Angerdd cefnogwyr Wrecsam yn Alabama
- Cyhoeddwyd
Mae llwyddiant diweddar tîm pêl-droed Wrecsam wedi cydio yn nychymyg pobl o bob cwr o'r byd, ac wedi creu byddin o filoedd o gefnogwyr sy'n angerddol am y clwb a'i stori ymhell o'r dinas yng ngogledd Cymru.
Mae nifer helaeth o'r cefnogwyr yn dod o America a Canada ac wedi cychwyn dilyn y clwb ar ôl gwylio'r gyfres ar Disney, Welcome to Wrexham, sy'n dilyn hanes yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wrth iddynt brynu'r clwb.
Bu Cymru Fyw'n holi rai o'r cefnogwyr newydd i weld pam fod y rhaglen a'r tîm wedi cydio yn eu dychymyg nhw.
Mae Daysha Lowery o Alabama yn 37 oed ac yn aelod o'r Alabama Reds, criw o gefnogwyr Wrecsam yn America. Yn fam i ddau o blant mae hi'n ffan nid yn unig o'r tîm pêl-droed ond hefyd o ddiwylliant Wrecsam ac wedi cychwyn dysgu Cymraeg oherwydd hynny.
Gwyliais i Welcome to Wrexham am y tro cyntaf ym mis Awst neu Medi 2022 ac mi wnaeth y stori a'r lle gydio ynda'i yn syth. Sut allech chi beidio cael eich tynnu fewn?
Roedden nhw'n gwybod beth 'oedden nhw'n ei wneud gyda'r gyfres, yn targedu gwylwyr gyda phob emosiwn. Y mwyaf o'n i'n dilyn y tîm a chymysgu â chefnogwyr eraill, roedd hi'n game over i fi!
Ro'wn i'n rhoi cynnig ar fwydydd newydd, yn dysgu tamaid o iaith newydd, sef y Gymraeg, a ches i fy nghroesawu i'r gymuned newydd gyda breichiau agored.
Angerdd
Dwi wrth fy modd bod y tîm fel petaent yn adnabod ac yn gwerthfawrogi eu rôl yn y gymuned. I gefnogwyr Wrecsam mae'n gymaint mwy na chlwb pêl-droed, sy'n dweud cymaint am y perchnogion.
Dwi wir yn credu bod y perchnogion yn poeni am les Wrecsam. Dwi'n gwylio pob gêm dwi'n gallu ac wedi gwylio rhan fwyaf ohonyn nhw erbyn hyn.
Pan dwi'n methu gwylio, dwi'n gwrando ar Mark Griffiths ar wefan Wrecsam. Dyna sut o'n i'n dilyn gemau ar y dechrau oherwydd doedden ni ddim yn gallu gwylio'r gemau ar y teledu (yn Alabama) i gychwyn.
Mae'r llwyddiant diweddar yn anhygoel. Mae pob buddugoliaeth yn gwneud i fi feddwl am y cefnogwyr sy' wedi bod yn dilyn y tîm ers llawer hirach na fi, trwy'r holl lwyddiannau a'r methiannau gymerodd e i gyrraedd yma. Dwi jyst yn gwybod bod nhw wrth eu boddau!
Dysgu'r iaith trwy Duolingo
Mae dysgu Cymraeg yn anodd. Ond dwi'n gweithio arno fe'n araf bach. Penderfynais ddechrau dysgu am fy mod i o hyd yn gweld pethau'n cael eu postio yn Gymraeg, ac ro'wn i eisiau gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud. Wedyn fe wnes i 'chydig o ddarllen am hanes yr iaith Gymraeg a 'nath hynny i fi fod eisiau dysgu'r iaith hyd yn oed yn fwy. Mae wedi bod yn gynnydd araf, ond cynnydd serch hynny!
Mae'n freuddwyd i fi i ddod i Wrecsam. Mae cymaint o bobl hoffwn eu cyfarfod yn bersonol!
Gwylio'r gêm yn erbyn Boreham Wood
Roedd gwylio'r gêm yn straen! Ro'wn i yn y standiau tu allan i ysgol uwchradd (yn Alabama). Roedd y gôl gyntaf honno gan Boreham Wood yn llawer rhy gynnar - roedden nhw wir wedi dod i chwarae! Ro'wn i'n gallu mynd adref 'chydig cyn hanner amser a gorffen gwylio'r gêm o fy ystafell fyw.
Roedd y fuddugoliaeth yn anhygoel! Alla'i ddim dweud celwydd - o'n i'n crio. Ro'wn i'n gwrando ar y sylwebaeth o wefan Wrecsam a dechreuodd Chay (gwirfoddolwr yn y clwb) fynd yn emosiynol. Roeddech chi'n gallu clywed hynny yn ei lais. A dechreuais i golli rheolaeth hefyd!
Yna o'n i'n clywed cyffro Mark Griffiths yn ei lais. Ac fe ddechreuon nhw ddangos y cefnogwyr ac roeddech chi'n gallu gweld eu ymateb nhw wrth iddyn nhw ddechrau deall bod Wrecsam yn mynd i ennill.
Roedd cymaint o bobl wedi ymladd am y diwrnod hwn. Roedd yn foment hollol hyfryd i fod yn rhan ohoni, hyd yn oed o bell.
Mae Joe Donahue yn beiriannydd meddalwedd o Alabama ac hefyd yn aelod o Alabama Reds. Hedfanodd Joe i Wrecsam er mwyn gwylio'r gêm yn erbyn Boreham Wood nos Sadwrn.
Glywais i am Wrecsam am y tro cyntaf ar y rhaglen ddogfen (ar Disney) a dechreuais i gymryd diddordeb ar unwaith yn y tîm, y gynghrair, a phopeth am ymgais y tîm am ddyrchafiad.
Fe wnes i wir gysylltu â'r rhaglen ddogfen a sut y'i gwnaed i geisio gwella'r ddinas a dod â thwristiaeth yno. Yn y pen draw, cyrhaeddais y pwynt lle ro'wn i'n deffro am 6 y bore ar ddyddiau Sadwrn dim ond i wrando ar y gemau oherwydd bod gen i cymaint o ddiddordeb yn eu perfformiad.
Stori y tîm a'r clwb
Mae mor afaelgar. Gallwch chi wir ddeall y diwylliant o gwmpas y tîm o'r rhaglen ddogfen. Dwi wrth fy modd â hynny amdano.
Dwi hefyd wrth fy modd gyda'r ffaith gallwch chi fod filoedd o filltiroedd i ffwrdd a dal i deimlo'n rhan o bopeth o hyd.
Dwi'n trio gwylio pob gêm. Mae llawer o'r gemau'n digwydd tra dwi'n gweithio, ond dwi'n trio gwrando ar bob gêm dwi'n gallu.
Dod i Gymru
A dweud y gwir ro'wn i eisiau bod o gwmpas ar gyfer yr holl gyffro. Ro'wn i eisiau profi sut beth oedd bod yn y ddinas ar gyfer y gêm (yn erbyn Boreham Wood).
Roedd (y gêm) yn hollol anhygoel. Roedd cymaint o egni yn y stadiwm. Yr eiliad orau oedd gweld Mullin yn sgorio'r gôl i achub y blaen.