Dim camau pellach ar ddiwedd ymchwiliad '£122m coll' Betsi

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae ymchwiliad i dwyll posib gwerth miliynau o bunnau i fwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dod i'r casgliad bod dim angen cymryd camau pellach.

Cafodd ymchwilwyr arbenigol Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru eu galw y llynedd ar ôl i archwilwyr ddweud bod o leiaf £122m heb eu cofnodi'n gywir yng nghyfrifon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd y bwrdd ddydd Mawrth eu bod nawr am gynnal ymchwiliad mewnol i'r mater "yn unol â'i weithdrefnau a pholisïau".

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Mae ymchwiliad Gwasanaeth Twyll GIG Cymru yn gysylltiedig â barn Archwilio Cymru ynghylch cyfrifon ariannol y Bwrdd Iechyd ar gyfer 2021-22 wedi dod i ben a does dim camau pellach yn cael eu cymryd."

Corff annibynnol yw Gwasanaeth Twyll GIG Cymru sy'n ymchwilio i honiadau yn gynnwys troseddau economaidd posib o fewn y GIG fel twyll a llwgrwobrwyo.

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei roi, am yr eildro yn ei hanes, dan fesurau arbennig ym mis Chwefror.