Pennaeth Dŵr Cymru yn amddiffyn ei record ar lygredd

  • Cyhoeddwyd
Peter Perry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Perry mai yng Nghymru mae "rhai o'r amodau gorau o'i gymharu gyda rhannau eraill o'r DU"

Mae pennaeth Dŵr Cymru wedi amddiffyn record y cwmni ar lygredd mewn afonydd.

Mae Aelodau Seneddol wedi clywed fod pump allan o naw afon yng Nghymru sydd wedi'u dynodi fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs) yn methu targedau llygredd ffosfforws.

Dywedodd Peter Perry ei fod yn derbyn "i rai graddau" nad yw Cymru ble y dylai fod o ran safon dŵr.

"Dydyn ni ddim yn codi o'r gwely pob dydd yn meddwl ein bod ni'n hapus am lygredd - mae hynny ymhell o'r gwir," meddai ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Mae pobl yn y sefydliad yma - ac rwy'n cael synnwyr fod y llywodraeth a rheolaethwyr hefyd - yn ceisio gwella pethau."

'Yma mae rhai o'r amodau gorau'

Dywedodd Mr Perry fod 41% o afonydd Cymru â statws da yn ôl y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, o'i gymharu â 14% yn Lloegr.

Ychwanegodd fod 80% o ddŵr trochi o amgylch arfordir Cymru yn cyrraedd statws "gwych", a bod pobman yn cyrraedd statws "da".

"Mae 'na wastad le i wella a dyna yw ein swydd ni, ond rwy'n credu bod yn rhaid dechrau gyda'r ffeithiau," meddai Mr Perry.

"Yma mae rhai o'r amodau gorau, o'i gymharu gyda rhannau eraill o'r DU."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai eog ddiflannu o Afon Gwy o fewn yr 20 mlynedd nesaf

Aeth ymlaen i amddiffyn ei gyflog o £332,000 yn 2022, oedd ddim yn cynnwys cyfraniadau pensiwn a thaliadau bonws.

"Nid fi sy'n penderfynu ar fy nhâl," meddai.

"Rwy'n gwerthfawrogi fy mod yn cael fy nhalu'n dda - dydw i ddim yn ceisio gwadu hynny.

"Ond o'r bobl sydd â'r un swydd yng Nghymru a Lloegr, fi sydd fwy na thebyg yn cael fy nhalu lleiaf."

Angen 'safbwynt amlsector'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai eog ddiflannu o Afon Gwy - oedd unwaith yn le poblogaidd ar gyfer pysgotwyr - o fewn yr 20 mlynedd nesaf os nad oes gweithredu eithafol.

Yn ymateb i hynny dywedodd Mr Perry fod Dŵr Cymru yn buddsoddi bron i £80m er mwyn lleihau lefelau ffosffad yn yr afon.

"Erbyn 2026 byddwn wedi delio gyda phob gollyngiad mawr o ffosffad o asedau Dŵr Cymru," meddai.

Er hynny, cytunodd ei fod yn bosib y gallai eraill dal fod yn rhyddhau ffosffadau i afonydd tu hwnt i hynny.

Dywedodd mai nid un sector sy'n gyfrifol am lygredd mewn afonydd, ond yn hytrach bod angen cymryd "safbwynt amlsector".

Pynciau cysylltiedig