Rhybudd am wyntoedd cryfion yn parhau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau i fod mewn grym dros rannau o Gymru ddydd Mercher.
Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 50mya mewn ardaloedd mewndirol a thros 60mya ar hyd yr arfordir.
Roedd y rhybudd cyntaf mewn grym rhwng 15:00 ddydd Mawrth a 03:00 fore Mercher ym mhob rhan o Gymru.
Ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai'r amodau achosi trafferthion tan hanner nos, nos Fercher yn rhannau o orllewin a de Cymru.
Ddydd Mercher, fe gafodd rhannau o'r M4 eu cau - i'r ddau gyfeiriad ar Bont Llansawel ger Port Talbot a Phont Cynffig rhwng cyffordd 37, Porthcawl a chyffordd 38, Margam.
Mae'r croesiad fferi o Abergwaun i Rosslare yn Iwerddon wedi ei ganslo brynhawn Mercher oherwydd y tywydd.
Roedd yr amodau'n wyntog yn ardal ffordd yr M48, yr hen Bont Hafren, fore Mercher.
Mae'r rhybudd, rhwng 06:00 a 23:59 ddydd Mercher, yn berthnasol i siroedd Abertawe, Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Penfro a Phen-y-bont ar Ogwr.
Fe allai'r gwyntoedd achosi trafferthion i deithwyr ar y ffyrdd, ac fel yn Abergwaun, amharu ar wasanaethau fferi.
Mae toriadau hefyd yn bosib i gyflenwadau trydan.
'Cadwch draw o'r arfordir'
Mae'r RNLI wedi rhybuddio pobl i gadw draw o ardaloedd arfordirol oherwydd y tywydd garw.
"Tra y gallai pobl fod eisiau profi tywydd eithafol ar hyd yr arfordir, ry'n ni'n cynghori'n gryf i beidio gwneud hynny," dywedodd eu Rheolwr Diogelwch Dŵr, Ross Macleod, brynhawn Mawrth.
"Dydy hi ddim yn werth peryglu'ch bywyd, felly ry'n ni'n annog pobl i barchu'r dŵr a gwylio o bellter diogel."