Rhyddfraint sir Wrecsam i Ryan Reynolds a Rob McElhenney

  • Cyhoeddwyd
Rob a RyanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion ar y clwb ym mis Chwefror 2021

Mae'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi derbyn rhyddfraint gan Gyngor Sir Wrecsam.

Cafodd perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam eu hanrhydeddu gan y cyngor sir am eu cymorth i hyrwyddo'r ddinas.

Dywedodd Reynolds wrth gyfarfod cyngor trwy gyswllt fideo: "Mae Wrecsam yn gartref i un o'r straeon harddaf ar y ddaear."

Ond cwestiynodd un cynghorydd amseru'r wobr ac a oedd hoelion wyth y clwb yn fwy teilwng.

Ychwanegodd Reynolds: "Rwy'n cydnabod bod hyn i anrhydeddu ein cyfraniad ond byddwn hefyd yn dweud bod y gwrthwyneb yn wir am y dref hon, mae'r hyn y mae wedi'i roi inni yn anfesuradwy.

"Mae'r hyn y mae'n ei roi i Gymru a gweddill y byd yn anfesuradwy.

"Ein nod nawr ac wedi bod erioed yw cynnal gwerthoedd y gymuned a'r clwb hwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ymwelwyr cyson â'r dref

Fe bleidleisiodd y cyngor dros gyflwyno'r wobr i Glwb Pêl-droed Wrecsam er mwyn cydnabod ei hanes fel trydydd chlwb hynaf y byd, ynghyd â dylwanwad diweddar y ddau.

Dywedodd y Cyngyhorydd Mark Pritchard: "Mae'r ddau seren Hollywood wedi cael dylanwad anhygoel ar y clwb a'r gymuned, ac wedi helpu i ddyrchafu Wrecsam ar lwyfan y byd."

Ond dadlau'n erbyn y cynnig wnaeth un cynghorydd Ceidwadol ar ôl beirniadu Reynolds am hoffi llun Instagram gan y chwaraewr Paul Mullin oedd yn cynnwys rhegfeydd oedd wedi eu targedu at y Ceidwadwyr.

Dywedodd Shaun Harvey, sy'n ymgynghorydd i fwrdd CPD Wrecsam "na fydd y gorffennol yn cael ei anghofio".

"Bydd yn ein helpu ni i greu'r hyn ry'n ni'n ei wneud a'n huchelgais yw bod pobl yn falch i fod o Wrecsam."

Bydd yr anrhydedd yn cael ei chyflwyno'n ffurfiol mewn seremoni'r flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig