Y Cymro Elfyn Evans yn ennill Rali Croatia
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Elfyn Evans i guro'i wrthwynebwyr o 27 eiliad
Fe wnaeth y Cymro, Elfyn Evans, ennill Rali Croatia ddydd Sul.
Yn dilyn wyth cymal ddydd Gwener, roedd Evans yn eistedd 5.7 eiliad y tu ôl i Thierry Neuville.
Ond ar ôl i Neuville gael gwrthdrawiad ddydd Sadwrn, fe aeth y Cymro ar y blaen.
Aeth Evans a'i gyd-yrrwr Scott Martin i mewn i ddydd Sul ar y blaen o 25.4 eiliad.
Llwyddodd i ymestyn i 27 eiliad erbyn diwedd y ras er mwyn bachu'r fuddugoliaeth.
Mae'n golygu bod Evans yn hafal ar frig y bencampwriaeth ar hyn o bryd gyda Sebastian Ogier, a hynny wedi pedair o'r 13 rali.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.