Gyrrwr fan yn cyfaddef achosi marwolaeth dyn a menyw

  • Cyhoeddwyd
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantgarw
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn agos i dafarn The Station Inn ar Heol Nantgarw ym mis Mawrth

Mae gyrrwr fan wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth dyn a menyw mewn gwrthdrawiad fis diwethaf.

Fe blediodd Michael Saltmarsh, 48, yn euog i bedwar cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Bu farw menyw 67 oed yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Nantgarw, Caerffili am 19:50 ar 17 Mawrth.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent yn ddiweddarach fod dyn 58 oed hefyd wedi marw o'i anafiadau. Roedd y ddau yn dod o Gaerffili.

Plediodd Saltmarsh, o Gaerffili, yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Fe wnaeth hefyd gyfaddef gyrru cerbyd tra'i fod dros y trothwy yfed a gyrru, yn ogystal â chyhuddiad o beidio â stopio ar ôl gwrthdrawiad ffordd.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 22 Mai.

Pynciau cysylltiedig