'O'n i'n ofnadwy o lwcus i gael trawsblaniad mewn pryd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Stori Lois Owens: Y ferch sydd wedi cael tri thrawsblaniad iau

Mae dynes o Bwllheli sydd wedi cael tri thrawsblaniad ar ei iau yn dweud ei bod hi "dal yr un mor bwysig" i bobl yng Nghymru drafod rhoi organau gyda'u teulu.

Fe gafodd Lois Owens, 30, ei thrawsblaniad diwethaf ddwy flynedd yn ôl, ac oherwydd bod angen hwnnw ar frys roedd hi'n "ofnadwy o lwcus" i dderbyn yr iau mewn pryd i achub ei bywyd.

Ers 2015 mae Cymru wedi newid i system ble maen nhw'n cymryd bod cydsyniad i roi organau, oni bai bod person yn dweud yn benodol nad ydyn nhw eisiau gwneud.

Ond yn ôl Lois, dyw hynny ddim wastad yn ddigon, gan fod teuluoedd dal yn medru rhwystro'r broses - ac felly mae'n annog pobl i gael y sgwrs gan fod "neb yn gwybod be' sydd rownd y gornel".

Daw hynny wrth i ffigyrau ddangos bod Cymru bellach y tu ôl i wledydd eraill y DU pan mae'n dod at nifer y bobl sy'n cydsynio ac wedi cofrestru i roi organau - er iddyn nhw gyflwyno eu deddf nhw'n llawer cynt.

Newyddion 'dychrynllyd'

Cafodd Lois ei geni gyda chyflwr geneteg oedd yn arwain at sirosis ar yr iau, ac fe gafodd ddau drawsblaniad erbyn ei bod hi'n 14 oed.

Daeth y trydydd un yn 2021 yn "hollol annisgwyl", ac yn hytrach nag aros blynyddoedd am drawsblaniad fel gyda'r ddau gyntaf, roedd yn rhaid ceisio dod o hyd i organ ar frys.

"Mi o'n i'n lwcus iawn i'w gael o munud olaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Lois Owens
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Lois bedwar mis yn yr ysbyty pan gafodd hi ei thrydydd trawsblaniad, ac ar un adeg roedd yn poeni a fyddai'n cael organ mewn pryd

"Roedden nhw wedi dechrau deud doedden nhw ddim yn siŵr os oedden nhw'n mynd i gael yr iau i fi mewn pryd.

"Mae cael clywed hynna'n eitha' trawiadol, eitha' dychrynllyd, ond eto mae'n gwneud i rywun deimlo'n ofnadwy o lwcus."

Fe dreuliodd Lois bedwar mis yn Ysbyty Gwynedd ac yna Ysbyty King's College, Llundain - "profiad ofnadwy o ynysig, ofnadwy o trawmatig" oherwydd y cyfyngiadau Covid.

Roedd hi'n "rhyddhad" mawr felly i ddychwelyd adref ar ôl ei thrawsblaniad.

"Y peth cynta' 'nes i, ac oedd hi'n 20:00 y nos pan nes i gyrraedd adra, oedd mynd â'r ci a mynd efo Mam am dro i'r traeth sydd lawr fan 'ma," meddai.

"A dwi'n meddwl oedd jyst cael anadlu awyr iach a môr Pen Llŷn yn anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Lois am dro i draeth Pwllheli gyda'i mam Rhian a'i chi Moi cyn gynted ag yr oedd hi adref o'r ysbyty

Ers y trawsblaniad mae Lois yn dweud ei bod hi'n gallu "byw bywyd normal iawn", a'i bod hi'n teimlo'n "ofnadwy o iach ac lwcus".

Ond fe drodd ei meddwl hefyd tuag at y person oedd wedi rhoi'r iau iddi ar gyfer y trawsblaniad.

Doedd hi ddim yn cael gwybod unrhyw fanylion am y person nac amgylchiadau ei marwolaeth, dim ond ei bod hi'n ddynes 32 oed.

Ond drwy'r gwasanaeth trawsblaniad, roedd hi'n medru anfon llythyr at deulu'r person - profiad oedd yn llawn emosiynau gwahanol iddi.

"Pan wyt ti'n cael iau neu organ arall gan rywun, mae'r teimlad 'na bod gen ti gyswllt efo nhw yn sicr yna," meddai.

"Mae 'na elfen o euogrwydd yna hefyd, a dwi 'di siarad efo pobl eraill sydd 'di cael trawsblaniad, ac maen nhw'n teimlo'r un peth - elfen o euogrwydd, y teimlad 'na bod chdi angen 'neud y gorau o'r ail gyfle, trydydd cyfle.

"Mae'n bwysig bod chdi'n cydnabod ac o leia'n rhoi'r cynnig i'r teulu gael gwybod mwy amdana chdi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois bellach wedi ysgrifennu llythyr at deulu'r person oedd wedi rhoi'r iau iddi

'Galw yn cynyddu'

Ers i'r ddeddf newid yng Nghymru mae cynnydd graddol wedi bod yn nifer y bobl sydd ar y rhestr rhoi organau, gyda 43% o bobl bellach ar y rhestr.

Ond gyda Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno deddfau tebyg yn 2020 a 2021, mae gweddill gwledydd y DU bellach ar gyfraddau o tua 50%.

Ar un adeg yn 2018/19, fe wnaeth cyfradd cydsynio trawsblaniadau Cymru gyrraedd 77%, yr uchaf ym Mhrydain o bellffordd.

Ond mae'r canran hwnnw wedi gostwng ychydig ers y pandemig, ac yn ôl y ffigyrau diweddaraf yn 2021/22, mae'r canran hwnnw hefyd bellach yn is nag unrhyw ran arall o'r DU, am y tro cyntaf ers saith mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi arwain y ffordd o ran cyflwyno system caniatâd tybiedig, a'i bod yn "helpu i wella cyfraddau cydsynio i roi organau".

"Rydym yn annog teuluoedd i siarad â'i gilydd am yr hyn y byddent am ei weld yn digwydd pe gallent fod yn rhoddwr organau," meddai.

"Mae'r gallu i gofrestru penderfyniad ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau hefyd yn dal i fod yno, a hoffwn weld cynifer o bobl a phosib yn siarad am y mater hwn."

Mae'r ymgynghorydd Dr Dai Samuel yn un o lysgenhadon Ymddiriedolaeth Afu/Iau Cymru, ac yn dweud bod angen i bobl barhau i drafod rhoi organau er gwaetha'r deddfau sydd bellach mewn lle.

"Mae'r ddeddf falle 'di 'neud i rai pobl meddwl does dim angen siarad am hyn nawr, achos mae'n cael ei gymryd ym awtomatig byddwch chi'n fodlon rhoi organau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Lois Owens
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lois ei thrawsblaniad iau cyntaf pan oedd hi'n dair oed

"Yn ail, mae dal yn beth tabŵ i siarad am drawsblaniad a rhoi organau, yn enwedig yng Nghymru a falle'r Cymoedd, lle mae'n draddodiadol i beidio siarad am farw.

"Ac yn drydydd, mae'r galw am organau'n mynd lan.

"Dwi'n gweithio fel ymgynghorwr hepatoleg, ac mae clefyd yr afu yn lynd lan, mae sirosis yn mynd lan, ac mae'r niferoedd sy'n mynd ar y rhestrau trawsblaniad yn cynyddu bob blwyddyn, yn enwedig nawr wrth i ni ddod allan o Covid."

Ychwanegodd Dr Samuel fod problemau yfed gafodd eu hamlygu ymhlith rhai pobl yn ystod y pandemig yn golygu fod galw am drawsblaniadau iau yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch yn y dyfodol.

Mae sicrhau bod cymaint o bobl â phosib wedi cydsynio i roi organau'n hollbwysig felly, meddai.

"Pan 'dych chi jyst 'di colli, neu'n mynd i golli rhywun sy'n agos atoch chi, ma' fe'n amser caled i wneud y penderfyniad 'ny.

"Ond hefyd i'r claf sy'n aros am afu, mae'n galed iawn iddyn nhw fod ar y rhestr aros 'na, yn byw 'da'r ffaith gallen nhw farw cyn cyrraedd y trawsblaniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois bellach yn byw bywyd iach "sy'n ddim gwahanol i unrhyw un arall fy oed i"

"Felly ma' fe'n galed iawn yn seicolegol i'r claf ei hun, i'r teulu, a theulu'r person sy'n rhoi'r organ.

"Ond ma' fe'n gift mor anhygoel i'r claf... a fi'n eithaf lwcus i fod mewn system sy'n gallu rhoi bywyd newydd i rywun oedd falle oriau o farw."

Ategu hynny mae Lois, gan ddweud bod dewis cofrestru i roi organau hefyd yn golygu bod gan bobl fwy o reolaeth dros yr amgylchiadau a pha organau maen nhw'n hapus i'w rhoi.

"Yr hyn dwi'n drio ei annog ydi bod y sgwrs yn digwydd, a bod o'n digwydd cyn i rywbeth fynd o'i le," ychwanegodd.

"Does neb yn gwybod be' sydd rownd y gornel."