Gweilch Llyn Brenig: Gobaith wedi siom 2021

  • Cyhoeddwyd
y gweilch gydag un wy yn y n yth yn 2021Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr iâr newydd ddodwy un ŵy cyn i'r nyth gael ei ddymchwel y llynedd

Ar ôl siom y llynedd mae 'na obaith am newyddion da eleni i'r pâr o weilch y pysgod sy'n nythu ger Llyn Brenig.

Ddiwedd Ebrill y llynedd aeth rhywun ati efo llif gadwyn yn ystod oriau'r nos i dorri polyn oedd yn dal llwyfan eu nyth i lawr a disgynnodd i'r dŵr a chollwyd yr unig ŵy oedd ynddo.

Ond eleni maen nhw wedi dychwelyd o'r Affrig ac wedi dodwy tri ŵy mewn nyth pwrpasol arall a godwyd ar eu cyfer.

Dywedodd Nick Kite, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, fod digwyddiad y llynedd wedi bod yn un "torcalonnus" ac yn "gic yn y perfedd" i bawb oedd wedi bod yn rhan o brosiect Gweilch y Pysgod ar Lyn Brenig.

Ond mae 'na newyddion da eleni, efo tri ŵy, a dywedodd Nick Kite ei fod wrth ei fodd.

Dywedodd bod 'na gamau diogelwch ychwanegol wedi eu cymryd i warchod y nyth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrodi'r nyth y llynedd yn dorcalonnus, meddai Nick Kite

"Mae gennym wirfoddolwyr sy'n gwarchod y nyth 24 awr o bob dydd," meddai.

"Mae gennym gamerâu ar bolion ac mae gennym ni fesurau eraill cyfrinachol na allwn ni eu datgelu.

"Mae 'na bob gobaith y bydd pethau'n llwyddiannus eleni ac rydyn ni'n edrych ymlaen am ddigon o gywion yn y dyfodol."

Y gobaith ydi y bydd yr ŵy cyntaf yn deor o tua chanol i ddiwedd wythnos nesa'.

Fe fu Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i falu'r nyth y llynedd ond chafodd neb ei ddal.

Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud mewn datganiad: "Yn dilyn difa nyth Gweilch y llynedd yng Nghronfa Ddŵr Llyn Brenig, cynhaliwyd ymchwiliad dwys gyda chyfres o linellau ymholiadau.

"Yn anffodus, ni lwyddwyd i ddal unrhyw un o dan amheuaeth ac mae'r ymchwiliad nawr wedi dod i ben."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrodi'r nyth y llynedd yn dorcalonnus, meddai Nick Kite

Wrth symud ymlaen, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn agos gydag asiantaethau partner, sef yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Phrosiect Gweilch Brenig gyda golwg i wella diogelwch ar y safle a chodi ymwybyddiaeth o'r Gweilch mewn ymgais i leihau unrhyw beryg yn y dyfodol.

"Rydym yn ymwybodol bod tua 50+ yn gwirfoddoli ym Mhrosiect Gweilch Brenig ac mae'r diogelwch wedi gwella gydag offer newydd fel camerâu thermal. Hefyd, mae ffens ychwanegol a chamerâu cylch cyfyng wedi cael eu gosod yn y safle.

"Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu a gofalu am yr adar prin hyn."

Yn gyffredinol mae 'na obeithion mai ehangu fydd hanes gweilch y pysgod yng Nghymru. Y gred ydi bod yna rhyw bum i chwe phâr yn swyddogol yn magu yn y gogledd a'r canolbarth ond mi all fod mwy na hynny.

Ffynhonnell y llun, Gweilch Llyn Brenig
Disgrifiad o’r llun,

Mae gobaith y bydd y cyntaf o'r tri ŵy yn deor ymhen ychydig dyddiau

Kelvin Jones ydi Swyddog Datblygu y BTO yng Nghymru sef yr Ymddiriedolaeth Adaryddu Prydeinig.

"Yn ôl yn 2004 gathon ni'r ddau bâr cyntaf yn Y Trallwng ac ar y Glaslyn ger Porthmadog. Erbyn heddiw mae gen ti o leiaf dau bâr ar y Glaslyn, pâr lawr ar y Dyfi, Llyn Clywedog, i fyny ar y Brenig a faswn i'n synnu dim fasa 'na sawl pâr arall wedi cuddio ar ambell i aber arall rownd Cymru erbyn heddiw.

"Mae nhw'n ffynnu i feddwl bod ni wedi cychwyn o ddau bâr yn 2004."

Dywedodd bod 50 o gywion wedi deillio o'r hen nain ar y Glaslyn.

"Oes mae 'ne ddyfodol gwych iddyn nhw - ond i ni beidio cael yr un broblem a gawson ni llynedd ar Lyn Brenig, does dim byd i stopio nhw rhag mynd i bob aber yng Nghymru."