Trawsblaniad achub bywyd 'ar ôl cwrdd ar hap ar draeth'

  • Cyhoeddwyd
Katie a LucyFfynhonnell y llun, Cenydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Pan wnaeth Lucy (dde) gyfarfod Katie ar draeth Y Barri, doedd dim syniad ganddi pa mor arwyddocaol fyddai hynny i'r ddwy ohonynt

Pan aeth Lucy Humphrey am dro i'r traeth gyda'i phartner a'u cŵn yn 2021, roedd hi'n bosib mai ond ychydig flynyddoedd oedd ganddi i fyw.

Ond wedi iddi gyfarfod person dieithr ar hap gafodd ei "dewis" gan ei chi, fe newidiodd ei bywyd.

Roedd Lucy wedi bod yn byw ers degawd a hanner gyda lupus - cyflwr sy'n achosi llid ar y galon, ysgyfaint, iau, arennau a'r cymalau - cyn i'w harennau fethu yn 2016.

Er iddi gael triniaeth dialysis, cafodd wybod yn 2019 ei bod hi'n bosib mai ond pum mlynedd oedd ganddi i fyw os na fyddai'n cael trawsblaniad.

Cwrdd ar hap yn Y Barri

Roedd Lucy, 44, a'i phartner Cenydd Owen, 49, o Gaerffili wedi prynu cerbyd gwersylla er mwyn mynd â'u cŵn - Jake ac Indie - i ffwrdd am benwythnosau.

Ond gyda Lucy'n derbyn triniaethau, cafodd tripiau eu gohirio - gan gynnwys deuddydd yn Aberystwyth yr oedden nhw wedi bwriadu ei gymryd ym mis Mehefin 2021.

Yn hytrach, felly, fe aethon nhw i draeth Cold Knap yn Y Barri ym Mro Morgannwg.

Ar ôl parcio'u cerbyd gwersylla gerllaw a dechrau barbeciw, fe sylweddolodd Lucy bod un o'r cŵn yn mynd at ddynes "tua 100 llath i ffwrdd".

"Roedd hi'n cario 'mlaen mynd 'nôl a 'mlaen iddi ac roedden ni'n ei galw hi 'nôl, achos yn amlwg mae Doberman mawr yn gallu bod tamaid bach yn ofnus," meddai.

"Yn y diwedd fe aethon ni draw i ymddiheuro iddi."

Ffynhonnell y llun, Cenydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Lucy draw am sgwrs gyda Katie i ddechrau am ei bod hi'n poeni bod un o'i chŵn yn ei phoenydio

Y person dieithr hwnnw oedd Katie Jones, 40, o'r Barri, oedd yn eistedd ar y traeth yn gwneud gwaith crosio.

Ar ôl deall nad oedd ganddi hi broblem gyda'r ci, fe wnaeth Lucy a Cenydd ei gwahodd i ymuno gyda nhw i gael barbeciw.

"Daeth hi draw, dod â'i diod gyda hi, a chynnig peth i mi," meddai Lucy.

"Esboniodd Cenydd mod i methu yfed gan 'mod i ar dialysis. Fe wnaeth hi ofyn pam, a dywedodd 'mod i'n aros am drawsblaniad aren."

Grŵp Whatsapp yr aren

Ar ôl clywed hynny, esboniodd Katie ei bod hi newydd ymuno â'r rhestr trawsblaniadau aren - a'i bod hi'n barod i roi un i "bwy bynnag oedd eisiau un".

Fe wnaeth Katie a Lucy gymryd manylion cyswllt ei gilydd a chysylltu gyda chydlynydd rhoi organau y diwrnod wedyn.

"Fe gymerodd hi'r profion i gyd ac fe ddaethon nhw 'nôl yn nodi ei bod hi'n match perffaith," meddai Lucy.

"Dywedodd llawfeddyg wrthon ni mai siawns un mewn 22 miliwn oedd ffeindio'r match perffaith, a dyna oedd ei angen arna' i oherwydd bod gen i lupus."

Ffynhonnell y llun, Lucy a Cenydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd Covid, bu oedi cyn i Lucy allu cael y llawdriniaeth trawsblaniad a derbyn yr aren gan Katie

"Fe gymerodd y trawsblaniad ychydig o amser, oherwydd Covid, felly roedd e'n cario 'mlaen cael ei ohirio," ychwanegodd.

Wrth iddyn nhw i gyd aros, fe wnaeth Katie sefydlu grŵp ar Whatsapp o'r enw The Kidney Gang.

"Bob tro roedd hi'n mynd i'r ysbyty roedd hi'n rhoi gwybod i ni sut oedd pethau, ac anfon negeseuon a lluniau," meddai Cenydd.

"Mae gen i'r recordiadau i gyd o hyd, pa mor gyffrous oedd hi ei bod hi'n gwneud rhywbeth da. Mae e jyst yn anghredadwy bod rhywun hollol ddieithr wedi rhoi bywyd Lucy yn ôl iddi."

'Wastad gobaith'

Fe ddigwyddodd y trawsblaniad ar 3 Hydref 2022 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac ers hynny mae Lucy yn gwella.

"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn 'mod i wedi dod i 'nabod Lucy, fod e wedi gweithio a bod hi mas yna'n byw ei bywyd," meddai Katie.

"I fi, does dim ochr negyddol i'r peth o gwbl.

"Fi'n teimlo cywilydd weithiau pan fi mas gyda Mam-gu ac mae'n dweud wrth berson dieithr 'mae fy wyres i wedi rhoi aren'.

"Ond hwn yw'r peth gorau 'dw i erioed wedi gwneud, dwi'n teimlo mor falch o fy hun ac mae fy nheulu'n falch ohona i."

Ffynhonnell y llun, Cenydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cenydd bod Katie (canol) yn berson "mor rhyfeddol ac anhunanol" wedi iddi roi ei haren i'w wraig Lucy

Gyda Lucy wedi bod yn aros am flynyddoedd am drawsblaniad, mae hi'n ddiolchgar iawn hefyd i ddyfalbarhad ei chi.

"Roedd e fel bod Indie bron wedi gweithio hi mas a'i dewis hi," meddai.

"Mae'r trawsblaniad wedi newid fy mywyd i'n barod."

Ychwanegodd Cenydd: "Rydyn ni eisiau dangos bod wastad gobaith i bobl. Peidiwch rhoi lan, achos chi byth yn gwybod.

"Doedden ni ddim hyd yn oed am fynd i'r traeth y diwrnod yna. Mae llawer o bobl dda mas yna."

Pynciau cysylltiedig