Teyrnged teulu wedi marwolaeth dyn, 27, ger Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Ben LloydFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Lloyd ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig" mewn teyrnged gan ei deulu

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn gafodd ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Sir Gaerffili ddydd Sul.

Cafodd Benjamin Lloyd, 27, ei ganfod yn anymwybodol wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i gyfeiriad yn Heol Cefn Ilan yn Abertridwr am tua 09:45.

Roedd dyn 28 oed o ardal Caerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae bellach wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad.

Mae'n parhau yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am wybodaeth, yn enwedig gan unrhyw un oedd ger y llyfrgell ar Stryd White, ac a welodd ddau ddyn yn dadlau rhwng 20:00 a 22:00 ddydd Sadwrn 1 Ebrill.

'Seren lachar yn y byd'

Yn dilyn y farwolaeth, fe gyhoeddodd teulu Mr Lloyd deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig".

"Roedd Ben mor hapus a phositif o hyd, wastad yn llon ei galon," meddai.

"Roedd yn ddyn caredig a hael oedd yn gweithio'n galed, ac roedd ganddo ddigonedd o amser i'w ffrindiau.

"Byddech chi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un oedd â gair drwg i ddweud amdano."

Ychwanegodd ei deulu y bydden nhw'n teimlo "colled ar ei ôl am byth", a'i fod yn "fab, brawd ac ewythr arbennig".

"Mae chwech o blant sydd wedi torri eu calonnau, fydd yn gweld colli bod yn ddireidus gyda'u hwncwl Ben pan fyddai'n taro draw am baned," meddai ei deulu.

"Roedd Ben wastad yn cael hwyl ym mhob sefyllfa - roedd yn seren lachar yn y byd yma ac rydyn ni'n siŵr y bydd yn disgleirio llawn cymaint yn y nesaf."

Pynciau cysylltiedig