Gyrrwr yn pledio'n euog i achosi marwolaeth merch 17 oed

  • Cyhoeddwyd
Chloe HaymanFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chloe Hayman, 17, yn teithio yn yr un car â Keilan Roberts

Mae dyn 22 oed o Sir Gaerffili wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth merch 17 oed tra'n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Roedd Chloe Hayman, 17 oed o Aberpennar, yn teithio yn yr un car â Keilan Roberts o Rymni ar y pryd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y gyrrwr wedi cymryd ketamine, cocên ac ecstasi a'i fod hefyd dros y terfyn alcohol pan fu'r car mewn gwrthdrawiad yn ardal Fochriw fis Gorffennaf y llynedd.

Dim ond un car oedd yn y gwrthdrawiad, a bu farw Ms Hayman yn y fan a'r lle.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond un car oedd yn y gwrthdrawiad ger Fochriw ym mis Gorffennaf y llynedd

Yn dilyn ei marwolaeth fe wnaeth ei theulu roi teyrnged iddi, gan ddweud ei bod yn "ferch hardd, gariadus a gofalgar".

Fe wnaeth Roberts bledio'n euog i bedwar cyhuddiad gwahanol o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal tra dan ddylanwad.

Ni chafodd fechnïaeth a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ddedfrydu 22 Mai.

Pynciau cysylltiedig