Gwrthdrawiad Caerdydd: Dosbarthwr parseli wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 54 oed a gafodd ei anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad ar Ffordd y Gogledd yng Nghaerdydd fis diwethaf wedi marw o'i anafiadau yn yr ysbyty.
Cafodd Mark Lang, o ardal Cyncoed y brifddinas, ei daro a'i lusgo o dan ei fan tra'n dosbarthu parseli ar ran cwmni Evri ar 28 Mawrth.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw yno bron i dair wythnos yn ddiweddarach.
Mae dyn 31 oed o Aberdâr wedi ymddangos yn y llys bythefnos yn ôl mewn cysylltiad â'r achos.
Ar hyn o bryd mae Christopher Elgifari wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio.
Yn rhoi teyrnged i Mr Lang, dywedodd ei bartner ei bod yn "anodd rhoi mewn geiriau sut ry'n ni'n teimlo".
"Dydw i ddim yn credu y gallwn ni fyth ymdopi â rhywbeth mor greulon a dibwrpas.
"Trwy hyn oll mae hi wedi bod yn gysur i ni weld cymaint o gefnogaeth gan gymaint o bobl a oedd yn adnabod Mark - ffrindiau, cyd-weithwyr, hen gyd-chwaraewyr yn ogystal â chwsmeriaid a'u cŵn.
"Bydd yn cael ei golli'n fawr."
Ychwanegodd fod y teulu yn diolch i bawb a oedd yn gyfrifol am ei ofal, yn enwedig y gwasanaethau brys a staff yr Ysbyty Athrofaol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023