Y Gynghrair Genedlaethol: Halifax 3-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
baner bathodyn WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi ildio eu lle ar frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli'n siomedig yn Halifax.

Fe aeth y Dreigiau ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr o chwarae, diolch i ergyd Elliot Lee i'r gornel isaf.

Ond fe darodd Halifax yn ôl ym munudau agoriadol yr ail hanner, wrth i Milli Alli sgorio i'r tîm cartref.

Gyda llai nag 20 munud i fynd fe darodd Alli eto i roi Halifax ar y blaen, er mawr siom i'r dros 4,000 o gefnogwyr Wrecsam oedd wedi teithio i Swydd Efrog.

Ac fe sicrhawyd y fuddugoliaeth yn y munudau olaf gyda gôl gan Emmanuel Dieseruvwe.

Dyma golled gyntaf Wrecsam yn y gynghrair ers mis Hydref, pan gawson nhw eu trechu gan Notts County - y tîm sydd bellach ar y brig.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam bellach yn hafal ar bwyntiau gyda Notts County, wnaeth ennill, ond y tu ôl iddyn nhw ar wahaniaeth goliau.

Ond mae gan Wrecsam gêm mewn llaw ar County, a hynny cyn i'r ddau dîm sydd ar frig y tabl herio'i gilydd mewn gornest dyngedfennol ar y Cae Ras ddydd Llun.

Gallai canlyniad y gêm honno benderfynu pwy fydd yn ennill y gynghrair - a dyrchafiad - gan mai ond pedair gêm fydd gan Wrecsam yn weddill wedi hynny.