Nofwyr y gogledd 'dan anfantais' heb bwll 50m Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Erin PhillipsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Erin Phillips ei bod yn rhwystredig gorfod teithio pum awr weithiau cyn cymryd rhan mewn cystadlaethau

Mae 'na alw am bwll nofio maint Olympaidd - 50m o hyd - yng ngogledd Cymru, gydag ymgyrchwyr yn dweud fod nofwyr ifanc yno "dan anfantais" a bod y drefn bresennol yn "annheg".

Yn ôl Plaid Cymru mae nofwyr yng ngogledd Cymru yn gorfod teithio i Loegr neu i dde Cymru i hyfforddi mewn pwll o'r fath neu i fynychu cystadleuaeth.

Y pryder ydy fod unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes nofio yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny heb yr adnoddau cywir.

Yn ôl Llywodraeth Cymru "does 'na ddim ceisiadau diweddar wedi dod ger eu bron am bwll o'r fath".

Cymry'n llwyddo yn Tokyo

Daw'r alwad wedi llwyddiant nofwyr o Gymru yn y Gemau Olympaidd yn Japan.

Roedd chwech o nofwyr o Gymru'n cystadlu yn Tokyo - y nifer uchaf erioed - a daeth llwyddiant hefyd i Matt Richards a Calum Jarvis wnaeth ennill medalau aur yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd.

Ond doedd yr un o'r chwech yn dod o ogledd Cymru ac mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai pwll 50m yn yr ardal yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl yno ddatblygu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Richards a Calum Jarvis - dau nofiwr Cymreig a enillodd aur yn Tokyo

"Mae angen i bawb yng Nghymru sydd ag uchelgais i nofio dros eu gwlad gael y cyfle i allu ymarfer mewn pwll nofio [50m] mor agos â phosib [i'w cartref]," meddai Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, a llefarydd y blaid dros ddiwylliant a chwaraeon, Heledd Fychan.

"'Dan ni ddim yn meddwl fod o'n dderbyniol fod nifer o'r rheiny sy'n wych yn nofio ddim yn cael yr un cyfleoedd ac yn gorfod teithio gymaint pellach na'r rheiny sydd wedi eu lleoli yn ne Cymru.

"Mae pobl yn gyrru pedair awr neu i Loegr i roi cyfleoedd i'w plant", meddai.

"Mae nifer o ogledd Cymru wedi cysylltu â fi am yr angen yma a'r gwahaniaeth. Mae 'na rai sydd ddim yn parhau oherwydd y prinder cyfleusterau."

Un sy'n gyfarwydd â'r her o orfod cludo ei ferch i galas nofio yn ne Cymru a dros y ffin yn Lloegr ydy Bryn Phillips.

Mae o'n hyfforddi nofwyr ifanc yn Llandudno ac yn dweud fod nofwyr ifanc yn y gogledd dan anfantais.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nofwyr ifanc y gogledd o dan anfantais yn ôl yr hyfforddwr Bryn Phillips

"Dwi'n meddwl i lot o nofwyr ifanc rownd fa'ma - mae'n anfantais fawr o gymharu â rhai yn y de.

"Maen nhw'n cael ymarfer mewn pwll nofio 50 metr bob wythnos a pan ma'n dod at gystadlaethau rhyngwladol maen nhw wedi arfer, mae'n fantais iddyn nhw.

"Arfer ydy o, maen nhw 'di arfer gwneud 50 metr heb droi ar y wal tra bod rhai yma yn troi ar ôl 25m.

"Paratoi am y ras ydy o i gyd."

'Gala'n costio £300-£400'

I gael ymarfer neu gystadlu mewn pwll 50m, mae'n rhaid i bobl o ogledd Cymru deithio i Sheffield, Manceinion neu Lerpwl, neu i lawr i Gaerdydd neu Abertawe.

Mae hynny'n achosi rhagor o flinder a straen ar y cystadleuwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Pwll nofio 25m sydd ym Mangor

Ychwanegodd Bryn: "Mae 'na lot o gost - er enghraifft, os dan ni'n mynd i Gaerdydd neu Abertawe ma 'na gost gwesty dwy noson, petrol, bwytai ac mae'n costio £300-£400.

"Mae lot o'r galas fel yr Urdd - 'dan ni gorfod mynd i'r de eto.

"Ti jest gorfod edrych ar yr Olympics, maen nhw oll o'r de ac mae 'na nofwyr cystal yn y gogledd ond 'dyn nhw ddim ar show mewn cystadlaethau mawr."

Mae merch Bryn, Erin wedi hen arfer deffro'n gynnar i fynd i hyfforddi ond mae hi hefyd am weld pwll mwy i ddatblygu ei sgiliau.

"Mae'n rhwystredig iawn achos ein bod ni'n gorfod teithio pum awr weithiau a dydy hynny ddim yn ffordd dda i baratoi cyn cystadleuaeth.

"Basa pwll mwy yn y gogledd yn caniatáu mwy o gystadlaethau yma sy'n gallu helpu hel pres i gadw'r clybiau i redeg."

Dim cais am bwll 50m

Wrth ymateb i alw ymgyrchwyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gais gan gynrychiolwyr byrddau llywodraethol chwaraeon dŵr Cymru.

Ychwanegodd y bydd hyn yn dod dan faner 'Chwaraeon Gogledd Cymru'- partneriaeth newydd sydd wedi ei sefydlu gan Chwaraeon Cymru ac mai nhw fydd yn delio â cheisiadau o'r fath.

Nid oedd Chwaraeon Cymru am wneud unrhyw sylw.

Dywedodd llefarydd o Nofio Cymru: "Dechreuon ni ymchwilio'r posibilrwydd a chynaliadwyedd o bwll Olympaidd amser maith yn ôl, a chafodd nifer o drafodaethau eu cynnal gyda buddsoddwyr posib.

"Yn anffodus, cafodd y trafodaethau yma eu hatal gan Covid a'i heffeithiau. Rydym yn edrych ymlaen at ailddechrau nhw.

"Mae pwysleisio'r angen am fuddsoddiad ar gyfer cyfleusterau gwell yn hanfodol i gefnogi gweithgareddau dŵr - naill ai ar gyfer iechyd pob dydd neu ysbrydoli'r medalydd Olympaidd Cymraeg nesaf," ychwanegodd.

Er nad oes cais swyddogol wedi'i neud, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r galwadau am bwll Olympaidd yn yr ardal.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Darren Millar: "Mae Cymru yn genedl sy'n frwdfrydig dros sawl math o chwaraeon, ond mae nofwyr elit yng ngogledd Cymru o dan anfantais oherwydd dydyn nhw methu cael at bwll nofio Olympaidd yn yr ardal.

"Mae'n hanfodol bod buddsoddiad mewn talent a chyfleusterau chwaraeon yn cael eu dosbarthu yn deg ar draws Cymru."

Pynciau cysylltiedig