreuais ar daith ar droed o tua 2,800-3,000 milltir, o Ocean Beach, San Diego, ar draws cyfandir Gogledd America gan deithio drwy 11 talaith.
"Y bwriad yw i orffen wedi chwe mis o deithio yn Myrtle Beach, De Carolina. Rwy'n gwneud hyn i gefnogi fy hosbisau plant lleol; Hope House yng Nghroesoswallt a Thŷ Gobaith, Conwy.
"Mae'r daith wedi bod yn hynod o anodd hyd yn hyn - dydy rhai o'r ffyrdd ar y map ddim o hyd yn addas i gerddwyr er fod y map yn dweud eu bod nhw.
"Ar dair achlysur dwi 'di treulio diwrnod cyfan yn cerdded i dref neu ardal, ac yna darganfod bod y ffordd neu'r llwybr yn dod i stop yn sydyn, neu bellach wedi'i droi yn ffordd breifat. Fy unig ddewis oedd i osod y babell ac aros noson ac yna cherdded nôl i'r man gwreiddiol bore wedyn a dechrau eto i gyfeiriad gwahanol."
Wynebu heriau
"Rwy'n gwthio 'pet stroller' sy'n cario fy holl offer, ac mae'n pwyso tua 120 pwys. Mae hyn yn gwneud y daith yn anodd, yn enwedig pan fydda i'n ceisio gwthio neu dynnu'r stroller trwy filltiroedd o dywod meddal mewn amodau fel anialwch."
Mae'r elfennau hefyd wedi bod yn her i Paul, meddai: "Problem arall yw'r tywydd eithafol sydd wedi taro America'n galed ac wedi fy ngorfodi i ail-lwybro tua'r de i Phoenix, Arizona, a cheisio dod o hyd i lwybrau eraill pan dwi yma.
"Dydy hyn ddim yn ffordd ddiogel o deithio ond dyma fy unig opsiwn er mwyn ffeindio ffordd drwyodd i orffen yn y dwyrain.
"Dwi 'di cael llawer o broblemau gyda'r olwynion ar y stroller, ac roedd rhaid i mi oedi am wyth diwrnod mewn gwesty yn Las Cruces, New Mexico, tra roeddwn yn aros i un newydd gael ei anfon i mi."
"Dwi wedi cael fy nal mewn glaw trwm, gwyntoedd eithafol a stormydd llwch, ac rwyf wedi wynebu eira yn Arizona, New Mexico ac efallai y bydd mwy wythnos nesaf tra byddaf yn Texas. Dwi hefyd wedi bod allan mewn gwres o dros 90°F (dros 32°C)."
"'Nes i ddeffro mewn lle o'r enw Jacumba yn Arizona gyda llew mynydd yn edrych arna i, diolch byth doedd o ddim eisiau bwyd ar y pryd!"
Mae Paul wedi gosod targedau i'w hun o faint o filltiroedd mae angen iddo gyflawni yn ddyddiol, ond mae'r daearyddiaeth yn gallu creu problemau ar brydiau.
"Y nôd yw cerdded/rhedeg 20 milltir y diwrnod, ac mae'r pellter hwnnw'n iawn, ond gan fod y dinasoedd a'r trefi ran amlaf yn fwy na 20 milltir o'i gilydd mae'n rhaid i mi osod y babell ar ochr y briffordd (dwi'n cuddio'r babell y gorau allai er mwyn diogelwch).
"Hyd yn hyn dwi 'di gwneud 1,469 milltir, a dwi ychydig ddyddiau o'r pwynt hanner ffordd. Ar hyn o bryd dwi yn ninas Lubbock yn Texas."
'Dros 100 marathon'
Mae gan Paul Flynyddoedd o brofiad o godi arian tuag at elusennau, fel esboniai.
"Dwi 'di gwneud llawer o heriau rhedeg a heicio yn y gorffennol gan gynnwys y Marathon des Sables yn 2017 a'r Grand 2 Grand Ultra yn Arizona ac Utah 2019. Dwi 'di gwneud ymhell dros 100 marathon ac ultramarathon, ac rwyf wedi ymddangos mewn cylchgrawn rhedeg ultra.
"Y llynedd cyrhaeddais y pedwar olaf yng ngwobrau Pride of Britain, ond yn anffodus 'nes i ddim ennill."
"Dwi 'di bod yn codi arian ar gyfer amryw o elusennau lleol ac achosion da ers 23 mlynedd, ond yr her bresennol a'r dair arall mwyaf diweddaraf yw'r rhai sydd wedi ennyn y mwyaf o sylw. Mae'r heriau diweddar yn hel arian i Hope House a Thŷ Gobaith wedi cael dipyn o sylw."
O un pen Ynysoedd Prydain i'r llall
Mae Paul hefyd wedi cerdded ledled Cymru a gwledydd Ynysoedd Prydain, yn ogystal â dringo'r mynyddoedd uchaf.
"Yn 2019 'nes i gerdded heb gefnogaeth o'r Stadiwm Principality yng Nghaerdydd i'r Cae Ras yn Wrecsam - y syniad oedd cysylltu cartrefi rygbi a phêl-droed Cymru.
"Yn 2020 fe gerddais o Fort William yn Yr Alban i fy nhafarn leol, y Cross Foxes ym Mhen Y Cae, gan ddringo i gopa Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa ar y ffordd - 640 milltir mewn 22 diwrnod."
Cafodd ambell her ei chyflawni mewn gwisg arbennig: "Yn 2021 'nes i gerdded o John O'Groats i Lands' End, wedi gwisgo fel cymeriad Deadpool i anrhydeddu'r ffaith bod Ryan Reynolds wedi prynu y clwb sydd mor agos i 'n nghalon i, Wrecsam."
"Newidiais y llwybr er mwyn gallu ymweld â hosbis plant Tŷ Gobaith ar y ffordd ac es i hefyd heibio'r Cae Ras ac, yn anghredadwy, roedd y criw ffilmio yno yn ffilmio'r gyfres Welcome to Wrexham a dwi yn y gyfres!
"Fi yw'r dyn yng ngwisg Deadpool ym mhennod 3! Roedd y daith yna'n hir - 971 milltir dros 39 diwrnod."
Neges gan Mr Reynolds
Dywed Paul nad yw Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cysylltu nôl yn uniongyrchol ynglŷn â'r holl heriau mae wedi gwneud, ond mae wedi cael bersonol neges gan un o berchnogion y clwb, Ryan Reynolds.
"Mi ges i neges bersonol anhygoel gan Mr Ryan Reynolds, ac fe roddodd o gerdyn sim Mint Mobile (y cwmni mae berchen) i mi ar gyfer y daith yma, yn rhad ac am ddim!"
Hel miloedd i elusennau
Mae'r daith ar draws Gogledd America'n golygu roedd rhaid i Paul rhoi ei yrfa i un ochr ac mynd i'w boced ei hun i ariannu'r daith.
"Rwy'n hollol hunan-ariannol tra'n gwneud yr heriau, a rhoddais y gorau i fy swydd er mwyn rhoi cynnig ar y daith gerdded hon.
"Rwyf wedi codi ychydig o dan £30,000 yn ystod y dair her ddiwethaf ac rwy'n gobeithio codi tua £20,000 ar y daith bresennol."
Er gwaethaf y gost ariannol a'r sialens gorfforol mae'r her ddiweddara' wedi ei roi ar Paul, mae'n obeithiol y bydd y cyfan yn dwyn ffrwyth yn y diwedd.
"Y cyfanswm presennol yw £6,389 ac mae llawer o bobl yn helpu gyda'r codi arian, felly dylai'r swm terfynol fod yn dda."
Hefyd o ddiddordeb: