Ffos-y-fran: Argymell gwrthod ymestyn trwydded gwaith glo

  • Cyhoeddwyd
safle glo brig Ffos-y-FranFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae glofa Ffos-y-Fran wedi bod yn weithredol ers 2007

Dylid gwrthod cynlluniau dadleuol i ehangu'r cyfnod cloddio ar safle glo brig mwyaf y DU, yn ôl cyngor swyddogion cynllunio'r cyngor lleol.

Mae perchnogion glofa Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful eisiau parhau i weithredu tan ddiwedd mis Mawrth 2024.

Ond mae adroddiad gafodd ei gyhoeddi cyn cyfarfod pwyllgor cynllunio yr wythnos nesaf yn dweud y dylai cynghorwyr eu gwrthod.

Mae'r lofa wedi cael cais i wneud sylw.

'Dim digon o arian i adfer y safle'

Daeth caniatâd cynllunio ar gyfer cloddio am lo yn Ffos-y-Fran i ben ar 6 Medi 2022, ar ôl 15 mlynedd.

Ond ddyddiau cyn y dyddiad hwnnw, dywedodd y cwmni sy'n rhedeg y safle eu bod yn gofyn am estyniad - naw mis i ddechrau, cyn diwygio hynny i 18.

Roedden nhw hefyd am wthio'r dyddiad yn ôl ar gyfer adfer y safle yn derfynol i 30 Mehefin 2026.

Byddai hyn yn caniatáu i 240,000 tunnell arall o lo gael ei gloddio, meddai'r cwmni - a chynnig amser i baratoi cynllun diwygiedig ar gyfer adfer y safle oherwydd bod "dim digon o arian" wedi'i roi i'r naill ochr.

Roedd y cwmni wedi dadlau y dylid ystyried eu rôl yn cyflenwi gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gyda ffynhonnell leol o lo fel un o arwyddocâd cenedlaethol, tra bod galw hefyd gan amrywiaeth o farchnadoedd llai gan gynnwys rheilffyrdd stêm treftadaeth.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y drwydded i gloddio ar y safle i fod i ddod i ben ym mis Medi 2022

Mae polisi glo Llywodraeth Cymru'n atal datblygu unrhyw byllau glo newydd neu ehangu'r rhai presennol heblaw am mewn "amgylchiadau cwbl eithriadol".

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (MTCBC), dywedodd pennaeth cynllunio'r cyngor, Judith Jones fod yr cais wedi methu â chyrraedd y meini prawf hynny.

Ychwanegodd bod y lofa wedi honni bod ôl troed carbon cludo glo o Ffos-y-Fran i Bort Talbot bum gwaith yn llai na'i fewnforio o wledydd fel Venezuela neu Awstralia, ond nad oedden nhw wedi cynnig "unrhyw dystiolaeth bendant" i gefnogi hynny.

"Ar y sail honno, ni ellir dod i'r casgliad bod angen yr echdynnu yng nghyd-destun datgarboneiddio a thargedau lleihau allyriadau newid hinsawdd," meddai.

Roedd y pwll hefyd wedi honni bod arferion gwaith a oedd eu hangen yn ystod pandemig Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar allbwn y safle.

Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad "nad oedd yn cael ei ystyried bod y dadleuon hyn yn cario unrhyw bwysau sylweddol".

Angen adfer y safle

Yn olaf mae'n diystyrru honiadau'r cwmni nad ydyn nhw bellach mewn sefyllfa i ariannu'r gwaith o adfer y safle yn llawn.

"Mae'r ymgeisydd yn gwybod ers blynyddoedd lawer y byddai angen adfer y safle yn derfynol, a chyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd hi, yn ystod cyfnodau cynhyrchiol echdynnu glo, i wneud y ddarpariaeth ariannol angenrheidiol i gyflawni ei rhwymedigaethau adfer," meddai'r adroddiad.

"Ni ddylid rhoi pwysau i unrhyw honiadau nad yw'r ymgeisydd bellach mewn sefyllfa i wneud hynny, yn enwedig yn niffyg unrhyw ddatgelu adnoddau ariannol tryloyw a 'llyfr agored' gan yr ymgeisydd."

I gloi dywedodd yr adroddiad "na fyddai unrhyw fuddion lleol na chymunedol yn cael eu darparu sy'n amlwg yn drech nag anfanteision niwed amgylcheddol parhaol y datblygiad" - gan argymell bod cynghorwyr lleol yn gwrthod y cais.

Bydd pwyllgor cynllunio MTCBC yn cwrdd ddydd Mercher 26 Ebrill i drafod y cais, dros saith mis ar ôl iddo gael ei gyflwyno.

Dywedodd ymgyrchwyr newid hinsawdd yr wythnos diwethaf eu bod nhw'n ystyried camau cyfreithiol ynglŷn â honiadau bod cloddio'n parhau ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Haf Elgar bod y dadlau dros ddyfodol y safle wedi "rhygnu mlaen am hen ddigon o amser"

Dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear: "Rydyn ni'n hynod o falch bod yr asesiad gan Gyngor Merthyr yn argymell yn glir y dylid gwrthod y cais i barhau i gloddio glo yn Ffos y Fran.

"Mae hyn wedi rhygnu mlaen am hen ddigon o amser ac mae'n rhaid dod â hyn i ben nawr - er lles trigolion lleol sy'n dioddef llygredd aer a sŵn, ac er mwyn y blaned.

"Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd ac mae glo yn rhan o'n treftadaeth, nid o'n dyfodol. Rydym yn galw ar gynghorwyr Merthyr i ddilyn cyngor eu swyddogion a gwrthod y cais yn eu cyfarfod wythnos nesaf."

Mae'r cwmni sy'n rheoli'r safle - Merthyr (South Wales) Ltd - wedi cael cais i wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig