'Heddwch yn dal yn fregus yng Ngogledd Iwerddon'
- Cyhoeddwyd
Mae hen gysylltiad rhwng Gogledd Iwerddon ac Unol Daleithiau America.
Dros y blynyddoedd mae'r UDA wedi chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth y dalaith.
Mae'r ffaith fod yr Arlywydd Biden wedi dod i Belfast wedi sicrhau fod sylw'r byd ar y ddinas a newyddiadurwyr a gohebwyr o bob cwr wedi tyrru yma i ddilyn ei daith.
Roedd y cyn-arlywydd, Bill Clinton yn ffigwr amlwg iawn yn y trafodaethau wnaeth arwain at gytundeb Gwener y Groglith chwarter canrif yn ôl. Roedd e'n allweddol wrth sicrhau cadoediad yr IRA.
Fe wnaeth e hefyd anfon ei gennad arbennig, y Seneddwr George Mitchell, yma i gadeirio'r trafodaethau wnaeth sicrhau'r cytundeb a dod â diwedd i'r Helyntion a degau o flynyddoedd o drais a thywallt gwaed.
Mae ymweliad yr Arlywydd Biden unwaith eto wedi pwysleisio'r berthynas arbennig yma - a hefyd ymrwymiad yr Unol Daleithiau i'r cytundeb heddwch, ac i sicrhau fod y cytundeb yn parhau.
Galwodd yr Arlywydd ar bob plaid yn Stormont i ddod at ei gilydd fel bod y Llywodraeth datganoledig yng Ngogledd Iwerddon yn gallu ailddechrau gweithredu.
Mae'r weinyddiaeth wedi ei pharlysu ers dros flwyddyn oherwydd ffrae dros drefniadau Brexit.
Ar strydoedd Gogledd Iwerddon mae rhwystredigaeth mawr am y ffaith bod yna fwlch gwleidyddol ar hyn o bryd a dim arweinyddiaeth o Stormont.
Omagh yw cartref yr athrawes cerdd Gwawr McGirr, a oedd yn fyfyrwraig yn Rhydychen adeg arwyddo Cytundeb Gwener y Groglith.
Yn Awst 1998, bedwar mis wedi'r cytundeb, fe ffrwydrodd fom yn Omagh gan ladd 29 o bobl. Mudiad Y Gwir IRA wnaeth hawlio cyfrifoldeb.
Fe symudodd Gwawr i Ogledd Iwerddon yn 2000, ac mae'n cofio "amser gobeithiol iawn" a chyfnod o deithio'n rhwydd dros y ffin "heb ddim checkpoints na ddim byd".
Roedd pethau'n "dechre symud ymlaen yn araf", meddai, gyda phobl ifanc yn arbennig yn dychwelyd i'r Ynys Werdd, a mwy o gwmnïau'n buddsoddi yno.
Roedd sicrhau Cytundeb Gwener y Groglith yn "wyrth", ond mae hi'n poeni bod "heddwch dal yn fregus yma", a bod dim fframwaith sy'n galluogi pobl i drafod yr Helyntion mewn ffordd "adeiladol".
Dywedodd: "Pan ddois i drosodd yn gynta', o'n i'n meddwl mae 'na eliffant mawr yn y stafell mae neb yn siarad amdano fo.
"Oedd 'na ddim fframwaith yna yn y cytundeb i ddelio efo'r legacy issues 'na."
Mae hi'n cofio'r sgyrsiau rhyngddo hi a'i gŵr ynghylch sut i drafod yr Helyntion a'u gwaddol gyda'u plant.
Roedd hi'n awyddus iddyn nhw ddeall mwy cyn mynd i'r ysgol uwchradd neu ddarllen am effeithiau'r hanes hyd heddiw ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae yna ganllawiau ar gyfer ysgolion, meddai, o ran trafod materion dadleuol ond dydi staff "ddim yn ddigon hyderus, neu ma' ginnon nhw ofn deud y peth wrong, neu dydyn nhw jyst ddim isio mynd yn agos ato fo.
"Ma' hynna'n biti, dwi'n meddwl."
'Falch bod trais mor bell yn y gorffennol'
Un a wnaeth fyw trwy'r Helyntion yw'r Pabydd Dr Liam Andrews, sy'n 75 oed ac wedi dysgu Cymraeg.
Mae e'n credu bod Gogledd Iwerddon wedi symud ymlaen "cryn dipyn" yn y chwarter canrif ddiwethaf.
Mae'n cofio'r IRA yn cymryd drosodd ei dŷ ac yn mynd â'i gar oddi wrtho.
Roedd ei dad hefyd yn dyst pan ddaeth aelodau'r UFF i siop ei farbwr a saethu'r barbwr yn farw.
Roedd ei rieni eisoes wedi gorfod ffoi o'u cartref tua dechrau'r Helyntion.
Roedd y bygythiad o drais yn "normal" i drigolion lleol, meddai, oedd yn gwrando'n gyson ar y newyddion i osgoi ardaloedd ble roedd bom newydd frwydro.
"Nes bod pobl yn cael profiad o gael eu saethu neu fod yn agos at fom, mae bywyd yn mynd ymlaen fel y norm. O'n ni yn 'neud pethe heb ystyried bod o'n beryg..."
"Y'n ni gyd yn cofio sut o'dd e ac mae'n brofiad byddet ti ddim isio i neb. Rwy'n meddwl fy mod fel digon o bobl yn fy oed i, sef mor falch bod e'n bell yn y gorffennol."
Cyfeiriodd at drafferthion ar strydoedd Derry ddyddiau cyn ymweliad Joe Biden ac achos diweddar o saethu heddwas yn Omagh.
Mae achosion treisgar o'r fath, meddai, "yn beth prin" erbyn hyn, ond mae'n dal yn "digwydd yn achlysurol a'r bobol sydd mewn peryg fel arfer nawr yw'r heddlu".
Wrth siarad â phobl yn Belfast am eu barn am ymweliad yr Arlywydd Biden, mae'r atebion yn amrywio - mae'n dibynnu gyda phwy ry'ch chi yn siarad.
Mae rhai yn obeithiol am heddwch a gweld Stormont yn ailddechrau gweithredu. Ond mae carfan arall dal yn nerfus iawn, ac yn amheus.
"Mae'n rhaid i bawb fod yn amyneddgar iawn," meddai Liam Andrews, gan gyfeirio at benderfyniad plaid unoliaethol y DUP y llynedd i wrthod bod yn rhan o'r weinyddiaeth yn Stormont mewn protest yn erbyn y rheolau masnach sydd mewn grym wedi Brexit.
"[Mae'r] problemau sydd yn perthyn i'r sefyllfa efo'r DUP a'r Torïaid ac yn y blaen - mae'n rhyw fath o bantomeim a'r cwestiwn yw am faint mae'r pantomeim yn mynd i barhau?"
"O'ddan ni'n gweld Brexit fel bod rhywun wedi rhwygo plastar oddi ar y briw o'dd yn ara' deg yn dechra' gwella," meddai Gwawr McGirr.
"O'dd pobl wedi dechra' bildio trust... a ddaru Brexit jyst hollti'r peth.
"Mae 'di bod yn sbel anodd - dwi'n meddwl ma' pobl jyst isio symud ymlaen. Ma' pobl isio gwelliant yn yr ysgolion, ma'r gwasanaeth iechyd yn diodde'..."
Y gwir yw wrth i amser fynd ymlaen heb gytundeb i ailgychwyn gweithredu yn Stormont, fe fydd y bwlch gwleidyddol sy'n bodoli ar y funud yn lledu.
Wrth i bob diwrnod fynd heibio fe fydd hi yn anoddach i'w gau. Dyna yw pryder pobl Gogledd Iwerddon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018