Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-0 Yeovil
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam un fuddugoliaeth i ffwrdd o sicrhau dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Pêl-droed Lloegr, ar ôl curo Yeovil ar y Cae Ras.
Roedd y Dreigiau'n gwybod y byddai triphwynt, a hynny yn erbyn tîm yn safleoedd y cwymp, yn gam mawr tuag at eu nod o ennill y Gynghrair Genedlaethol.
Ond er i Wrecsam gael y gorau o'r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, doedd eu hymosodwyr nhw ddim yn tanio fel yr arfer ac roedd hi'n parhau yn hafal ar yr egwyl.
Parhau i wneud pethau'n rhwystredig i Wrecsam wnaeth Yeovil ar ddechrau'r ail hanner, ond fe ddaeth y gôl agoriadol i'r Dreigiau o'r diwedd wedi awr o chwarae wrth i Anthony Forde danio i gefn y rhwyd.
Agorodd y lliffddorau wedyn, gyda goliau pellach i James Jones a Paul Mullin o fewn pum munud i'w gilydd yn sicrhau'r fuddugoliaeth.
Mae'n golygu bod Wrecsam yn ymestyn eu mantais dros Notts County ar frig y tabl i bedwar pwynt, gyda dwy gêm yn weddill i'r ddau dîm.
Maen nhw hefyd wedi cyrraedd 107 o bwyntiau yn y tabl, sy'n record mewn un tymor ar gyfer y Gynghrair Genedlaethol ac ar gyfer tîm yng nghynghreiriau proffesiynol Lloegr.
Bydd y Dreigiau'n sicrhau dyrchafiad ddydd Sadwrn ar y Cae Ras os ydyn nhw'n trechu Boreham Wood, a hynny cyn iddyn nhw deithio i Torquay ar ddiwrnod olaf y tymor.
Ond roedd heno'n noson siomedig i Yeovil, sy'n 22fed yn y tabl a bellach yn sicr o ddisgyn o'r gynghrair.