'Siom' canslo pencampwriaeth nofio cenedlaethol funud olaf

  • Cyhoeddwyd
Nofwyr yn rasio mewn pwllFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Problem fecanyddol gyda'r pwll yng Nghaerdydd oedd y rheswm dros orfod canlso'r bencampwriaeth

Mae trefnwyr wedi ymddiheuro ar ôl canslo Pencampwriaethau Cenedlaethol Nofio Cymru oedd i fod i ddigwydd yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Doedd dim dewis ond canslo funud olaf, yn ôl Nofio Cymru, oherwydd trafferthion gyda'r pwll rhyngwladol ym Mae Caerdydd.

Ond roedd rhai o'r nofwyr ifanc a'u teuluoedd eisoes wedi gorfod newid trefniadau ar ôl i'r digwyddiad gael ei symud o Abertawe tua wythnos yn ôl.

Mae rhai wedi colli cannoedd o bunnoedd mewn costau teithio a llety.

Dywedodd Nofio Cymru fod y sefyllfa y tu hwnt i'w rheolaeth, gan gydnabod bod y sefyllfa'n hynod siomedig.

Maen nhw'n gobeithio aildrefnu'r digwyddiad ar ryw ffurf.

Roedd Efa, sy'n 13, eisoes wedi teithio i Gaerdydd o Fangor.

Dywedodd ei mam, Ceinwen wrth raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru: "Fe wnaeth lot o bobl golli lot o bres ar ôl i'r digwyddiad gael ei symud o Abertawe ar ôl talu am westy ac ati.

"Yn lwcus i ni gafon ni'n pres o fanno i gyd yn ôl."

Fe drefnodd iddyn nhw aros mewn gwesty yng Nghaerdydd, ond ar ôl teithio o'r gogledd ddydd Iau fe ddaethon nhw i wybod na fyddai'r gystadleuaeth yn digwydd oherwydd problem mecanyddol yn y pwll.

"Holl bwrpas mynd lawr oedd i gael amseroedd 50 metr ar gyfer y Bencampwriaeth Brydeinig a rhai eraill," meddai Ceinwen.

"Mae'r ffenest yn cau ddiwedd Mai ac wedyn fydd 'na ddim cyfle i gael amser."

'Dim digon o bylliau nofio 50m'

Dywedodd bod un ffrind heb fynd i Gaerdydd am nad oes ganddi "arian i dalu eto" ar ôl gwario £400 yn Abertawe.

Roedd hi ei hun wedi talu dros £400 ac wedi cyrraedd y brifddinas cyn clywed bod y gystadleuaeth wedi ei chanslo am yr eildro.

"'Dan ni ddim yn gweld bai achos ma'r petha' ma' yn digwydd," meddai. "Ond yr un ddadl sy'n codi bob tro, bod 'na ddim digon o byllau 50m yng Nghymru.

"Does 'na ddim yn y gogledd a 'dan ni yn gorfod teithio o hyd lawr i'r de. Nes i lenwi'r car efo £60 o betrol.

"'Sa ni'n byw yng Nghaerdydd, 'sa ni ddim 'di colli dim byd. Mae'n costio lot i fynd lawr - petrol, lle i aros a bwyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd nifer o ymatebion anhapus ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn cyhoeddiad Nofio Cymru gan eraill oedd hefyd wedi trefnu i deithio i Gaerdydd ar gyfer y gystadleuaeth.

Gofynnodd un person a oedd yswiriant gan drefnwyr y gystadleuaeth, gan eu bod nhw wedi teithio o Dubai i gystadlu ar gost o "£3,000".

Dywedodd Nofio Cymru bod "amgylchiadau eithriadol" wedi arwain at eu penderfyniad nos Fercher i ganslo'r gystadleuaeth.

Eglurodd bod problem wedi codi oedd yn rhannu'r pwll 50 metr yn ddau, ac roedd yn fwriad yn y lle cyntaf i gario ymlaen a chynnal rasys ar draws 25 metr yn hytrach.

Ond fore Mercher fe ddaeth i'r amlwg "nad oedd y llawr yn lefel, sy'n groes i reolau World Aquatics ac yn creu risg diogelwch sylweddol".

'Mor siomedig'

Dywedodd nad oedd "dewis ond gohirio" a blaenoriaethu diogelwch y cystadleuwyr.

"Gallwn ond ymddiheuro am y trafferthion sylweddol sydd wedi eu hachosi," dywedodd y trefnwyr yn eu datganiad.

"Rydym yn hynod siomedig gyda'r canlyniad a byddwn yn gweithio gydag ein partneriaid cyfleusterau i sicrhau na fydd sefyllfa debyg yn digwydd eto."

Bydd Nofio Cymru'n ad-dalu ffioedd cystadleuwyr a phris tocynnau gwylwyr.

Byddan nhw hefyd yn rhoi mwy o fanylion maes o law ynghylch cynnal digwyddiad arall sy'n rhoi cyfle i gystadleuwyr gofnodi amseroedd er mwyn cystadlu yn y Pencampwriaeth Prydeinig o fewn y ffenestr gymhwyso.

Gan ymddiheuro "i'r holl gystadleuwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr", dywedodd y trefnwyr na allan nhw "bwysleisio pa mor siomedig yr ydym ar ran pawb sydd wedi eu heffeithio".

Pynciau cysylltiedig