Pryderon difrifol am ddyfodol pyllau nofio cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pwll Cei Connah

Gallai cymaint â 30 o byllau nofio Cymru gau'n barhaol yn sgil pwysau'r pandemig, yn ôl y corff sy'n llywodraethu'r gamp.

Dywedodd Fergus Feeney o Nofio Cymru bod "pryderon dwys" am y sefyllfa, yn enwedig yng nghefn gwlad.

Mae ymchwil gan y sefydliad yn nodi effaith diffyg incwm a buddsoddiad wrth i byllau fod ar gau am gyfnodau hir dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £40m mewn cefnogaeth dros gyfnod y pandemig, ac yn buddsoddi £7m yn ychwanegol eleni.

'Cannoedd o filoedd o bunnau'r flwyddyn'

Cafodd pyllau nofio ailagor ar 3 Mai, ynghyd â champfeydd a chanolfannau cymuned.

Ond yn ôl Angharad Collins, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, mae'n anodd denu digon o incwm i dalu costau rhedeg pyllau ar y funud. Mae cyfyngiadau'n golygu mai 30 person yn unig sy'n cael defnyddio pwll dan do ar yr un pryd.

"Mae'n gost aruthrol - cannoedd o filoedd o bunnau'r flwyddyn," meddai.

Er hynny, mae'n gweld bod defnyddwyr y tri phwll sydd dan ei hadain yn cael budd mawr o'u defnyddio.

"Daeth un fenyw aton ni i ddweud ei bod wedi cyffio'n llwyr yn ystod y pandemig a bod y pwll fel olew iddi," meddai.

Rhybuddiodd bod yr her fwyaf o'u blaenau, gan y bydd y gefnogaeth ariannol gan lywodraethau Cymru a'r DU yn dod i ben ymhen pedwar mis.

"Mae modd inni lwyddo ond bydd angen cefnogaeth y cyhoedd," meddai. "Mi fydd angen cefnogaeth ar bob pwll yng Nghymru i sicrhau eu bod yn aros ar agor."

Pryderon yng nghefn gwlad

Canfu ymchwil gan Nofio Cymru bod 1 o bob 5 pwll yng Nghymru wedi bod ar gau'n llwyr am flwyddyn gron yn ystod y pandemig, gydag 80% yn "anweithredol" am 43 wythnos o'r 52.

Dywedodd Mr Feeney, sy'n brif weithredwr ar y corff, y gallai 10% - tua 30 - o'r holl byllau gau, gyda bygythiad penodol i gyfleusterau yng nghefn gwlad, ble mae cwsmeriaid yn brinnach.

"Mae'n anodd dod â dau ben llinyn ynghyd achos nifer y defnyddwyr ac os ydy'r adnoddau yma'n diflannu o'r cymunedau hyn, yna byddan nhw ar eu colled," meddai.

Galwodd am "ymgyrch genedlaethol" i annog pobl i ddefnyddio'u pwll lleol yn lle eu colli.

'Trist iawn'

Draw yn Sir y Fflint, mae'r nifer sy'n cael gwersi mewn un pwll nofio wedi haneru o gymharu â chyn y pandemig.

"Roedd gennym ni 1,200 yn cael gwersi bob wythnos ond rydym ni lawr i 600 bellach," meddai Simon Morgan o Cambrian Aquatics yng Nghei Connah.

"Mae'n effeithio'n gallu ni i godi'n refeniw ein hunain yn ddifrifol," ychwanegodd.

Dechreuodd Simon redeg y pwll bum mlynedd yn ôl gyda rhieni eraill o'u grŵp nofio.

I'w ferch, Elena Morgan, sy'n 18 ac yn rhan o garfan ddatblygu elît Cymru, mae'r sefyllfa bresennol yn "drist iawn".

Mae'n dweud na fyddai wedi gallu cynrychioli ei gwlad heb ei phwll lleol.

"Fel nofiwr, dwi'n mwynhau'r gamp a dwi'n gwybod bod eraill hefyd, felly mae'n siom gweld pa mor anodd yw hi i byllau nofio," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo pobl i ymdopi gydag effeithiau meddyliol a chorfforol y 14 mis diwethaf.

"Dyna pam yr ydym wedi buddsoddi dros £40m i gefnogi gweithgarwch o'r fath dros gyfnod y pandemig, ac yn buddsoddi £7m yn ychwanegol eleni er mwyn darparu cyfleusterau mwy modern a hygyrch.

"Rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn medru cael mynediad i'r adnoddau yma wrth i'r amodau iechyd cyhoeddus wella a chyfyngiadau'n cael eu llacio."

Pynciau cysylltiedig