Eryri: Heddlu'n barnu parcio 'anghyfrifol a pheryglus'

  • Cyhoeddwyd
A5 Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd criwiau yn towio cerbydau oedd wedi parcio'n 'anghyfrifol a pheryglus' ar rannau o'r A5 ddydd Gwener

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod bron i 40 o gerbydau wedi eu towio am barcio peryglus ar ddydd Gwener y Groglith.

Bu'n rhaid cau rhan o'r A5 am gyfnod oherwydd "parcio anystyriol" yn ardal Dyffryn Ogwen.

Fore Sadwrn cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod 29 o gerbydau wedi eu hadfer am barcio peryglus ar y ffyrdd cul ger Llyn Ogwen.

Cafodd naw cerbyd arall eu towio yn ardal Pen-y-Pass ger yr Wyddfa.

Dywedodd y llu mewn datganiad: "Er ein bod yn gwerthfawrogi bod pobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri i fwynhau'r tywydd a'r golygfeydd godidog dros benwythnos gŵyl y banc, rydym yn annog modurwyr i fod yn gyfrifol a meddwl ble maent yn parcio ac i wneud defnydd llawn o'r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.

"Mae'r parcio anghyfrifol a pheryglus a welsom ym Mhen-y-Pass a Llyn Ogwen ddoe (dydd Gwener y Groglith) nid yn unig yn peryglu bywydau, ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau."

Ychwanegon nhw fod parcio mewn rhannau eraill o Barc Cenedlaethol Eryri yn parhau i gael ei fonitro dros y penwythnos gŵyl y banc.

Disgrifiad,

Ceir yn cael eu towio ger Pen-y-pass yn Eryri ar benwythnos Pasg 2023

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri i helpu i leihau'r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.

"Bydd unrhyw gerbydau pellach y canfyddir eu bod wedi parcio ar y glirffordd, yn felyn dwbl neu'n achosi rhwystr hefyd yn cael eu cerbyd eu symud ar eu cost eu hunain."

Ddydd Gwener dywedodd Elizabeth Roberts, cynghorydd sir dros Betws-y-Coed a Threfriw: "Roedd hi bron yn lon unffordd gyda cheir yn parcio fel ag yr oedden nhw, ac roedd yn ei gwneud hi'n anodd i weithwyr brys i basio.

"Mae gyrwyr hefyd yn parcio o flaen drives pobl felly ni all pobl leol ddod allan, mae'n cael effaith fawr ar deuluoedd sydd eisiau cerdded o amgylch yr ardal pan fydd ceir yn parcio ar y palmentydd."

'Angen mwy o lefydd parcio'

Yn siarad brynhawn Sadwrn dywedodd Paul Jones, gyrrwr tacsi lleol, bod y sefyllfa wedi gwella ers dydd Gwener.

"Pan mae'n packed fel hyn mae o'n stopio ni drafeilio drwy'r pass, mae'n stopio ni symud ac yn costio pres i ni.

"Dwi'm yn gweld hi'n gymaint a hynna o broblem heddiw 'ma, mi oedd o ddoe, yn Pen-y-Pass ddoe doeddat ti'n methu symud.

"Mae angen 'chydig mwy o lefydd parcio, ond fedri di ddim rhoi multi storeys ar ben yr Wyddfa nafedri?!"

Dywedodd Jason McComb, "Mae'n brysur ofnadwy yma... mae angen mwy o lefydd parcio a dwi'n meddwl fod angen mwy o drefn o ran yr holl sefyllfa.

"Y problem mwya' ydi mod i wedi penderfynu dreifio i gerdded fyny'r Wyddfa a methu parcio... yn y gorffennol, cyn covid, doedd na ddim problem o gwbl.

"Rŵan mae o'n broblem ac wedi newid."